xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 (“y prif Reoliadau”).

Mae rheoliad 5 o’r prif Reoliadau yn nodi o dan ba amgylchiadau y bydd ymwelydd o dramor yn esempt rhag ffioedd am driniaeth y cododd yr angen amdani pan oedd yr ymwelydd o dramor yn ymweld â’r Deyrnas Unedig.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r prif Reoliadau i ddarparu esemptiad i unigolion sydd yng Nghymru fel rhan o Deulu Gemau’r Gymanwlad yn ystod Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow rhwng 19 Gorffennaf a 7 Awst 2014, fel rhan o Deulu Pencampwriaethau Athletau Ewropeaidd y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol yn ystod Pencampwriaethau Athletau Ewropeaidd y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol yn Abertawe rhwng 14 a 27 Awst 2014 ac fel personau achrededig a fydd yn bresennol yn uwchgynhadledd Sefydliad Cytuniad Gogledd Iwerydd rhwng 2 a 6 Medi 2014.

Mae rheoliad 2(5) yn mewnosod Atodlen 4 newydd yn y prif Reoliadau sy’n diffinio’r hyn a olygir gan “Commonwealth Games Family”, “IPC Athletics European Championships Family” a “NATO delegate or accredited person”.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Atodlen 3 i’r prif Reoliadau a oedd yn darparu esemptiad i unigolion a oedd yn rhan o Deulu’r Gemau yn ystod y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn Llundain 2012.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.