- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
13.—(1) Ac eithrio pan fo is-baragraff (2) neu (3) yn gymwys, ni chaiff ffermwr symud ymaith, dinistrio na difrodi waliau cerrig, cloddiau cerrig, perthi, cloddiau , ffensys llechi, pyllau dŵr na ffosydd heb ganiatâd ymlaen llaw gan—
(a)Gweinidogion Cymru,
(b)unrhyw awdurdod arall, gan neu o dan unrhyw ddeddfiad, fel yr hysbysir i’r buddiolwr gan Weinidogion Cymru pan fo’r buddiolwr yn gwneud cais iddynt am ganiatâd.
(2) Caiff buddiolwr symud ymaith nodwedd gerrig, neu dynnu cerrig allan o nodwedd gerrig—
(a)er mwyn lledu bwlch presennol yn y nodwedd gerrig i ddim mwy na 10 metr i ddarparu mynediad i’r tir ar gyfer peiriannau neu dda byw, ond rhaid i bennau’r nodwedd, a grëir gan y weithred o’i lledu, gael eu gorffen gyda wyneb fertigol; neu
(b)os rhoddodd Gweinidogion Cymru ganiatâd ysgrifenedig i’r buddiolwr wneud hynny oherwydd eu bod o’r farn bod symud yn angenrheidiol yn yr amgylchiad penodol dan sylw.
(3) Caiff buddiolwr ledu bwlch presennol mewn perth, clawdd neu ffos i ddim mwy na 10 metr i ddarparu mynediad i’r tir ar gyfer peiriannau neu dda byw, ond rhaid i ben y berth, clawdd neu ffos, a grëir gan y weithred o ledu, gael ei orffen gyda wyneb fertigol.
(4) Rhaid i fuddiolwr beidio â thrin tir o fewn 1 fetr i berth, clawdd neu gwrs dŵr cyfagos i arwynebedd amaethyddol.
(5) Rhaid i fuddiolwr beidio â symud ymaith unrhyw berth, yn groes i reoliad 5(1) neu (9) o Reoliadau Perthi 1997(1).
(6) Rhaid i fuddiolwr beidio â thorri gorchymyn cadw coed a wnaed o dan adran 198(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(2), drwy—
(a)dorri coeden i lawr, ei dadwreiddio neu ei dinistrio’n fwriadol; neu
(b)difrodi yn fwriadol, brigdorri neu dorri canghennau coeden mewn modd sy’n debygol o’i dinistrio.
(7) Yn y paragraff hwn—
ystyr “cais datblygu gwledig” (“rural development application”) yw cais i Weinidogion Cymru i ymuno mewn ymrwymiad datblygu gwledig;
ystyr “ceisydd datblygu gwledig” (“rural development applicant”) yw unrhyw berson sy’n gwneud cais datblygu gwledig:
ystyr “clawdd cerrig” (“stone faced bank”) yw clawdd bridd gyda gwaith cerrig ar un wyneb.
mae “ffos” (“ditch”) yn cynnwys ffos sych;
mae “nodwedd gerrig” (“stone feature”) yn cynnwys wal gerrig, clawdd cerrig a ffens lechi;
ystyr “perth” (“hedgerow”) yw unrhyw berth sydd â’i lled mwyaf yn 10 metr neu’n llai;
ystyr “pwll dŵr” (“pond”) yw corff o ddŵr sy’n digwydd yn naturiol, neu a grëwyd o dan ymrwymiad datblygu gwledig, gydag arwynebedd o hyd at 0.1 hectar;
ystyr “taliad datblygu gwledig” (“rural development payment”) yw unrhyw daliad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Deitl III o’r Rheoliad Datblygu Gwledig;
ystyr “wal gerrig” (“stone wall”) yw wal gerrig draddodiadol, ac mae’r term yn cynnwys “wal Penclawdd” a “perth Sir Benfro”;
ystyr “wal Penclawdd” neu “perth Sir Benfro” (“Penclawdd wall” neu “Pembrokeshire hedge”) yw clawdd pridd gyda gwaith cerrig ar ei ddau wyneb;
ystyr “ymrwymiad datblygu gwledig” (“rural development commitment”) yw ymrwymiad a roddir i Weinidogion Cymru gan geisydd datblygu gwledig, i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad sy’n amod cael taliad datblygu gwledig;
O.S. 1997/1160. Gwnaed diwygiadau, nad oes yr un ohonynt yn berthnasol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys