- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliad 4
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “cig wedi ei halltu” (“cured meat”) yw bwyd sy’n cynnwys cig a halen halltu, pa un a yw’r bwyd yn cynnwys unrhyw gynhwysion eraill hefyd ai peidio;
ystyr “halen halltu” (“curing salt”) yw—
sodiwm clorid, os defnyddir digon ohono i gael effaith halltu sylweddol ar y cynnyrch;
potasiwm clorid, os defnyddir digon ohono i gael effaith halltu sylweddol ar y cynnyrch;
cyfuniad o unrhyw rai o sodiwm clorid, potasiwm clorid, sodiwm nitrid, potasiwm nitrid a sodiwm nitrid sydd wedi eu hawdurdodi i’w defnyddio yn Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion bwyd(1), ac eithrio cyfuniad o sodiwm clorid a photasiwm clorid; neu
cyfuniad o sodiwm clorid a photasiwm clorid, os defnyddir digon ohono i gael effaith halltu sylweddol ar y bwyd.
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 | ||
---|---|---|---|---|
Enw’r bwyd | Gofynion cynnwys cig neu gig wedi ei halltu | Gofynion ychwanegol | ||
Rhaid i’r bwyd gynnwys dim llai na’r ganran o gig a ddynodir, pan fydd y cynhwysyn sy’n gig yn cynnwys y canlynol: | ||||
Cig neu, yn ôl y digwydd, cig wedi ei halltu o foch yn unig | Cig neu, yn ôl y digwydd, cig wedi ei halltu o adar yn unig, cwningod yn unig neu gyfuniad o adar a chwningod yn unig | Cig neu, yn ôl y digwydd, cig wedi ei halltu o rywogaeth arall neu gymysgeddau eraill o gig | ||
1. Byrgyr neu eidionyn – pa un a yw’n rhan o air arall ai peidio, ond gan eithrio unrhyw enw sy’n dod o fewn eitemau 2 neu 3 o’r tabl hwn. | 67% | 55% | 62% | 1. Os goleddfir yr enw “byrgyr” neu “eidionyn” gan enw ar fath o gig wedi ei halltu, rhaid i’r bwyd gynnwys canran o gig o’r math y mae’r math o gig wedi ei halltu a enwir wedi ei baratoi ohono sydd o leiaf yn hafal i’r lleiafswm o gynnwys cig sy’n ofynnol ar gyfer y bwyd hwnnw. 2. Os goleddfir yr enw “byrgyr” neu “eidionyn” gan enw ar fath o gig, rhaid i’r bwyd gynnwys canran o’r cig hwnnw a enwir sydd o leiaf yn hafal i’r lleiafswm o gynnwys cig sy’n ofynnol ar gyfer y bwyd hwnnw. 3. Os defnyddir yr enw “byrgyr” neu “eidionyn” i gyfeirio at gynhwysyn cyfansawdd sy’n cynnwys cymysgedd o gig a chynhwysion eraill, fel rholyn bara, bydd y gofynion hyn yn gymwys i’r cymysgedd cig yn unig, fel pe bai’r cymysgedd cig yn gynnyrch rheoleiddiedig y defnyddiwyd ei enw fel enw’r bwyd wrth ei labelu neu ei hysbysebu. |
2. Byrgyr rhad neu eidionyn rhad – pa un a yw “byrgyr” neu “eidionyn” yn ffurfio rhan o air arall ai peidio. | 50% | 41% | 47% | 1. Os goleddfir yr enw “byrgyr rhad” neu “eidionyn rhad” gan enw ar fath o gig wedi ei halltu, rhaid i’r bwyd gynnwys canran o gig o’r math y mae’r math o gig wedi ei halltu a enwir wedi ei baratoi ohono sydd o leiaf yn hafal i’r lleiafswm o gynnwys cig sy’n ofynnol ar gyfer y bwyd hwnnw. 2. Os goleddfir yr enw “byrgyr rhad” neu “eidionyn rhad” gan enw ar fath o gig, rhaid i’r bwyd gynnwys canran o’r cig hwnnw a enwir sydd o leiaf yn hafal i’r lleiafswm o gynnwys cig sy’n ofynnol ar gyfer y bwyd hwnnw. 3. Os defnyddir yr enw “byrgyr rhad” neu “eidionyn rhad” i gyfeirio at gynhwysyn cyfansawdd sy’n cynnwys cymysgedd o gig a chynhwysion eraill, fel rholyn bara, bydd y gofynion hyn yn gymwys i’r cymysgedd cig yn unig, fel pe bai’r cymysgedd cig yn gynnyrch rheoleiddiedig y defnyddiwyd ei enw fel enw’r bwyd wrth ei labelu neu ei hysbysebu. |
3. Hambyrgyr - pa un a yw’n ffurfio rhan o air arall ai peidio. | 67% | Ddim yn gymwys | 62% | 1. Os defnyddir yr enw “hambyrgyr” rhaid i’r cig a ddefnyddir wrth baratoi’r bwyd fod yn gig eidion, porc neu gymysgedd o’r ddau. 2. Os goleddfir yr enw “hambyrgyr” gan enw ar fath o gig, rhaid i’r bwyd gynnwys canran o’r cig hwnnw a enwir sydd o leiaf yn hafal i’r lleiafswm o gynnwys cig sy’n ofynnol ar gyfer y bwyd hwnnw. 3. Os defnyddir yr enw “hambyrgyr” i gyfeirio at gynhwysyn cyfansawdd sy’n cynnwys cymysgedd o gig a chynhwysion eraill, fel rholyn bara, bydd y gofynion hyn yn gymwys i’r cymysgedd cig yn unig, fel pe bai’r cymysgedd cig yn gynnyrch rheoleiddiedig y defnyddiwyd ei enw fel enw’r bwyd wrth ei labelu neu ei hysbysebu. |
4. X a dorrwyd yn fân, os rhoddir yn lle’r “X” yr enw “cig” neu “cig wedi ei halltu” neu enw ar fath o gig neu gig wedi ei halltu, pa un a gynhwysir yr enw ar y math o gig ai peidio. | 75% | 62% | 70% | Dim gofynion ychwanegol. |
5. X a gyffeithiwyd neu gorn X, os rhoddir yn lle’r “X” yr enw “cig” neu enw ar fath o gig, oni oleddfir yr enw gan eiriau sy’n cynnwys enw bwyd heblaw cig. | 120% | 120% | 120% | 1. Rhaid i’r bwyd gynnwys cig a gyffeithiwyd yn unig. 2. Os bydd enw’r bwyd yn cynnwys enw ar fath o gig, rhaid i’r cig a ddefnyddir wrth baratoi’r bwyd fod o’r math a enwir yn unig. 3. Rhaid i gyfanswm y braster yn y bwyd beidio â bod yn fwy na 15%. |
6. Torth gig neu dorth X, os rhoddir yn lle’r “X” enw ar fath o gig neu gig wedi ei halltu. | 67% | 55% | 62% | Dim gofynion ychwanegol. |
7. Pastai gig, pei cig neu bwdin cig Yr enw “pastai”, “pei” neu “pwdin” wedi ei oleddfu gan enw ar fath o gig neu gig wedi ei halltu oni oleddfir ef hefyd gan enw bwyd heblaw cig neu gig wedi ei halltu— | Dim gofynion ychwanegol. | |||
(a) yn seiliedig ar bwysau’r cynhwysion pan fo’r bwyd heb ei goginio, | 12.5% | 12.5% | 12.5% | |
(b) ond os yw’r bwyd yn pwyso— | ||||
(i) dim mwy na 200g a dim llai na 100g; neu | 11% | 11% | 11% | |
(ii) llai na 100g. | 10% | 10% | 10% | |
Pastai helgig neu bei helgig— (a) yn seiliedig ar bwysau’r cynhwysion pan fo’r bwyd heb ei goginio, (b) ond os yw’r bwyd yn pwyso— | 12.5% | 12.5% | 12.5% | |
(i) dim mwy na 200 g a dim llai na 100 g; neu | 11% | 11% | 11% | |
(ii)_llai na 100 g. | 10% | 10% | 10% | |
8. Pastai Albanaidd neu bei Albanaidd Yn seiliedig ar bwysau’r cynhwysion pan fo’r bwyd heb ei goginio. | 10% | 10% | 10% | Dim gofynion ychwanegol. |
9. Yr enw “pastai”, “pei” neu “pwdin” wedi ei oleddfu gan y geiriau “cig” neu “cig wedi ei halltu” neu gan enw ar fath o gig neu gig wedi ei halltu ac wedi ei oleddfu hefyd gan enw bwyd heblaw cig neu gig wedi ei halltu— | Dim gofynion ychwanegol. | |||
(a) pan fo’r goleddfiad cyntaf (sy’n ymwneud â’r cig) yn dod o flaen yr olaf | 7% | 7% | 7% | |
(b) pan fo’r goleddfiad olaf (nad yw’n ymwneud â chig) yn dod o flaen y cyntaf. Yn seiliedig, yn y ddau achos, ar bwysau’r cynhwysion pan fydd y bwyd heb ei goginio. | 6% | 6% | 6% | |
10. Pasti, Bridie rhôl selsig neu sosej rôl Yn seiliedig ar bwysau’r cynhwysion pan fo’r bwyd heb ei goginio. | 6% | 6% | 6% | Dim gofynion ychwanegol. |
11. Selsigen neu sosej (heb gynnwys yr enw “selsigen” neu “sosej” pan oleddfir ef gan y geiriau “afu/iau” neu “tafod” neu’r ddau), dolen, tsipolata neu gig selsig neu gig sosejys— | Dim gofynion ychwanegol. | |||
(a) os goleddfir yr enw gan yr enw “porc” ond nid gan enw unrhyw fath arall o gig; neu | 42% | Ddim yn gymwys | Ddim yn gymwys | |
(b) ym mhob achos arall. | 32% | 26% | 30% | |
Nodiadau: 1 Mewn perthynas ag eitemau 4, 5 a 6, seilir y canrannau yng ngholofn 2 ar bwysau’r cig amrwd a ddefnyddir i wneud y bwyd (“y cynhwysyn cig amrwd”) fel canran o bwysau’r cynnyrch gorffenedig wedi ei goginio. Mewn perthynas â’r eitemau eraill, seilir y canrannau ar bwysau’r cynhwysyn cig amrwd a ddefnyddir i wneud y bwyd fel canran o gyfanswm pwysau’r holl gynhwysion a ddefnyddir i wneud y bwyd (gan gynnwys y cynhwysyn cig amrwd) ar adeg eu defnyddio fel cynhwysyn. 2 Mae swm y cig a bennir yn y tabl i’w ganfod gan ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud â chyfanswm y cynnwys braster a meinwe gysylltiol ym mhwynt 17 o Ran B o Atodiad VII i FIC, gan gynnwys unrhyw addasiadau angenrheidiol ar i lawr mewn achos pan fo cyfanswm y cynnwys braster a meinwe gysylltiol yn y cynnyrch rheoleiddiedig yn fwy na’r gwerthoedd a ddynodir yn y tabl ym mhwynt 17 o Ran B o Atodiad VII i FIC. |
OJ Rhif L 354, 31.12.2008, t. 16, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1084/2014 (OJ Rhif L 298, 16.10.2014, t. 8).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys