- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
12 Tachwedd 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
14 Tachwedd 2014
Yn dod i rym
5 Rhagfyr 2014
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 5 Rhagfyr 2014.
2. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “yr Athrofa” (“the Institute”) yw’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd;
ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”), mewn perthynas â’r Athrofa, yw’r corff llywodraethu neu’r corff arall sydd â swyddogaethau corff llywodraethu ac mae’n cynnwys person sy’n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;
ystyr “cwrs cyfredol” (“current course”) yw’r cwrs dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag ef neu am gael ei gydnabod yn fyfyriwr cymwys;
ystyr “cwrs cymwys” (“qualifying course”) yw cwrs—
sydd—
yn gwrs ôl-raddedig neu’n gwrs cyffelyb; a
sy’n para am o leiaf ddwy flynedd academaidd; a
y cafodd y myfyriwr ar ei gyfer, am o leiaf ddwy flynedd academaidd o’r cwrs, ddyfarniad statudol ac eithrio dyfarniad a fwriadwyd i gynorthwyo gyda gwariant ychwanegol yr oedd rhaid i’r myfyriwr ei ysgwyddo mewn cysylltiad â phresenoldeb ar y cwrs oherwydd anabledd y mae neu yr oedd y myfyriwr yn ei ddioddef;
ystyr “Deddf 1998” (“1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw 1 Chwefror yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs cyfredol yn dechrau ynddi;
ystyr “dyfarniad statudol” (“statutory award”) yw unrhyw ddyfarniad a roddir, unrhyw grant a delir, neu unrhyw gymorth arall a ddarperir yn rhinwedd Deddf 1998 neu Ddeddf Addysg 1962(3), neu unrhyw ddyfarniad, grant neu gymorth arall cyffelyb mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs a delir o gronfeydd cyhoeddus;
ystyr “y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” (“student loans legislation”) yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990(4), Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990(5), Deddf Addysg (Yr Alban) 1980(6) a rheoliadau a wnaed odani, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(7) a rheoliadau a wnaed odano neu Ddeddf 1998 a rheoliadau a wnaed odani;
ystyr “ffoadur” yw person a gydnabyddir gan lywodraeth Ei Mawrhydi fel ffoadur o fewn ystyr “refugee” yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig sy’n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(8) fel y’i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(9);
ystyr “grantiau at gostau byw a chostau eraill” (“grants for living and other costs”) yw’r grantiau sy’n daladwy o dan reoliad 15;
ystyr “grantiau atodol” (“supplementary grants”) yw’r grantiau sy’n daladwy o dan Bennod 2 o Ran 4;
ystyr “llofnod electronig” (“electronicsignature”) yw cymaint o unrhyw beth ar ffurf electronig ag sydd—
wedi ei ymgorffori mewn unrhyw gyfathrebiad electronig neu ddata electronig neu sydd fel arall wedi ei gysylltu yn rhesymegol â hwy; a
yn honni ei fod wedi ei ymgorffori neu wedi ei gysylltu felly er mwyn cael ei ddefnyddio i gadarnhau bod y cyfathrebiad neu’r data yn ddilys, bod y cyfathrebiad neu’r data yn gyflawn, neu’r ddau;
mae i “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyr a roddir gan reoliad 6;
ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person (“A” yn y diffiniad hwn)—
sydd—
wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir, er yr ystyrir nad yw A yn cymhwyso i gael ei gydnabod fel ffoadur, ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn; neu
heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn;
a gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;
nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben neu y mae’r cyfnod hwnnw wedi ei adnewyddu ac nad yw’r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben neu y mae apêl (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(10)) ynghylch caniatâd y person i ddod i mewn neu i aros yn yr arfaeth; a
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod er pan gafodd A ganiatâd i ddod i mewn neu i aros;
ystyr “Undeb Ewropeaidd” (“European Union”) yw’r diriogaeth a ffurfir gan Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd fel y’i cyfansoddir o dro i dro.
4. Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu ar 5 Rhagfyr 2014—
(a)Rheoliadau Grantiau Dysgu’r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2009(11);
(b)Rheoliadau Grantiau Dysgu’r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2010(12).
5.—(1) Onid yw person sy’n ceisio cymorth o dan y Rheoliadau hyn eisoes yn fyfyriwr cymwys yn rhinwedd rheoliad 6(8), rhaid i’r person hwnnw gyflwyno cais am gael ei ystyried yn fyfyriwr cymwys a chais am gymorth ar unrhyw ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru i’r Athrofa erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.
(2) Pan fo person (“A” yn y paragraff hwn) sy’n ceisio cymorth o dan y Rheoliadau hyn eisoes yn fyfyriwr cymwys yn rhinwedd rheoliad 6(8), rhaid i A hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fod A yn dymuno gwneud cais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Ionawr yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs cyfredol yn dechrau ynddi.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru estyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau os ydynt o’r farn bod amgylchiadau’r achos yn cyfiawnhau hynny.
6.—(1) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael cymorth ariannol mewn cysylltiad â phresenoldeb ar gwrs dynodedig yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn yr Athrofa—
(a)os yw’r awdurdod academaidd yn hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig bod gan y person gyfle rhesymol o gael cynnig lle ar y cwrs hwnnw gan yr awdurdod academaidd; a
(b)os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu mewn cysylltiad â chais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn fod y person yn dod o fewn un o’r categorïau yn Rhan 2 o Atodlen 1.
(3) Nid yw person (“A” yn y paragraff hwn) yn fyfyriwr cymwys—
(a)os yw A, yn ddarostyngedig i baragraff (4), wedi bod yn bresennol ar gwrs cymwys;
(b)os yw A wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
(c)os yw A wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi cadarnhau unrhyw gytundeb ynghylch benthyciad a wnaed gydag A pan oedd A o dan 18 oed; neu
(d)os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ymddygiad A fod A yn anffit i gael cymorth.
(4) Nid yw paragraff (3)(a) yn gymwys os yw’r person wedi bod yn bresennol ar gwrs cymwys ond bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu, o roi sylw i amgylchiadau penodol y person hwnnw, ei bod yn briodol talu cymorth i’r person hwnnw mewn cysylltiad â’r cwrs cyfredol.
(5) At ddibenion paragraff (3)(b) ac (c) ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wneir o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.
(6) Mewn achos pan fo’r cytundeb ar gyfer benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—
(a)cyn 25 Medi 1991; a
(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan na fu gan y benthyciwr guradur,
y mae paragraff (3)(c) yn gymwys.
(7) Nid yw myfyriwr cymwys y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau mewn cysylltiad ag ef ar neu ar ôl 1 Medi 2000, ar unrhyw un adeg, yn cymhwyso i gael cymorth at fwy nag un cwrs dynodedig.
(8) Er gwaethaf paragraffau (2) a (3) ac yn ddarostyngedig i baragraffau (9) a (10), mae person (“A” yn y paragraff hwn) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn yr Athrofa—
(a)os cymhwysodd A fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad—
(i)â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs cyfredol; neu
(ii)â chwrs dynodedig yr oedd A yn bresennol arno yn yr Athrofa ac y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
(b)os nad yw statws A fel myfyriwr cymwys wedi ei derfynu.
(9) Pan fo—
(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn ffoadur neu’n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
(b)statws ffoadur A neu statws ffoadur priod, partner sifil, rhiant neu lysriant i A, yn ôl y digwydd, i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
(10) Pan fo—
(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
(b)y cyfnod pryd y caniateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi nac unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
(11) Nid yw paragraffau (9) a (10) yn gymwys os dechreuodd y myfyriwr y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cwrs hwnnw fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys cyn 1 Medi 2007.
(12) Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn barnu eu bod yn angenrheidiol i benderfynu a yw person yn fyfyriwr cymwys.
(13) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu person y rhoddwyd gwybod iddynt amdano o dan baragraff (2)(a) a yw’r person hwnnw yn cymhwyso fel myfyriwr cymwys.
(14) Rhaid i berson sydd wedi cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (13) fod y person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs yn yr Athrofa a pherson sy’n fyfyriwr cymwys yn yr Athrofa yn rhinwedd paragraff (8), roi i Weinidogion Cymru, erbyn y dyddiad cau i wybodaeth ariannol ddod i law, unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth y maent yn gofyn amdani er mwyn penderfynu swm y cymorth sy’n daladwy o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd.
(15) Y dyddiad cau i wybodaeth ariannol ddod i law yw 30 Ebrill yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs cyfredol yn dechrau ynddi neu, yn achos grantiau sy’n daladwy o dan reoliad 15(6), 28 Chwefror yn y flwyddyn galendr ar ôl yr un y mae blwyddyn academaidd y cwrs cyfredol yn dechrau ynddi.
(16) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu myfyriwr cymwys o swm y cymorth sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd, os oes unrhyw gymorth yn daladwy o gwbl.
7. Mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 6 os yw—
(a)yn gwrs ôl-raddedig neu’n gwrs cyffelyb;
(b)yn gwrs llawnamser;
(c)yn para am o leiaf un flwyddyn academaidd; a
(d)yn cael ei ddarparu gan yr Athrofa,
oni bai ei fod yn gwrs sy’n arwain at ddyfarnu cymhwyster meistr yn y cyfreithiau.
8.—(1) Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol a rheoliad 6, bydd statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn terfynu ar ddiwedd trydedd flwyddyn academaidd cwrs y myfyriwr (“cyfnod cymhwystra”).
(2) Bydd cyfnod cymhwystra’r myfyriwr yn terfynu pan fo’r myfyriwr—
(a)yn tynnu’n ôl o’r cwrs dynodedig o dan amgylchiadau pan na fydd Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys yn unol â rheoliad 9; neu
(b)yn rhoi’r gorau i’r cwrs dynodedig neu’n cael ei ddiarddel oddi arno.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cyfnod cymhwystra’r myfyriwr os ydynt wedi eu bodloni bod ymddygiad y myfyriwr wedi dangos bod y myfyriwr yn anffit i gael cymorth.
(4) Os bydd cyfnod cymhwystra’r myfyriwr yn terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd pryd y bydd y myfyriwr yn cwblhau’r cwrs mewn gwirionedd, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw bryd, estyn neu adnewyddu’r cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod y byddant yn penderfynu arno.
(5) Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru wneud un neu ragor o’r canlynol—
(a)terfynu cyfnod cymhwystra’r myfyriwr;
(b)penderfynu nad yw’r myfyriwr yn cymhwyso mwyach i gael unrhyw fath penodol o gymorth neu unrhyw swm penodol o gymorth;
(c)trin unrhyw gymorth sydd eisoes wedi ei dalu i’r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill yn unol â rheoliad 30.
9.—(1) Pan fo myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i gwrs dynodedig arall yn yr Athrofa, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys—
(a)os byddant yn cael cais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny;
(b)os ydynt wedi eu bodloni bod y myfyriwr cymwys wedi dechrau bod yn bresennol ar y cwrs arall hwnnw ar argymhelliad yr awdurdod academaidd; ac
(c)os nad yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi terfynu.
(2) Mae myfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) i gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr yn trosglwyddo iddo weddill y cymorth a aseswyd gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho.
(3) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru asesu cymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho ond cyn i’r myfyriwr gwblhau’r flwyddyn honno, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr yn trosglwyddo iddo, wneud cais am grant arall o fath y mae’r myfyriwr eisoes wedi gwneud cais amdano o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho.
10. Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais am wneud hynny, rhaid i bob ceisydd a phob myfyriwr cymwys roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu bod arnynt ei hangen at ddibenion y Rheoliadau hyn.
11. Rhaid i bob ceisydd a phob myfyriwr cymwys roi gwybod ar unwaith i Weinidogion Cymru a rhoi’r manylion iddynt os bydd unrhyw rai o’r canlynol yn digwydd—
(a)bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn tynnu’n ôl o’i gwrs, yn rhoi’r gorau iddo neu’n cael ei ddiarddel oddi arno;
(b)bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn trosglwyddo i gwrs arall yn yr Athrofa;
(c)bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar y cwrs ac nad yw’n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu nad yw’n cael caniatâd i barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;
(d)bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn absennol o’i gwrs am fwy na 60 o ddiwrnodau oherwydd salwch neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;
(e)bod y mis ar gyfer dechrau’r cwrs neu ei gwblhau yn newid;
(f)bod cyfeiriad cartref y ceisydd neu’r myfyriwr, neu gyfeiriad y ceisydd neu’r myfyriwr yn ystod y tymor, yn newid.
12. Rhaid i’r wybodaeth a roddir i Weinidogion Cymru yn unol â’r Rheoliadau hyn fod ar y ffurf y gwneir yn ofynnol gan Weinidogion Cymru ac, os yw Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol bod yr wybodaeth yn cael ei llofnodi gan y person sy’n ei rhoi, mae llofnod electronig ar y ffurf a bennir ganddynt yn bodloni’r gofyniad hwn.
13.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y rheol gyffredinol yw bod myfyriwr cymwys sy’n bresennol ar gwrs dynodedig a ddarperir gan yr Athrofa yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael—
(a)grantiau at gostau byw a chostau eraill yn unol â Phennod 1; a
(b)grantiau atodol yn unol â Phennod 2.
(2) Os yw’r flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi yn flwyddyn o ailadrodd astudiaethau, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu—
(a)nad yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael math neu swm penodol o gymorth mewn cysylltiad â’r flwyddyn o ailadrodd astudiaethau; neu
(b)nad yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael unrhyw gymorth mewn cysylltiad â’r flwyddyn o ailadrodd astudiaethau.
(3) Wrth benderfynu na fyddai myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael rhyw gymorth neu unrhyw gymorth yn unol â pharagraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i amgylchiadau’r achos ac yn benodol i’r rhesymau pam y gwnaed yn ofynnol i’r myfyriwr ailadrodd blwyddyn academaidd.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “blwyddyn o ailadrodd astudiaethau” (“year of repeat study”) yw blwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr wedi bod yn bresennol arni o’r blaen ond y mae’r Athrofa yn ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol arni eto.
14.—(1) Mewn cysylltiad â cheisiadau am gymorth a wneir o dan reoliad 5(1), dim ond i un myfyriwr cymwys y caiff Gweinidogion Cymru ddyfarnu cymorth ym mhob blwyddyn academaidd.
(2) Pan fo mwy nag un myfyriwr cymwys yn gwneud cais am gymorth o dan reoliad 5(1) mewn cysylltiad â’r un flwyddyn academaidd, rhaid i Weinidogion Cymru (os ydynt wedi penderfynu dyfarnu cymorth) ddyfarnu’r cymorth hwnnw i ba un bynnag o’r myfyrwyr cymwys y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu sydd fwyaf addas i gael cymorth.
15.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael y grantiau at gostau byw a chostau eraill a bennir ym mharagraffau (3) i (7) ac a gyfrifir yn unol â hwy.
(2) Nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael unrhyw un o’r grantiau sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw’r unig baragraff o Ran 2 o’r Atodlen honno y mae’r myfyriwr yn dod odano.
(3) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant at gostau byw o 18,099 ewro o ran blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2015.
(4) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant i deithio adref o swm sy’n hafal i—
pan fo—
A yw’r swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost tair siwrnai ddychwel o gyfeiriad cartref y myfyriwr i’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd; a
B yw £105.
(5) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant ar gyfer teithio colegol am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio o breswylfa’r myfyriwr, tra bydd yn bresennol yn yr Athrofa, i’r Athrofa.
(6) Yn ddarostyngedig i gytundeb ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru cyn i gostau gael eu hysgwyddo, mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant at deithio ar gyfer ymchwil am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio sydd wedi ei hysgwyddo er mwyn cwblhau cyfnodau o ymchwil a awdurdodwyd gan yr Athrofa yn ystod y flwyddyn academaidd y gwneir cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
(7) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant at yswiriant meddygol am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol yswirio’r myfyriwr yn erbyn atebolrwydd i dalu cost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i’r Deyrnas Unedig os yw cyfnod arferol y cwrs yn fwy nag un flwyddyn academaidd.
16. Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw un o’r grantiau a gyfrifir o dan baragraffau (3) i (6) o reoliad 15.
17.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael lwfans myfyriwr anabl i gynorthwyo gyda’r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod rhaid i’r myfyriwr ei ysgwyddo oherwydd anabledd sydd gan y myfyriwr mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs dynodedig.
(2) Nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael lwfans myfyriwr anabl os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw’r unig baragraff o Ran 2 o’r Atodlen honno y mae’r myfyriwr yn dod odano.
18.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), swm y lwfans myfyriwr anabl yw’r swm y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei fod yn briodol yn unol ag amgylchiadau’r myfyriwr i gynorthwyo gydag un neu ragor o fathau o wariant cymwys.
(2) Rhaid i swm lwfans myfyriwr anabl beidio â bod yn fwy na £10,590 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd.
(3) Y “mathau o wariant cymwys” yw—
(a)gwariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;
(b)gwariant ar eitemau pwysig o offer arbenigol;
(c)unrhyw wariant ychwanegol a ysgwyddir—
(i)yn yr Eidal er mwyn bod yn bresennol yn yr Athrofa; a
(ii)yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi at ddibenion teithio i’r Athrofa er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs perthnasol.
19.—(1) Mae’r grant ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol—
(a)grant dibynyddion mewn oed; a
(b)lwfans dysgu rhieni.
(2) Nodir amodau cymhwyso ar gyfer pob elfen a’r symiau sy’n daladwy yn rheoliadau 20 i 24.
20.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs dynodedig yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Mae’r grant dibynyddion mewn oed ar gael mewn cysylltiad ag un dibynnydd myfyriwr cymwys sydd naill ai—
(a)yn bartner y myfyriwr; neu
(b)yn ddibynnydd mewn oed i’r myfyriwr a hwnnw’n ddibynnydd nad yw ei incwm net yn fwy na £3,923.
(3) Nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael y grant sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw’r unig baragraff o Ran 2 o’r Atodlen honno y mae’r myfyriwr yn dod odano.
21. Mae swm y grant dibynyddion mewn oed sy’n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 23, a’r swm sylfaenol yw—
(a)mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfredol, £2,732; neu
(b)pan fo’r person y mae’r myfyriwr yn gwneud cais mewn cysylltiad ag ef am grant dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw’n fwy na £2,732 ac sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol yn yr amgylchiadau.
22.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso, mewn cysylltiad â phresenoldeb ar gwrs dynodedig, i gael y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr un neu fwy o blant dibynnol.
(2) Nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael y grant sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw’r unig baragraff o Ran 2 o’r Atodlen honno y mae’r myfyriwr yn dod odano.
(3) Mae swm y lwfans dysgu rhieni sy’n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 23, a’r swm sylfaenol yw £1,557.
23.—(1) Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol, y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad ag elfen benodol o’r grant ar gyfer dibynyddion y mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w gael o dan reoliadau 20 i 22 yw swm yr elfen honno sy’n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben neu hyd nes nad oes elfen yn dal yn daladwy o dan reoliadau 20 i 22, swm sy’n hafal i (A – B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—
(a)i ostwng swm sylfaenol y grant dibynyddion mewn oed os yw’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael yr elfen honno o dan reoliad 20; a
(b)i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhieni os yw’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael yr elfen honno o dan reoliad 22.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), os yw B yn fwy nag A neu’n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o’r grant ar gyfer dibynyddion y mae’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w chael yn daladwy.
(3) Os yw (A – B) yn hafal i gyfanswm y symiau sylfaenol o elfennau’r grant ar gyfer dibynyddion y mae’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w cael neu’n fwy na’r cyfanswm hwnnw, y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob elfen yw dim.
(4) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) yn cael ei ostwng o ran dibynnydd mewn oed gan un hanner—
(a)os yw partner y myfyriwr—
(i)yn fyfyriwr cymwys; neu
(ii)yn dal dyfarniad statudol; a
(b)os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae’r partner hwnnw yn cymhwyso i’w gael, neu’r taliad y mae gan y partner hwnnw hawlogaeth i’w gael, o dan y dyfarniad statudol.
(5) Os yw swm y lwfans dysgu rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhieni sy’n daladwy yw £50.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn—
A yw cyfanswm incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr cymwys; a
B yw—
(a)£1,159 os nad oes gan y myfyriwr unrhyw blentyn dibynnol;
(b)£3,473 os nad yw’r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
(c)£4,632 os nad yw’r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol;
(d)£4,632 os yw’r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
(e)£5,797 os yw’r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.
24. Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad ag elfen benodol yn y grant ar gyfer dibynyddion a gyfrifir yn unol â rheoliadau 20 i 23.
25.—(1) At ddibenion rheoliadau 20 i 24—
(a)ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw person mewn oed sy’n dibynnu ar y myfyriwr ac eithrio plentyn y myfyriwr, partner y myfyriwr (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru o’r farn bod y myfyriwr wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn-bartner y myfyriwr;
(b)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr sy’n ddibynnol ar y myfyriwr ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto sy’n ddibynnol ar y myfyriwr;
(c)ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw partner y myfyriwr, plentyn dibynnol y myfyriwr neu ddibynnydd mewn oed i’r myfyriwr, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;
(d)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;
(e)ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw plentyn sy’n ddibynnol ar y myfyriwr;
(f)ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol neu blant dibynnol;
(g)mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);
(h)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (i), (j), (k) ac (l), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—
(i)priod myfyriwr;
(ii)partner sifil myfyriwr;
(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai’r person hwnnw yn briod i’r myfyriwr—
(aa)os oedd y myfyriwr hwnnw yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau’r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi; a
(bb)os dechreuodd y myfyriwr hwnnw y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;
(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai’r person hwnnw yn bartner sifil i’r myfyriwr—
(aa)os oedd y myfyriwr hwnnw yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau’r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi; a
(bb)os dechreuodd y myfyriwr hwnnw y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
(i)oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (h) i’w drin fel partner—
(i)os yw’r person hwnnw a’r myfyriwr, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi eu gwahanu; neu
(ii)os yw’r person yn byw fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n cael ei gynnal gan y myfyriwr;
(j)at ddibenion diffinio “dibynnydd mewn oed”, mae person i’w drin fel partner pe bai’r person yn bartner o dan is-baragraff (h) oni bai am y ffaith nad oedd y myfyriwr y mae’r person yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau’r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi;
(k)at ddibenion diffinio “plentyn” a “rhiant unigol”, mae person i’w drin fel partner pe bai’r person yn bartner o dan is-baragraff (h) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr y cwrs dynodedig neu’r ffaith nad oedd y myfyriwr y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau’r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi;
(l)yn ddarostyngedig i is-baragraff (m), at ddibenion diffinio “dibynnydd mewn oed”, caiff Gweinidogion Cymru drin oedolyn neu blentyn fel rhai sy’n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys os ydynt wedi eu bodloni o ran yr oedolyn neu’r plentyn—
(i)nad yw’n ddibynnol ar—
(aa)y myfyriwr cymwys; neu
(bb)partner y myfyriwr cymwys; ond
(ii)ei fod yn ddibynnol ar y myfyriwr cymwys a phartner y myfyriwr cymwys gyda’i gilydd;
(m)rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thrin oedolyn (“A”) fel dibynnydd ar fyfyriwr cymwys yn unol ag is-baragraff (l), os A yw—
(i)priod neu bartner sifil partner y myfyriwr cymwys (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru yn barnu bod partner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu
(ii)partner blaenorol partner y myfyriwr cymwys;
(n)at ddibenion penderfynu a yw person yn bartner blaenorol i bartner myfyriwr cymwys, ystyr “partner” o ran partner myfyriwr cymwys yw—
(i)priod partner myfyriwr cymwys;
(ii)partner sifil partner myfyriwr cymwys;
(iii)os dechreuodd y myfyriwr cymwys y cwrs dynodedig penodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr cymwys (“B”) fel pe bai A yn briod i B;
(iv)os dechreuodd y myfyriwr cymwys y cwrs dynodedig penodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr cymwys (“B”) fel pe bai A yn bartner sifil i B.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi ei ostwng yn ôl swm y dreth incwm a’r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy mewn cysylltiad â hi ond gan anwybyddu—
(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;
(b)budd-dal plant sy’n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(13);
(c)unrhyw gymorth ariannol sy’n daladwy i’r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(14);
(d)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
(e)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy’n derbyn gofal awdurdod lleol wedi ei fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd hwnnw at ddibenion adran 23 o Ddeddf Plant 1989(15);
(f)unrhyw daliad a wnaed i’r dibynnydd o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989(16);
(g)unrhyw daliadau a wneir i’r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn cysylltiad â pherson nad yw’n blentyn i’r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o’r Ddeddf honno(17);
(h)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002(18); ac
(i)yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarniad o gredyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(19)—
(i)unrhyw swm sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad, o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013(20), mewn cysylltiad â’r ffaith bod gan y dibynnydd alluogrwydd cyfyngedig i weithio neu alluogrwydd cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith; a
(ii)unrhyw swm neu swm ychwanegol sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny (elfen y plentyn).
(3) Os yw myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw’r incwm net wedi ei gyfrifo yn unol â pharagraff (2) ac wedi ei ostwng yn ôl—
(a)swm sy’n hafal i’r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn Gweinidogion Cymru, ei hysgwyddo’n rhesymol; neu
(b)unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei fod yn briodol pe gallai rhwymedigaeth lai, yn eu barn hwy, fod wedi ei hysgwyddo’n rhesymol.
(4) At ddibenion paragraff (2)—
(a)os yw’r dibynnydd yn blentyn dibynnol; a
(b)os oes taliadau’n cael eu gwneud i’r myfyriwr tuag at gynhaliaeth y plentyn;
mae’r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm i’r plentyn.
26.—(1) Cyfraniad myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r swm a gyfrifir o dan Atodlen 2, os oes unrhyw swm o gwbl.
(2) At ddibenion arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr roi o dro i dro unrhyw wybodaeth y mae arnynt ei hangen er mwyn asesu cyfraniad y myfyriwr.
27. Rhaid i’r cyfraniad a gyfrifir yn unol â rheoliad 26 gael ei gymhwyso yn unol â rheoliad 28.
28.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso cyfraniad y myfyriwr cymwys—
(a)yn gyntaf, i ostwng swm y grant at gostau byw a gyfrifir yn unol â rheoliad 15(3);
(b)yn ail—
(i)yn achos myfyriwr sy’n gymwys i gael y grant ar gyfer dibynyddion, i ostwng yn y drefn ganlynol—
(aa)swm unrhyw grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a gyfrifir yn unol â rheoliad 23;
(bb)swm unrhyw lwfans dysgu rhieni a gyfrifir yn unol â rheoliad 23; ac
(cc)swm unrhyw grant ar gyfer teithio adref a gyfrifir yn unol â rheoliad 15(4);
(ii)mewn unrhyw achos arall, i ostwng swm y grant ar gyfer teithio adref a gyfrifir yn unol â rheoliad 15(4);
(c)yn drydydd, i ostwng swm y grant ar gyfer teithio colegol a gyfrifir yn unol â rheoliad 15(5);
(d)yn bedwerydd, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio a gyfrifir yn unol â rheoliad 15(6).
(2) Os yw’r cyfraniad sydd ar gael i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio yn unol â pharagraff (1)(d) yn fwy na swm y grant hwnnw a gyfrifir o dan reoliad 15(6), swm y grant hwnnw sy’n daladwy i’r myfyriwr yw dim.
29.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r grantiau at gostau byw a chostau eraill a’r grantiau atodol y mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w cael mewn unrhyw randaliadau ac ar unrhyw adegau sy’n briodol yn eu barn hwy.
(2) Os ydynt o’r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru dalu grant sy’n daladwy o dan reoliad 15(3) i’r awdurdod academaidd er mwyn i’r awdurdod dalu’r grant ar eu rhan.
(3) Pan na ellir gwneud, ar sail yr wybodaeth a roddir gan y myfyriwr, asesiad terfynol o swm y grantiau at gostau byw a chostau eraill neu o grantiau atodol sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro o’r grantiau hynny hyd oni wneir yr asesiad terfynol.
(4) Os ydynt o’r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad lwfans myfyriwr anabl cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae’r taliad hwnnw’n ddyledus mewn cysylltiad â hi.
(5) Pan fo’r amgylchiadau yn rheoliad 11(a) neu yn rheoliad 11(c) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud unrhyw daliadau cymorth i fyfyriwr ar ôl y dyddiad y mae’r myfyriwr yn peidio ậ bod yn bresennol ar y cwrs onid ydynt o’r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny o ystyried amgylchiadau achos y myfyriwr.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud unrhyw daliadau cymorth i fyfyriwr sy’n absennol o’r cwrs—
(a)am fwy na 60 o ddiwrnodau oherwydd salwch; neu
(b)am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall,
onid ydynt o’r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny o ystyried amgylchiadau achos y myfyriwr.
30. Os yw Gweinidogion Cymru’n ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, rhaid i fyfyriwr cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i’r myfyriwr hwnnw o dan Ran 4 ac sydd, am ba reswm bynnag, yn fwy na’r swm o gymorth y mae gan y myfyriwr hwnnw hawlogaeth i’w gael o dan Ran 4.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
12 Tachwedd 2014
Rheoliad 6
1.—(1) At ddibenion yr Atodlen hon—
ystyr “aelod o deulu” (“family member”), oni nodir yn wahanol—
mewn perthynas â gweithiwr y ffin o’r AEE, gweithiwr mudol o’r AEE, person hunangyflogedig y ffin o’r AEE neu berson hunangyflogedig o’r AEE yw—
priod neu bartner sifil y person;
disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person:
sydd o dan 21 oed; neu
sy’n ddibynyddion y person neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person; neu
perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y person neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y person;
mewn perthynas â pherson cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig Swisaidd y ffin, person hunangyflogedig Swisaidd y ffin neu berson hunangyflogedig Swisaidd yw—
priod neu bartner sifil y person; neu
plentyn y person neu blentyn priod neu bartner sifil y person;
mewn perthynas â gwladolyn o’r UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 yw—
priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu
disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn—
sydd o dan 21 oed; neu
sy’n ddibynyddion i’r gwladolyn neu i briod neu bartner sifil y gwladolyn;
mewn perthynas â gwladolyn o’r UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 yw—
priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu
disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn—
sydd o dan 21 oed; neu
sy’n ddibynyddion i’r gwladolyn neu i briod neu bartner sifil y gwladolyn;
perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y gwladolyn neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y gwladolyn;
mewn perthynas â gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9 yw—
priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu
disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn—
sydd o dan 21 oed; neu
sy’n ddibynyddion i’r gwladolyn neu i briod neu bartner sifil y gwladolyn;
ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw’r ardal a gaiff ei ffurfio gan Wladwriaethau’r AEE;
ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004 ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o’u teuluoedd i symud a phreswylio’n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau(21);
ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw’r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a’i Haelod-wladwriaethau, o’r naill ran, a’r Conffederasiwn Swisaidd, o’r rhan arall, ar Rydd Symudiad Personau, a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(22) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;
ystyr “gweithiwr” (“worker”) yw gweithiwr o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu ystyr Cytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;
ystyr “gweithiwr mudol o’r AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o’r AEE sy’n weithiwr, ac eithrio gweithiwr y ffin o’r AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”) yw gwladolyn Twrcaidd a oedd ar y dyddiad perthnasol—
yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd; a
yn gyfreithiol gyflogedig, neu a oedd wedi bod yn gyfreithiol gyflogedig, yn y Deyrnas Unedig;
mae i “gweithiwr y ffin o’r AEE” (“EEA frontier worker”) yr ystyr a roddir gan is-baragraff (3);
ystyr “gwladolyn o’r AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o un o Wladwriaethau’r AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig;
ystyr “gwladolyn o’r Deyrnas Unedig” (“United Kingdom national”) yw person sydd i’w drin fel gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Cytuniadau’r UE;
ystyr “gwladolyn o’r UE” (“EU national”) yw gwladolyn o un o Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd;
ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy’n deillio o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;
ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i’r Cytundeb Swisaidd;
ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson cyflogedig, ac eithrio’n berson cyflogedig Swisaidd y ffin, yn y Deyrnas Unedig;
mae i “person cyflogedig Swisaidd y ffin” (“Swiss frontier employed person”) yr ystyr a roddir yn is-baragraff (4);
ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”)—
mewn perthynas â gwladolyn o’r AEE, yw person sy’n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu
mewn perthynas â gwladolyn Swisaidd, yw person sy’n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
ystyr “person hunangyflogedig o’r AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o’r AEE sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio’n berson hunangyflogedig y ffin o’r AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd yn berson hunangyflogedig, ac eithrio’n berson hunangyflogedig Swisaidd y ffin, yn y Deyrnas Unedig;
mae i “person hunangyflogedig Swisaidd y ffin” (“Swiss frontier self-employed person”) yr ystyr a roddir yn is-baragraff (5);
mae i “person hunangyflogedig y ffin o’r AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yr ystyr a roddir gan is-baragraff (2);
mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” yn adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(23).
(2) Ystyr “person hunangyflogedig y ffin o’r AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o’r AEE—
(a)sy’n berson hunangyflogedig yng Nghymru; a
(b)sy’n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o Wladwriaethau’r AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i breswylfa’r gwladolyn yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.
(3) Ystyr “gweithiwr y ffin o’r AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o’r AEE—
(a)sy’n weithiwr yng Nghymru; a
(b)sy’n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o Wladwriaethau’r AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i breswylfa’r gwladolyn yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.
(4) Ystyr “person cyflogedig Swisaidd y ffin” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—
(a)sy’n berson cyflogedig yng Nghymru; a
(b)sy’n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o Wladwriaethau’r AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i breswylfa’r gwladolyn yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.
(5) Ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd y ffin” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—
(a)sy’n berson hunangyflogedig yng Nghymru; a
(b)sy’n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o Wladwriaethau’r AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i breswylfa’r gwladolyn yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.
(6) At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal dros blentyn a rhaid dehongli “plentyn” (“child”) yn unol â hynny.
(7) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“A” yn yr is-baragraff hwn) i’w drin fel petai’n preswylio fel arfer yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio neu yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn ei ffurfio pe bai A wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—
(a)A;
(b)priod neu bartner sifil A;
(c)rhiant A; neu
(d)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinell esgynnol, plentyn A neu briod neu bartner sifil plentyn A,
yn cael ei gyflogi dros dro, neu wedi bod yn cael ei gyflogi dros dro, y tu allan i’r ardal o dan sylw.
(8) At ddibenion is-baragraff (7), mae gwaith dros dro y tu allan i Gymru, i’r Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, i diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio neu i diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn ei ffurfio yn cynnwys—
(a)yn achos aelodau o lynges, o fyddin neu o awyrlu rheolaidd y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu fel aelodau o’r lluoedd hynny y tu allan i’r Deyrnas Unedig;
(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd un o Wladwriaethau’r AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu fel aelodau o’r lluoedd hynny y tu allan i’r diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio; ac
(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu fel aelodau o’r lluoedd hynny y tu allan i’r diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn ei ffurfio.
2.—(1) Person—
(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol ac eithrio drwy fod wedi caffael yr hawl i breswylio’n barhaol;
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd; a
(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad oedd yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(7).
3. Person—
(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol oherwydd ei fod wedi caffael yr hawl i breswylio’n barhaol;
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(c)a oedd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; a
(d)a oedd, mewn achos pan oedd preswylio arferol y person y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).
4.—(1) Person—
(a)sy’n ffoadur;
(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers cael ei gydnabod yn ffoadur; ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol.
(2) Person—
(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i ffoadur;
(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches;
(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a
(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol.
(3) Person—
(a)sy’n blentyn i ffoadur neu’n blentyn i briod neu bartner sifil i ffoadur;
(b)a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches, yn blentyn i’r ffoadur neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;
(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches;
(d)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac
(e)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol.
5.—(1) Person—
(a)sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; ac
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.
(2) Person—
(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—
(i)y cais am loches; neu
(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed unrhyw gais am loches;
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; a
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.
(3) Person—
(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(b)a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i)y cais am loches; neu
(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed unrhyw gais am loches;
yn blentyn i’r person hwnnw neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;
(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i)y cais am loches; neu
(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed unrhyw gais am loches;
(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; ac
(e)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.
6.—(1) Person—
(a)sydd, ar y dyddiad perthnasol—
(i)yn weithiwr mudol o’r AEE neu’n berson hunangyflogedig o’r AEE;
(ii)yn berson cyflogedig Swisaidd neu’n berson hunangyflogedig Swisaidd;
(iii)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii);
(iv)yn weithiwr y ffin o’r AEE neu’n berson hunangyflogedig y ffin o’r AEE;
(v)yn berson cyflogedig Swisaidd y ffin neu’n berson hunangyflogedig Swisaidd y ffin; neu
(vi)yn aelod o deulu person yn is-baragraff (iv) neu (v);
(b)sydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.
(2) Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo’r person sy’n gwneud cais am gymorth yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).
7. Person—
(a)sydd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac
(c)sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 5 Ebrill 2011 ar rydd symudiad ar gyfer gweithwyr o fewn yr Undeb(24), fel y’i hymestynnwyd gan Gytundeb yr AEE.
8.—(1) Person—
(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
(b)a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn ymadael â’r Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio;
(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol;
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac
(e)a oedd, mewn achos pan oedd preswylio arferol y person y cyfeirir ato ym mharagraff (b) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion derbyn addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (d).
(2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu’n berson a chanddo hawl i breswylio’n barhaol ac sydd ymhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio’n barhaol, os yw’r person hwnnw yn mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio ac y mae’r person hwnnw yn wladolyn ohoni neu y mae’r person y mae’r person hwnnw yn aelod o’i deulu yn wladolyn ohoni.
9.—(1) Person—
(a)sydd naill ai—
(i)yn wladolyn o’r UE ar y dyddiad perthnasol, ac eithrio person sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig nad yw wedi arfer hawl i breswylio; neu
(ii)yn aelod o deulu person o’r fath;
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; a
(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn unol â pharagraff 1(7).
(3) Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl y dyddiad perthnasol a bod person yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu gwladolyn o’r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) i fod yn wladolyn o’r UE ar y dyddiad perthnasol fel gofyniad sydd wedi ei fodloni.
(4) At ddibenion y paragraff hwn, mae gwladolyn o’r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.
10. Person—
(a)sydd, ar y dyddiad perthnasol, yn wladolyn o’r UE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig;
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn y dyddiad perthnasol; a
(d)a oedd, mewn achos pan oedd preswylio arferol y person y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).
11. Person—
(a)sydd, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn i wladolyn Swisaidd â’r hawlogaeth i gael cymorth gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d)a oedd, mewn achos pan oedd preswylio arferol y person y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).
12. Person—
(a)a oedd yn blentyn i weithiwr Twrcaidd ar y dyddiad perthnasol;
(b)sydd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y diwrnod perthnasol; ac
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Rheoliad 26
1.—(1) Yn yr Atodlen hon—
ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd;
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person, y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau Rhan 2 o’r Atodlen hon, yn cael ei gyfrifo mewn cysylltiad ag ef at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy’n gymwys iddo;
ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n union o flaen y flwyddyn berthnasol;
ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw’r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i’w asesu mewn cysylltiad â hi;
ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 3 (yn achos myfyriwr cymwys) a pharagraff 4 (yn achos partner myfyriwr);
ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), mewn perthynas â pharagraff 3, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y gwneir cais am gymorth ar ei chyfer ac, mewn perthynas â pharagraff 4, (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 4) mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol flaenorol, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell wedi ei gyfrifo fel pe bai at ddibenion—
y Deddfau Treth Incwm;
deddfwriaeth treth incwm un o Aelod-wladwriaethau eraill yr AEE neu’r Swistir sy’n gymwys i incwm y person;
os yw deddfwriaeth mwy nag un o Aelod-wladwriaethau’r AEE neu o un o Aelod-wladwriaethau’r AEE a’r Swistir yn gymwys i’r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru o’r farn y bydd y person yn talu’r swm mwyaf o dreth oddi tani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 4),
ac eithrio na wneir cyfrif o’r incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) a dalwyd i barti arall;
mae i “incwm yr aelwyd” (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;
ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw unrhyw un o’r canlynol—
priod y myfyriwr cymwys;
partner sifil y myfyriwr cymwys;
person sydd fel arfer yn byw gyda’r myfyriwr cymwys fel pe bai’r person yn briod â’r myfyriwr os yw’r myfyriwr cymwys yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol a bod y myfyriwr cymwys yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;
person sydd fel arfer yn byw gyda’r myfyriwr fel pe bai’r person hwnnw yn bartner sifil i’r myfyriwr os yw’r myfyriwr cymwys yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol a bod y myfyriwr cymwys yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu riant mabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”), “mam” (“mother”) a “tad” (“father”) yn unol â hynny.
(2) Yr incwm y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973(25) sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o’r Ddeddf honno neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004(26) sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o’r Atodlen honno.
2.—(1) Mae swm cyfraniad myfyriwr cymwys yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.
(2) Incwm yr aelwyd—
(a)yn achos myfyriwr cymwys a chanddo bartner, yw cyfanswm incwm gweddilliol y myfyriwr ac incwm gweddilliol partner y myfyriwr hwnnw; neu
(b)yn achos myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner, yw incwm gweddilliol y myfyriwr hwnnw.
(3) Wrth ganfod beth yw incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae swm o £1,130 i’w ddidynnu am bob plentyn sy’n ddibynnol yn ariannol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar y myfyriwr cymwys neu ar bartner y myfyriwr cymwys.
3.—(1) Er mwyn canfod beth yw incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, didynnir o incwm trethadwy y myfyriwr cymwys (onid yw eisoes wedi ei ddidynnu wrth ganfod beth yw ei incwm trethadwy) gyfanswm unrhyw symiau sy’n dod o fewn unrhyw un o’r paragraffau canlynol—
(a)unrhyw gydnabyddiaeth am waith a wneir yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd o gwrs y myfyriwr cymwys, ar yr amod nad yw’r gydnabyddiaeth honno’n cynnwys unrhyw symiau a delir mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fo gan y myfyriwr cymwys ganiatâd i fod yn absennol neu pan fo wedi ei ryddhau o’i ddyletswyddau arferol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw;
(b)swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a delir gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw’n bensiwn sy’n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(27), neu pan fo incwm y myfyriwr yn cael ei gyfrifo at ddiben deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o’r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol i’r Deddfau Treth Incwm.
(2) Pan fo’r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, gwerth yr incwm hwn at ddiben y paragraff hwn—
(a)os yw’r myfyriwr yn prynu sterling â’r incwm, yw swm y sterling a gaiff y myfyriwr felly; neu
(b)fel arall, yw gwerth y sterling y byddai’r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio’r gyfradd ar gyfer y mis y daw i law, sef cyfradd a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol(28).
4.—(1) At ddibenion canfod beth yw incwm trethadwy partner myfyriwr cymwys (“A” yn y paragraff hwn), nid yw unrhyw ddidyniadau sydd i’w gwneud neu esemptiadau a ganiateir—
(a)ar ffurf rhyddhadau personol y darperir ar eu cyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os cyfrifir yr incwm at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu’r Swistir, swm gros unrhyw bremiwm o’r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai’r ddeddfwriaeth honno’n gwneud darpariaeth gyfatebol i’r Deddfau Treth Incwm;
(b)yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol, na chaiff taliadau, a fyddent fel arall, o dan gyfraith y Deyrnas Unedig, yn rhan o incwm person, eu trin felly oddi tano neu oddi tani; neu
(c)o dan is-baragraff (2),
i’w gwneud na’u caniatáu.
(2) Er mwyn canfod beth yw incwm gweddilliol A, didynnir o’r incwm trethadwy a ganfyddir o dan is-baragraff (1) gyfanswm unrhyw symiau sy’n dod o fewn unrhyw un o’r paragraffau canlynol—
(a)swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a delir gan y myfyriwr mewn perthynas â phensiwn (nad yw’n bensiwn sy’n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os cyfrifir incwm y myfyriwr at ddiben deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu’r Swistir, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o’r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe byddai’r ddeddfwriaeth honno’n gwneud darpariaeth gyfatebol i’r Deddfau Treth Incwm;
(b)mewn unrhyw achos lle y cyfrifir incwm yn unol ag is-baragraff (6), unrhyw symiau sy’n gyfwerth â’r didyniad a grybwyllir ym mharagraff (a) o’r is-baragraff hwn, ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir felly i fod yn fwy na’r didyniadau a wneid os byddai’r cyfan o incwm partner y myfyriwr cymwys mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm; ac
(c)yn yr achos pan fo gan A ddyfarniad statudol, £1,130.
(3) Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm A yn y flwyddyn ariannol yn dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”), yn debygol o beidio â bod yn fwy nag 85 y cant o werth sterling incwm A yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben galluogi’r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb ddioddef caledi, ddarganfod beth yw incwm yr aelwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.
(4) Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm A mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i unrhyw ddigwyddiad, yn debygol o beidio â bod, ac yn debygol o barhau i beidio â bod ar ôl y flwyddyn honno, yn fwy nag 85 y cant o werth sterling incwm A yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben galluogi’r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb ddioddef caledi, ddarganfod beth yw incwm yr aelwyd ar gyfer blwyddyn academaidd cwrs y myfyriwr y digwyddodd y digwyddiad ynddi drwy gymryd fel incwm gweddilliol A gyfartaledd incwm gweddilliol A ar gyfer pob un o’r blynyddoedd ariannol y mae’r flwyddyn academaidd honno’n dod oddi mewn iddynt.
(5) Os yw A yn bodloni Gweinidogion Cymru bod incwm A yn deillio’n gyfan gwbl neu’n bennaf o elw busnes y mae A yn ei rhedeg neu broffesiwn y mae A yn ei ddilyn, yna mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon o’r Atodlen at flwyddyn ariannol flaenorol i’w ddarllen fel cyfeiriad at y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy’n diweddu ar ôl dechrau’r flwyddyn ariannol flaenorol ac y cedwir cyfrifon mewn cysylltiad ag ef sy’n gysylltiedig â’r busnes neu’r proffesiwn hwnnw.
(6) Os yw A yn derbyn unrhyw incwm nad yw’n rhan o incwm A at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu’r Swistir dim ond oherwydd—
(a)nad yw A yn preswylio neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu pan gyfrifir incwm A fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu’r Swistir, nad yw’n preswylio felly neu wedi ymgartrefu felly yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu yn y Swistir;
(b)nad yw’r incwm yn deillio yn y Deyrnas Unedig, neu pan gyfrifir incwm A at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu’r Swistir, nad yw’n deillio yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu yn y Swistir; neu
(c)bod yr incwm yn deillio o swyddfa, o wasanaeth neu o gyflogaeth, a bod incwm o’r rhain yn esempt o dreth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,
mae incwm trethadwy A at ddiben yr Atodlen hon i’w gyfrifo fel pe bai’r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o incwm A at ddiben y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu’r Swistir, yn ôl y digwydd.
(7) Os yw incwm A yn cael ei gyfrifo fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu’r Swistir, mae i’w gyfrifo o dan ddarpariaethau’r Atodlen hon yn arian cyfredol y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu’r Swistir ac incwm A at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw a ganfyddir yn unol â’r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn dod oddi mewn iddo, fel y’i cyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
(8) Os bydd Gweinidogion Cymru’n penderfynu bod y myfyriwr cymwys a phartner y myfyriwr cymwys wedi bod ar wahân drwy gydol y flwyddyn berthnasol, nid yw incwm y partner i’w gymryd i gyfrif wrth ganfod incwm yr aelwyd.
(9) Os bydd Gweinidogion Cymru’n penderfynu bod y myfyriwr cymwys a phartner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, canfyddir incwm y partner drwy gyfeirio at incwm y partner o dan is-baragraff (1) wedi ei rannu â phum deg dau a’i luosi â nifer yr wythnosau llawn yn y flwyddyn berthnasol y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu nad oedd y myfyriwr cymwys a phartner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu.
(10) Os oes gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw flwyddyn academaidd, mae darpariaethau’r paragraff hwn yn gymwys i bob un ohonynt.
5.—(1) Mae cyfraniad myfyriwr cymwys i’w gyfrifo yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Y cyfraniad sy’n daladwy gan fyfyriwr cymwys yw—
(a)mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn fwy na £50,753, £1 am bob £5 uwchben incwm aelwyd o £50,753; a
(b)mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn £50,753 neu lai, dim.
(3) Nid yw swm y cyfraniad i fod yn fwy na £6,208.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth i un myfyriwr cymwys sy’n dilyn cwrs dynodedig ym maes addysg uwch yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.
Mae grantiau at gostau byw a chostau eraill, lwfans myfyriwr anabl a grant ar gyfer dibynyddion ar gael ar gyfer y myfyriwr cymwys.
Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r meini prawf cymhwystra ar gyfer y grantiau, y weithdrefn ar gyfer gwneud cais a’r dull o gyfrifo swm y grant sy’n daladwy. Mae’r Rheoliadau yn nodi hefyd y trefniadau ar gyfer talu’r grantiau ac adennill unrhyw ordaliadau.
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Grantiau Dysgu’r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2009 a Rheoliadau Grantiau Dysgu’r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2010.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), adran 722 ac Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147, Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7, Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 257, Deddf Addysg 2011 (p. 21), adran 76 a Gorchymyn Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (Gweithgareddau Rheoleiddiedig) (Diwygio) (Rhif 2) 2013 (O.S. 2013/1881), paragraff 6 o’r Atodlen. Mae’r diwygiadau a wnaed gan Ddeddf Addysg 2011 yn gymwys mewn perthynas â myfyriwr sy’n dechrau cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2012, ac eithrio o dan unrhyw amgylchiadau a ragnodir.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy. 149) (C. 79)) fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy. 159) (C. 56)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
1962 p. 12; rhoddwyd yn lle adrannau 1 i 4 ac Atodlen 1 y darpariaethau a osodir yn Atodlen 5 i Ddeddf Addysg 1980 (p. 20). Diwygiwyd adran 1(3)(d) gan adran 4 o Ddeddf Addysg (Grantiau a Dyfarniadau) 1984 (p. 11) . Diwygiwyd adran 4 gan baragraff 2 o Atodlen 2 i Ddeddf Addysg 1994 (p. 30). Diddymwyd y Ddeddf gyfan gan adran 44(2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), ac Atodlen 4 iddi, yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol a’r arbedion a osodir yn erthygl 3 o Orchymyn Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/3237) ac O.S. 2010/1158, Atodlen 4, paragraff 5.
1990 p. 6; diddymwyd gan Atodlen 4 i Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30).
O.S. 1990/1506 (G.I. 11); diwygiwyd gan O.S. 1996/274 (G.I. 1), Erthygl 43 ac Atodlen 5 Rhan II, O.S. 1996/1918 (G.I. 15), Erthygl 3 a’r Atodlen ac O.S. 1998/258 (G.I. 1), Erthyglau 3 i 5 a ddirymwyd, gydag arbedion, gan Rh.S. (G.I.) 1998 Rhif 306.
1980 p. 44.; trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46).
O.S. 1998/1760 (G.I. 14), y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Gorch. 9171.
Gorch. 3906 (allan o brint; mae llungopïau ar gael, yn rhad ac am ddim, oddi wrth yr Is-adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG).
2002 p. 41. Diwygiwyd adran 104 gan Atodlen 2 i Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr,etc.) 2004 (p. 19), adran 9 o Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p. 13) ac O.S. 2010/21.
O.S. 2009/3359 (Cy. 295) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/1978 (Cy. 218).
1992 p. 4 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
1989 p. 41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p. 41), Atodlen 16, paragraff 12, Deddf Safonau Gofal 2000 (p. 14), Atodlen 4, paragraff 14, Deddf Plant 2004 (p. 31), adran 49(3), Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23), adran 8 ac Atodlen 3, paragraffau 1 a 7 a Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), Atodlen 2(1), paragraff 30.
Mewnosodwyd is-adrannau (5A) i (5C) o adran 23C o Ddeddf Plant 1989 gan adran 21 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 ac, o ran Cymru, mae O.S 2010/1329 (Cy. 112) (C. 81) ac O.S. 2011/824 (Cy. 123) (C. 32) yn berthnasol.
Mae diwygiadau i adrannau 15 a 24 ac Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
2002 p. 21 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
OJ L158, 30.04.2004, tt. 77-123.
Gorch. 4904.
1971 p. 77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61).
OJ Rhif L141, 27.05.2011, t. 1.
1973 p. 18; diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder 1982 (p. 53), adran 16. Mewnosodwyd adran 25B gan Ddeddf Pensiynau 1995 (p. 26), adran 166(1) ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 4. Mewnosodwyd adran 25E gan Ddeddf Pensiynau 2004 (p. 35), adran 319(1), Atodlen 12, paragraff 3.
2004 p. 33; addaswyd paragraff 25 o Atodlen 5 gan O.S. 2006/1934, a diwygiwyd Rhan 7 o Atodlen 5 gan Ddeddf Pensiynau 2008 (p. 30), Atodlenni 6 ac 11.
2004 p. 12. Diwygiwyd adran 188 gan Ddeddf Cyllid 2007 (p. 11), adrannau 68 a 114 ac Atodlenni 18 a 27, Deddf Cyllid 2013 (p. 29), adran 52 a Deddf Cyllid 2014 (p. 26), Atodlen 7.
“Financial Statistics” (ISSN 0015-203X).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: