- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
12.—(1) Pan fo perchennog wedi penderfynu gweithredu rheolau safle newydd neu amrywio neu ddileu rheolau safle, yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r perchennog adneuo’r rheolau safle neu hysbysiad dileu gyda’r awdurdod lleol yn ddim cynt na 28 o ddiwrnodau ar ôl cyflwyno’r ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad, ond yn ddim hwyrach na 42 o ddiwrnodau ar ôl cyflwyno’r ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad.
(2) Pan fo hysbysiad o apêl i’r tribiwnlys yn unol â rheoliad 10 wedi dod i law’r perchennog, rhaid i’r perchennog beidio â gwneud adneuad hyd nes i’r apêl gael ei gwaredu, y penderfynir arni neu y rhoddir y gorau iddi.
(3) Pan fydd apêl i’r tribiwnlys yn cael ei gwaredu, y penderfynir arni neu y rhoddir y gorau iddi, rhaid i’r perchennog adneuo’r rheolau safle neu’r hysbysiad dileu—
(a)yn ddim hwyrach na 14 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad penderfyniad y tribiwnlys;
(b)yn ddim hwyrach na 14 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad pan fo’r tribiwnlys yn hysbysu’r perchennog bod yr apêl wedi ei gollwng; neu
(c)unrhyw ddyddiad diweddarach a bennir gan y tribiwnlys.
(4) Rhaid i ffi am swm a bennir gan yr awdurdod lleol fynd gydag adneuad y mae’n ofynnol ei wneud yn rhinwedd y rheoliad hwn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys