Gohirio gwrandawiad ar ôl cychwyn
9.—(1) Caniateir i’r gwrandawiad gael ei ohirio ar ôl cychwyn gan y person sy’n ei gynnal (ar gais y ceisydd neu fel arall).
(2) Pan fo’r gwrandawiad yn cael ei ohirio ar ôl cychwyn am fwy nag un diwrnod, rhaid i’r person sy’n cynnal y gwrandawiad bennu’r dyddiad y mae’r gwrandawiad i ailddechrau drwy anfon hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw at y ceisydd ac unrhyw berson arall y mae ei bresenoldeb yn ofynnol yn y gwrandawiad ar ôl iddo ailddechrau.