- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (O.S. 1995/418) (“Gorchymyn 1995”) mewn perthynas â Chymru. Mae erthygl 3 o Orchymyn 1995 ac Atodlen 2 iddo yn rhoi hawliau datblygu a ganiateir mewn perthynas â datblygu penodol. Nid oes angen gwneud cais penodol am ganiatâd cynllunio pan fo’r hawliau hyn yn gymwys.
Mae erthygl 2 yn diwygio Rhan 24 (datblygu gan weithredwyr cod cyfathrebu electronig (Cymru)) o Atodlen 2 i Orchymyn 1995.
Mae Dosbarth A o Ran 24 yn caniatáu datblygu penodol gan weithredwyr cod cyfathrebu electronig ar yr amod nad yw’n dod o fewn A.1 (datblygu nas caniateir) ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a chyfyngiadau perthnasol yn A.2 ac A.3.
Mae erthygl 2(2) o’r Gorchymyn hwn yn diweddaru’r cyfeiriad at drwydded gweithredwr i adlewyrchu newidiadau yn Neddf Cyfathrebiadau 2003.
Mae cyfyngiadau ac amodau ar roi caniatâd cynllunio yn cynnwys, er enghraifft, eithrio’r caniatâd Dosbarth A rhag bod yn gymwys i dir gwarchodedig mewn rhai achosion. Mae tir gwarchodedig yn cynnwys safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a chategorïau o dir a nodir yn erthygl 1(5) o Orchymyn 1995 a Rhan 2 o Atodlen 1 iddo (Parciau Cenedlaethol, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, ardaloedd cadwraeth, ardaloedd o harddwch naturiol ac amwynder yng nghefn gwlad). Mae’n bosibl y bydd mathau eraill o ganiatâd yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth yr awdurdod cynllunio lleol o ran lleoliad ac ymddangosiad. Cyfeirir at y broses hon fel “cymeradwyaeth ymlaen llaw”.
Mae erthygl 2(3) yn mewnosod darpariaeth newydd er mwyn caniatáu addasu neu amnewid mastiau presennol sy’n sefyll ar eu traed eu hunain i ddod yn fastiau hyd at 20 o fetrau o uchder a hyd at draean yn lletach na’r mast presennol. Nid yw hyn yn gymwys ar dir erthygl 1(5) nac ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ac mae’n ddarostyngedig i gymeradwyaeth ymlaen llaw ar dir arall yn rhinwedd paragraff A.2(4) o Ddosbarth A. O ran lled, ar unrhyw uchder penodol, ni chaiff y mast newydd neu’r mast a uwchraddiwyd fod yn fwy na thraean yn lletach na’r mast gwreiddiol ar yr un uchder.
Mae erthygl 2(4) yn dileu antena cell fach o baragraff A.1(g)(i). Mae hyn yn golygu nad yw’r cyfyngiad yn y paragraff hwnnw’n gymwys i antena cell fach.
Mae erthygl 2(5) i (8) yn diwygio darpariaethau yn Nosbarth A er mwyn caniatáu i faint pob antena dysgl gyda’i gilydd fod yn fwy, ac i ragor o systemau antena gael eu gosod ar rai adeiladau a strwythurau. Mae’r rheolau newydd yn amrywio yn ôl uchder yr adeilad neu’r strwythur, gan ganiatáu rhagor o systemau antena, a chaniatáu i faint y dysglau gyda’i gilydd fod yn fwy, uwchlaw 15 o fetrau.
Mae erthygl 2(9) yn gwneud darpariaeth ganlyniadol i erthygl 2(10) a (13).
Mae erthygl 2(10) yn mewnosod darpariaeth newydd er mwyn caniatáu gosod hyd at dri antena dysgl ychwanegol a thri antena ychwanegol nad ydynt yn rhai dysgl, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau maint, ar gyfarpar cyfathrebiadau electronig presennol sydd wedi eu gosod ar adeiladau neu strwythurau (gan gynnwys mastiau) ar dir erthygl 1(5). Mae diffiniad a ychwanegwyd gan erthygl 2(19)(c) yn egluro bod rhaid i’r cyfarpar eisoes fod yn anfon ac yn derbyn cyfathrebiadau. Mae’r hawl datblygu a ganiateir newydd hon wedi ei heithrio o baragraff A.1(i) o Ddosbarth A sydd fel arall yn cyfyngu’n sylweddol ar ddatblygu antena ar dir erthygl 1(5).
Mae erthygl 2(11) a (12) yn diwygio darpariaethau i egluro bod y cyfyngiadau presennol o ran maint unedau cartrefu offer radio mewn un achos yn gronnol ac mewn achos arall yn gymwys i gynigion datblygu unigol. Mae erthygl 2(14) yn cynnwys diwygiad canlyniadol i baragraff A.2(4) o Ddosbarth A.
Mae erthygl 2(13) yn mewnosod darpariaeth newydd er mwyn caniatáu gosod hyd at ddau o fath newydd o antena (“antena cell fach”) ar adeiladau a strwythurau eraill (ac eithrio tai annedd neu o fewn cwrtil tŷ annedd), ar yr amod nad ydynt ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Caiff y datblygiad hwn ei ganiatáu ar dir erthygl 1(5) yn rhinwedd eithriad i’r rheol gyffredinol ym mharagraff A.1(i) o Ddosbarth A, ond yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth ymlaen llaw yn rhinwedd paragraff A.2(4)(a) o Ddosbarth A. Mae erthygl 2(19)(c) yn mewnosod diffiniad newydd o “antena cell fach” (“small cell antenna”), sy’n cynnwys cyfyngiadau o ran maint.
Mae erthygl 2(14) yn mewnosod fersiwn newydd o baragraff A.2(4) o Ddosbarth A. Mae’r newidiadau yn cynnwys: cynyddu’r uchder y mae’n ofynnol i antenau a osodir ar adeiladau neu strwythurau (heblaw am fastiau) fynd drwy’r broses cymeradwyaeth ymlaen llaw; egluro mai dim ond pan fo cyfaint unrhyw ddatblygiad unigol o uned gartrefu offer radio yn fwy na 2.5 o fetrau ciwbig y mae angen cymeradwyaeth ymlaen llaw; a dileu’r angen am gymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer datblygiad sy’n atodol i uned gartrefu offer radio.
Mae erthygl 2(15) yn darparu, mewn perthynas â thir erthygl 1(5), na fydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw o dan baragraff A.3 o Ran 24 ar gyfer adeiladu, gosod nac amnewid polion, cabinetau na llinellau telegraff ar gyfer gwasanaethau band eang llinell sefydlog. Er mwyn dibynnu ar y newid hwn i’r hawliau datblygu a ganiateir, rhaid cwblhau’r gwaith datblygu cyn 30 Mai 2018 a rhaid cydymffurfio â’r amodau a gyflwynir gan erthygl 2(15). Dyma’r amodau:
yn achos datblygu mewn Parciau Cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, rhaid rhoi un mis o rybudd o’r datblygiad arfaethedig i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, ac os yw unrhyw ran o’r datblygiad mewn Parc Cenedlaethol, i’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal;
rhaid i gabinetau fod yn ddu (nid du di-sglein), yn wyrdd neu’n lliw arall a gymeradwywyd gan yr awdurdod cynllunio lleol;
rhaid i bolion telegraff gyfateb i’r polyn telegraff presennol agosaf sydd â chaniatâd cynllunio oni bai fod yr awdurdod cynllunio lleol yn cymeradwyo’n wahanol.
Caiff diffiniadau newydd sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth hon eu mewnosod yn erthygl 2(19).
Mae erthygl 2(16) yn mewnosod gofyniad i gyflwyno manylion cyswllt y datblygwr gyda chais am gymeradwyaeth ymlaen llaw.
Mae erthygl 2(17) yn eithrio datblygiad sy’n cynnwys antenau cell fach rhag y gofyniad presennol ar ddatblygwr i gyflwyno datganiad ysgrifenedig ei fod yn cydymffurfio â chanllawiau’r Comisiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu rhag Pelydredd nad yw’n Ïoneiddio gyda chais am gymeradwyaeth ymlaen llaw o dan Ddosbarth A.3(4).
Mae erthygl 2(18) yn mewnosod darpariaeth newydd i’r gweithdrefnau cymeradwyaeth ymlaen llaw ym mharagraff A.3 o Ddosbarth A, i egluro nad yw cais newydd am gymeradwyaeth ymlaen llaw yn ofynnol os yw’r datblygwr a’r awdurdod cynllunio lleol yn cytuno ar fân ddiwygiadau i ddatblygiad a gynigiwyd mewn cais am gymeradwyaeth ymlaen llaw.
Mae erthygl 2(19) yn mewnosod diffiniadau newydd ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol iddynt.
Pan fo Dosbarth A yn rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygu cyfarpar cyfathrebiadau electronig, mae erthygl 2(20) yn mewnosod darpariaeth newydd sy’n egluro bod y caniatâd hwnnw’n cynnwys datblygiad penodol sy’n atodol i’r cyfarpar, ac sy’n rhesymol ofynnol at ei ddiben. Mae’r prawf “rhesymol ofynnol” (“reasonably required”) yn sicrhau bod unrhyw ddatblygiad atodol o’r fath yn ymwneud â’r cyfarpar penodol sy’n cael ei ddatblygu ac nad yw at ddiben datblygiad a ragwelir yn y dyfodol. Nid yw’r ddarpariaeth ddehongli hon yn cynnwys datblygiad ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Mae copïau ar gael oddi wrth yr Is-adran Gynllunio, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar y wefan yn https://www.cymru.gov.uk.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys