Offerynnau Statudol Cymru
2014 No. 2303 (Cy. 227)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014
Gwnaed
28 Awst 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
29 Awst 2014
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(3) i (6)
Mae’r Rheoliadau a ganlyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004(2) mewn darpariaethau penodol yn y Rheoliadau hyn gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliad hwnnw fel y’i diwygiwyd o bryd i’w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972—
(a)o ran mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod)(3);
(b)o ran y polisi amaethyddol cyffredin(4).
I’r graddau y gwneir y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(5), mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A)(6) o’r Ddeddf honno.
Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(7) wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan y canlynol—
i’r graddau y mae’n ymwneud â rheoliad 2(3) ac Atodlen 1, paragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(8);
i’r graddau y mae’n ymwneud â rheoliadau 13 a 14 ac Atodlenni 6 a 7—
adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi;
adrannau 6(4), 16(1), 17, 18, 26, 45 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(9), a pharagraffau 1 a 4(b) o Atodlen 1 iddi ac sydd bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru(10); a
adrannau 4(1), (2), (3), (4) ac (8) a 10 o Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009(11); ac
i’r graddau y mae’n ymwneud â gweddill y rheoliadau a’r Atodlenni, adrannau 6(4), 16(1)(e), 17(1) a (2), 26(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac sydd bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru.
1972 p. 68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p .51) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).
OJ Rhif L 304, 22.11.2011, t 18, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 78/2014 (OJ Rhif L 27, 30.1.2014, t 7).
O.S. 2005/1971, trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p. 32) .
Mewnosodwyd adran 48(4A) gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28).
OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 596/2009 (OJ Rhif L 188, 18.7.2009, t 14).
1972 p.68 Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 a’i ddiwygio gan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 ac O.S. 2007/1388.
1990 p.16 Diwygiwyd adran 6(4) gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 40) a pharagraff 10(1) a (3) o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (“Deddf 1999”) a’i diddymu’n rhannol gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2002/794. Diwygiwyd adran 16(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 17 gan baragraffau 8 a 12 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2011/1043. Diwygiwyd adran 18 gan baragraffau 8 a 13 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Diddymwyd adran 26 yn rhannol gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 45 gan baragraffau 8 ac 20 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 48(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.
Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a’u trosglwyddo wedyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).