- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
72.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i gyfarfodydd pwyllgor gael eu cynnull gan glerc y pwyllgor hwnnw ac mae’n rhaid iddo, wrth arfer y swyddogaeth honno, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan—
(a)y corff llywodraethu;
(b)cadeirydd y pwyllgor hwnnw, i’r graddau nad yw unrhyw gyfarwyddyd o’r fath yn anghyson ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan is-baragraff (a).
(2) Oni phenodwyd clerc, rhaid i’r cadeirydd gynnull cyfarfodydd pwyllgorau ac mae’n rhaid iddo, wrth arfer y swyddogaeth hon, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan y corff llywodraethu.
(3) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a roddir yn unol â pharagraffau (1) neu (2), rhaid i’r clerc roi, o leiaf bum niwrnod gwaith clir ymlaen llaw, i bob aelod o’r pwyllgor ac i bennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal (p’un a yw’r person hwnnw yn aelod o’r pwyllgor ai peidio)—
(a)hysbysiad ysgrifenedig o’r cyfarfod;
(b)copi o agenda’r cyfarfod; ac
(c)unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill sydd i’w hystyried yn y cyfarfod;
ond bydd yn ddigon, pan fo cadeirydd y pwyllgor yn penderfynu hynny ar y sail bod materion sy’n galw am sylw brys, i’r hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarfod nodi’r ffaith honno ac i’r hysbysiad, yr agenda, a’r adroddiadau neu’r papurau eraill sydd i’w hystyried yn y cyfarfod gael eu rhoi o fewn cyfnod byrrach yn ôl cyfarwyddyd neu benderfyniad y person hwnnw (yn ôl y digwydd).
(4) Nid annilysir trafodion pwyllgor gan—
(a)unrhyw le gwag ymhlith ei aelodau; na
(b)unrhyw ddiffyg wrth benodi unrhyw aelod o’r pwyllgor.
(5) Yn ddarostyngedig i reoliadau 67(6), 68(3) a 69(4), y cworwm ar gyfer cyfarfod o bwyllgor ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o’r fath yw hanner (wedi ei dalgrynnu i fyny i rif cyfan) aelodaeth y pwyllgor heb gynnwys unrhyw leoedd gwag nac unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), ni chaniateir cymryd pleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o bwyllgor oni fo mwyafrif aelodau’r pwyllgor sy’n bresennol yn llywodraethwyr, heb gynnwys unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.
(7) Rhaid i bob cwestiwn sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o bwyllgor gael ei ddyfarnu drwy fwyafrif o bleidleisiau aelodau’r pwyllgor sy’n bresennol ac yn pleidleisio ar y cwestiwn.
(8) Pan fo’r pleidleisiau wedi eu rhannu’n gyfartal bydd gan y person sy’n gweithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod ail bleidlais neu bleidlais fwrw, ar yr amod bod y cyfryw berson yn llywodraethwr, heb gynnwys unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys