- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Diogel (Sail Absoliwt ar gyfer Meddiannu am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol) (Y Weithdrefn Adolygu) (Cymru) 2014, a deuant i rym ar 12 Ionawr 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran tai annedd yng Nghymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “adolygiad” (“review”) yw adolygiad o dan adran 85ZA o’r Ddeddf (adolygu penderfyniad i geisio meddiannu ar sail absoliwt am ymddygiad gwrthgymdeithasol);
ystyr “cais” (“application”) yw’r cais ysgrifenedig am adolygiad;
ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw tenant sydd wedi gwneud cais am adolygiad;
ystyr “diwrnod busnes” (“business day”) yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ddiwrnod sy’n ŵyl y banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(1);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 1985;
ystyr “penderfyniad gwreiddiol” (“original decision”) yw penderfyniad landlord i geisio gorchymyn meddiannu tŷ annedd o dan adran 84A o’r Ddeddf(2) (sail absoliwt ar gyfer meddiannu am ymddygiad gwrthgymdeithasol).
Mewnosodwyd adran 84A gan adran 94(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys