Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliad 12

ATODLEN 5Hysbysiadau gwella – darpariaethau FIC penodedig

RHAN 1Y ddarpariaeth yn FIC y caniateir i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno mewn perthynas â hi ar ac ar ôl 19 Medi 2014

Y ddarpariaeth yn FICY darpariaethau sydd i’w darllen gyda’r ddarpariaeth yn FIC
Erthygl 17(5) i’r graddau y mae’n gymwys i’r gofynion yn Rhan B o Atodiad VI ynghylch y dynodiad “minced meat” (gofynion ynghylch y dynodiad “minced meat” a’r manylion y mae’n rhaid iddynt gyd-fynd ag ef)Erthyglau 1(3) a 6 a thrydydd is-baragraff Erthygl 54(1), ail is-baragraff Erthygl 55, Rhan B o Atodiad VI, rheoliad 4 ac Atodlen 2

RHAN 2Y darpariaethau yn FIC y caniateir i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno mewn perthynas â hwy ar ac ar ôl 13 Rhagfyr 2014

RhifY ddarpariaeth yn FICY darpariaethau sydd i’w darllen gyda’r darpariaethau yn FIC
1.Erthygl 6 (gofyniad sylfaenol bod rhaid i wybodaeth am fwyd gyd-fynd â bwyd)Erthyglau 1(3) a 30(2) a (3), is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Erthyglau eraill FIC a restrir yng Ngholofn 1, fel y bo’n briodol
2.Erthygl 7(1) (gwaharddiad ar wybodaeth gamarweiniol)Erthyglau 1(3), 6 a 7(4) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
3.Erthygl 7(2) (gofyniad ynglŷn â gwybodaeth gywir, glir a hawdd ei deall)Erthyglau 1(3), 6 a 7(4) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
4.Erthygl 7(3) (gwahardd gwybodaeth am fwyd rhag priodoli manteision iechyd i unrhyw fwyd yn ddarostyngedig i randdirymiadau penodol)Erthyglau 1(3), 6 a 7(4) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
5.Erthygl 8(2) (gofyniad bod rhaid i weithredwr busnes bwyd sicrhau bod gwybodaeth am fwyd yn bresennol ac yn gywir)Erthyglau 1(3), 6 ac 8(1) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
6.Erthygl 8(3) (gofyniad bod rhaid i weithredwr busnes bwyd beidio â chyflenwi bwyd nad yw’n cydymffurfio)Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
7.Erthygl 8(4) (cyfyngiadau ar addasu gwybodaeth sy’n cyd-fynd â bwyd)Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
8.Erthygl 8(5) (gofyniad bod rhaid sicrhau a dilysu y cydymffurfir â’r gyfraith ar wybodaeth am fwyd etc.)Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
9.Erthygl 8(6) (gofyniad bod rhaid trosglwyddo gwybodaeth ynglŷn â bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu)Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
10.Erthygl 8(7) (gofyniad ynghylch y manylion gorfodol y gofynnir amdanynt gan Erthyglau 9 a 10)Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
11.Erthygl 8(8) (gofyniad bod rhaid i weithredwr busnes bwyd ddarparu digon o wybodaeth i weithredwyr busnes bwyd eraill)Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
12.Erthygl 9(1)(a) (dangosiad gorfodol ynglŷn ag enw’r bwyd)Erthyglau 1(3), 6, 9(2), 16(1) a (2), 17, 22(1)(a) a 40, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1), Atodiad VI a rheoliad 3
13.Erthygl 9(1)(b) (dangosiad gorfodol ynglŷn â’r rhestr cynhwysion)Erthyglau 1(3), 6, 9(2), 11 ac 16(1) a (2), is-baragraff cyntaf Erthygl 16(4), Erthyglau 18, 19(1), 20 a 40, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1), Atodiadau VI a VII a rheoliad 3
14.Erthygl 9(1)(c) (dangosiad gorfodol ynglŷn â chynhwysion a chynorthwyon prosesu sy’n peri alergeddau neu anoddefeddau)Erthyglau 1(3), 6, 9(2), 11, 16(1) a (2), 18(1), 21(1) a 40, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1), Atodiad II a rheoliad 3
15.Erthygl 9(1)(d) (dangosiad gorfodol ynglŷn â swm cynhwysion penodol neu gategorïau penodol o gynhwysion)Erthyglau 1(3), 6, 9(2), 11, 16(1) a (2), 22 a 40, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1), Atodiad VIII a rheoliad 3
16.Erthygl 9(1)(f) (dangosiad gorfodol ynglŷn â dyddiad isafswm parhauster neu’r dyddiad “use by”)Erthyglau 1(3), 6, 9(2), 16(1) a (2), 24 a 40, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1), pwyntiau 1 a 2 o Atodiad X a rheoliad 3
17.Erthygl 9(1)(g) (dangosiad gorfodol ynglŷn ag unrhyw amodau storio arbennig, amodau defnyddio, neu’r ddau)Erthyglau 1(3), 6, 9(2), 16(1) a (2), 25 a 40, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) a rheoliad 3
18.Erthygl 9(1)(h) (dangosiad gorfodol ynglŷn ag enw neu enw busnes a chyfeiriad y gweithredwr busnes bwyd)Erthyglau 1(3), 6, 8(1), 9(2), 16(1) a (2) a 40, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) a rheoliad 3
19.Erthygl 9(1)(i) (dangosiad gorfodol ynglŷn â’r wlad tarddiad neu’r tarddle)Erthyglau 1(3), 6, 9(2), 16(1) a (2), 26(1) a (2) a 40, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) a rheoliad 3
20.Erthygl 9(1)(j) (dangosiad gorfodol ynglŷn â chyfarwyddiadau defnyddio)Erthyglau 1(3), 6, 9(2), 16(1) a (2), 27 a 40, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) a rheoliad 3
21.Erthygl 9(1)(k) (dangosiad gorfodol ynglŷn â chryfder alcoholaidd gwirioneddol diodydd sy’n cynnwys mwy na 1.2% o alcohol yn ôl cyfaint)Erthyglau 1(3), 6, 9(2), 11, 16(1) a (2) a 28, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad XII
22.Erthygl 10(1) (manylion gorfodol ychwanegol ar gyfer mathau penodol o fwyd)Erthyglau 1(3) a 6, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad III
23.Erthygl 12(1) (argaeledd a lleoliad gwybodaeth orfodol am fwyd)Erthyglau 1(3) a 6, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Erthygl 12(2) yn achos bwydydd wedi eu rhagbecynnu, Erthyglau 12(5) a 44 yn achos bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu ac Erthyglau 14 a 44 ar gyfer bwydydd y cynigir eu gwerthu drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell
24.Erthygl 12(2) (gofyniad cyffredinol i wybodaeth orfodol am fwyd ymddangos yn uniongyrchol ar y pecyn neu ar label sydd ynghlwm wrth fwyd wedi ei ragbecynnu)Erthyglau 1(3) a 6, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
25.Erthygl 13(1) (gofyniad cyffredinol ynglŷn â dangos manylion gorfodol)Erthyglau 1(3) a 6, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac, yn achos bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. sy’n cynnwys sylwedd neu gynnyrch alergenaidd etc., rheoliad 5
26.Erthygl 13(2) (gofyniad ynglŷn â dangos manylion gorfodol y cyfeirir atynt yn Erthygl 9(1)(a) i (l))Erthyglau 1(3) a 6, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad IV, ac, o ran Erthygl 13(2) fel y mae’n gymwys i ddangos datganiad gorfodol ynglŷn â maethiad, ail is-baragraff Erthygl 55
27.Erthygl 13(3) (maint ffont manylion gorfodol ar becynnau llai)Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
28.Erthygl 13(5) (gofynion ynglŷn â maes gwelededd)Erthyglau 1(3), 6, 13(6) ac 16(1) a (2) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
29.Erthygl 14(1) (gwerthu bwydydd wedi eu rhagbecynnu o hirbell)Erthyglau 1(3), 6, 9 a 14(3) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
30.Erthygl 14(2) (gwerthu bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu o hirbell)Erthyglau 1(3), 6, 14(1) a 42 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
31.Erthygl 15(1) (gofynion ynglŷn ag iaith)Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
32.Erthygl 17(1) (enw’r bwyd)Erthyglau 1(3), 6 a 9(1), is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1), rheoliad 4 ac Atodlen 2
33Erthygl 17(2) (defnyddio’r enw a ddefnyddir ar gyfer bwyd yn yr Aelod-wladwriaeth sy’n ei gynhyrchu mewn Aelod-wladwriaeth arall: yr angen am wybodaeth ddisgrifiadol arall yn ychwanegol at enw’r bwyd mewn achosion penodol)Erthyglau 1(3), 6, 9(1) a 17(1) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
34.Erthygl 17(3) (gwaharddiad mewn achosion eithriadol penodol rhag defnyddio enw a ddefnyddir ar gyfer bwyd mewn Aelod-wladwriaeth sy’n ei gynhyrchu wrth farchnata’r bwyd hwnnw mewn Aelod-wladwriaeth arall)Erthyglau 1(3), 6, 9(1) a 17(1) a (2) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
35.Erthygl 17(4) (gwaharddiad rhag gosod enw arall yn lle enw bwyd)Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
36.Erthygl 17(5) (gofynion ynglŷn ag enw bwyd a manylion y mae’n rhaid iddynt gyd-fynd ag ef) ac eithrio i’r graddau y mae’n gymwys i’r gofynion penodol yn Rhan B o Atodiad VI ynghylch dynodiad “minced meat”Erthyglau 1(3) a 6, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad VI
37.Erthygl 18(1) (gofynion ynglŷn â’r rhestr cynhwysion)Erthyglau 1(3), 6, 18(4), 19(1) ac 20, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1), Atodiad VII, rheoliad 8 ac is-baragraff cyntaf paragraff 5 o Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC ynglŷn â suddoedd ffrwythau a chynhyrchion tebyg penodol y bwriedir i bobl eu hyfed(1)
38.Erthygl 18(2) (gofyniad bod rhaid dynodi cynhwysion yn ôl eu henw penodol)Erthyglau 1(3), 6, 17, 18(4) a 19(1), is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiadau VI a VII
39.Erthygl 18(3) (gofyniad ynglŷn â chynhwysion sy’n nanoddefnyddiau)Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
40.Erthygl 21(1) (gofynion ynglŷn â sylweddau neu gynhyrchion penodol sy’n peri alergedd neu anoddefedd)Erthyglau 1(3), 6, 9(1)(c) a 18(1), is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1), Atodiad II ac, yn achos bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. sy’n cynnwys sylwedd neu gynnyrch alergenaidd etc., rheoliad 5
41.Erthygl 22(1) (gofyniad ynglŷn â’r angen i ddarparu dangosiad meintiol o gynhwysyn)Erthyglau 1(3), 6 a 22(2), is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad VIII
42.Erthygl 22(2) (rheolau technegol ynglŷn â dangosiad meintiol o gynhwysion)Erthyglau 1(3), 6 a 22(1), is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad VIII
43.Erthygl 24(1), y frawddeg gyntaf (gofyniad ynglŷn â dyddiadau “use by”)Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
44.Erthygl 24(2) (gofyniad i fynegi dyddiad isafswm parhauster, dyddiad “use by” a dyddiad rhewi mewn modd penodol)Erthyglau 1(3) a 6, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad X
45.Erthygl 25(1) (gofyniad bod rhaid dangos amodau storio neu amodau defnyddio arbennig, neu’r ddau, ar fwyd)Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
46.Erthygl 25(2) (gofyniad bod rhaid dangos amodau storio priodol neu erbyn pa bryd y dylai bwyd gael ei fwyta ar ôl agor y pecyn sy’n cynnwys y bwyd neu’r ddau)Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
47.Erthygl 26(2)(a) (gofyniad ynglŷn â dangosiad gorfodol ynglŷn â gwlad tarddiad neu darddle mewn achosion penodol)Erthyglau 1(3) a 6, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad XI
48.Erthygl 27(1) (dangosiad ynglŷn â chyfarwyddiadau defnyddio)Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
49.Erthygl 28(2) (dangosiad o gryfder alcoholaidd yn ôl cyfaint ar gyfer diodydd sy’n cynnwys mwy nag 1.2% o alcohol yn ôl cyfaint)Erthyglau 1(3) a 6, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad XII
50.Erthygl 30(1) (cynnwys y datganiad gorfodol am faethiad)Erthyglau 1(3), 6, 29, 31(1) (fel y’i darllenir gydag Atodiad XIV) a 31(3), is-baragraff cyntaf Erthygl 31(4), Erthyglau 32(1) (fel y’i darllenir gydag Atodiad XV), 32(2), 33(1) a 35(1) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
51.Erthygl 31(1) (ffactorau trosi i’w defnyddio i gyfrifo gwerth egni)Erthyglau 1(3) a 6, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad XIV
52.Erthygl 31(3), yr is-baragraff cyntaf (gofyniad bod rhaid i’r gwerth egni a’r symiau o faetholion gyfeirio at y bwyd fel y’i gwerthir ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer yn ail is-baragraff Erthygl 31(3))Erthyglau 1(3), 6 a 30(1) i (5) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
53.Erthygl 31(4), yr is-baragraff cyntaf (gofyniad bod rhaid i’r gwerthoedd yn y datganiad fod yn werthoedd cyfartalog wedi eu seilio ar fethodoleg a nodir yn is-baragraff cyntaf Erthygl 31(4))Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
54.Erthygl 32(1) (gofyniad bod rhaid defnyddio’r unedau mesur a restrir yn Atodiad XV ar gyfer gwerth egni a symiau maetholion)Erthyglau 1(3) a 6, is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad XV
55.Erthygl 32(2) (gwerth egni a swm maetholion i’w mynegi fesul 100 gram neu fesul 100 mililitr)Erthyglau 1(3), 6, 33(1), (2) a (3), is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) a Rhan B o Atodiad XIII
56.Erthygl 32(3) (datganiad ynglŷn â fitaminau a mwynau hefyd i’w fynegi fel canran o’r cymeriant cyfeirio)Erthyglau 1(3), 6 a 30(2)(f), is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) a Rhan A o Atodiad XIII
57.Erthygl 32(5) (gofyniad ynglŷn â datganiad ychwanegol ynglŷn â chymeriant cyfeirio oedolyn cyfartalog)Erthyglau 1(3), 6 a 32(4) (fel y’i darllenir gyda Rhan B o Atodiad XIII) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
58.Erthygl 33(1) (gofynion mewn achosion lle gellir mynegi gwerth egni a swm maetholion fesul cyfran, fesul uned fwyta neu yfed, neu fesul cyfran a fesul uned fwyta neu yfed ill dau, yn ychwanegol at neu yn hytrach na fesul 100 gram neu fesul 100 mililitr)Erthyglau 1(3), 6 a 32(2), (3) a (4) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
59.Erthygl 33(2), yr ail is-baragraff (gofyniad bod rhaid mynegi gwerth egni fesul 100 gram neu fesul 100 mililitr a fesul cyfran neu fesul uned fwyta neu yfed pan fydd gwybodaeth am egni, braster, braster dirlawn, siwgrau a halen yn cael ei hailadrodd yn wirfoddol yn y prif faes gwelededd, a bod symiau’r maetholion wedi eu mynegi fesul cyfran neu fesul uned fwyta neu yfed yn unig)Erthyglau 1(3), 6, 30(3)(b) a 32(2), is-baragraff cyntaf Erthygl 33(2) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
60.Erthygl 33(4) (gofyniad bod rhaid i’r gyfran neu’r uned a ddefnyddir fod yn agos at y datganiad ynglŷn â maethiad)Erthyglau 1(3), 6 a 33(1) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
61.Erthygl 34(1) (dangos y datganiad gorfodol ynglŷn â maethiad ac unrhyw wybodaeth ategol a ddarperir yn unol ag Erthygl 30(2) – maes gwelededd, fformat a threfn dangos)Erthyglau 1(3), 6 a 30(1) a (2), is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad XV
62.Erthygl 34(2) (dangos y datganiad gorfodol ynglŷn â maethiad ac unrhyw wybodaeth ategol a ddarperir yn unol ag Erthygl 30(2) – fformat ac aliniad y rhifau)Erthyglau 1(3), 6, a 30(1) a (2), ail is-baragraff Erthygl 34(3), Erthygl 34(4) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
63.Erthygl 34(3), yr is-baragraff cyntaf (dangos gwybodaeth am faethiad mewn achos lle’r ailadroddir gwybodaeth benodol am faethiad (ar sail wirfoddol) yn unol ag Erthygl 30(3))Erthyglau 1(3), 6 a 30(3), ail is-baragraff Erthygl 34(3) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
64.Erthygl 34(5), is-baragraff cyntaf (gofyniad bod rhaid i ddangosiad o werth egni neu swm maetholion dibwys, pan ddefnyddir ef, fod yn agos at y datganiad ynglŷn â maethiad, pan geir un)Erthyglau 1(3), 6 a 30(1) i (5) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
65.Erthygl 35(1) (gofynion pan ddefnyddir mathau ychwanegol o fynegi ac o ddangos gwerth egni a swm maetholion)Erthyglau 1(3), 6, 7, 30(1) i (5), 32(2) a (4), 33 a 34(2), is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) ac Atodiad VIII
66.Erthygl 36(1) (gofynion y mae’n rhaid i wybodaeth wirfoddol gydymffurfio â hwy)Erthyglau 1(3) a 6, adrannau 2 a 3 o Bennod IV ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
67.Erthygl 36(2) (gofynion ychwanegol y mae’n rhaid i wybodaeth wirfoddol gydymffurfio â hwy)Erthyglau 1(3), 6 a 7 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
68.Erthygl 37 (dangos gwybodaeth wirfoddol am fwyd – argaeledd lle)Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)
69.Erthygl 44(1)(a) (darparu gwybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd nad yw wedi ei ragbecynnu)Erthyglau 1(3), 6 a 9(1)(c), is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1) a rheoliad 5
70.Erthygl 54(2) (gofyniad bod rhaid cydymffurfio â darpariaethau ynglŷn â chynnwys, cyfrifo, mynegi a dangos pan ddarperir gwybodaeth am faethiad ar sail wirfoddol yn ystod y cyfnod ar ac ar ôl 13 Rhagfyr 2014 hyd at a chan gynnwys 12 Rhagfyr 2016)Erthyglau 1(3), 6 a 29 i 35

RHAN 3Y ddarpariaeth yn FIC y caniateir i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno mewn perthynas â hi ar ac ar ôl 13 Rhagfyr 2016

Y ddarpariaeth yn FICY darpariaethau sydd i’w darllen gyda’r ddarpariaeth yn FIC
Erthygl 9(1)(l) (datganiad gorfodol ynglŷn â maethiad)Erthyglau 1(3), 6, 9(2), 11 ac 16, adran 3 o Bennod IV, Erthygl 40, ail is-baragraff Erthygl 54(1), ail is-baragraff Erthygl 55, Atodiad V a rheoliad 3
(1)

OJ Rhif L 10, 12.1.2002, t 58, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2012/12/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 115, 27.4.2012, t 1).

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill