Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014

Rheoliad 4

ATODLEN 2LL+CY marc cenedlaethol ar gyfer y rhanddirymiad ynglŷn â briwgig

RHAN 1LL+CY marc cenedlaethol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 Pt. 1 mewn grym ar 19.9.2014, gweler a. 1(4)(d)

RHAN 2LL+CManylebau’r marc cenedlaethol

1.  Caniateir defnyddio unrhyw fath o ffont ar gyfer y marc cenedlaethol cyhyd ag y bo’n glir i’w ddarllen.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 19.9.2014, gweler a. 1(4)(d)

2.  Caniateir defnyddio ffont o unrhyw liw ar gyfer y marc cenedlaethol cyhyd ag y bo’n hawdd i’w weld.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 19.9.2014, gweler a. 1(4)(d)

3.  Yn achos bwyd sydd wedi ei ragbecynnu, rhaid i faint y ffont a ddefnyddir ar gyfer y marc cenedlaethol beidio â bod yn llai na’r canlynol—LL+C

(a)yn achos pecyn neu gynhwysydd o faint y mae Erthygl 13(3) yn gymwys iddo, y maint ffont sy’n ofynnol ar gyfer manylion gorfodol o dan Erthygl 13(3), a

(b)yn achos unrhyw becyn neu gynhwysydd arall, y maint ffont sy’n ofynnol ar gyfer manylion gorfodol o dan Erthygl 13(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 19.9.2014, gweler a. 1(4)(d)

4.  Caiff y marc cenedlaethol gynnwys y testun Cymraeg “Ar gyfer marchnad y DU yn unig” yn ychwanegol at y testun Saesneg yn Rhan 1.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 19.9.2014, gweler a. 1(4)(d)