xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4GORFODI A GWEINYDDU

Pwerau swyddog awdurdodedig

12.—(1Caiff swyddog sy’n mynd i mewn i fangre o dan reoliad 11—

(a)atal a chadw unrhyw gerbyd neu lestr;

(b)archwilio’r fangre, ac unrhyw rwyd, trap, peirianwaith, cyfarpar neu bysgod yn y fangre;

(c)cymryd samplau (gan gynnwys samplau o bysgod) o unrhyw beth yn y fangre;

(d)ymafael yn unrhyw bysgod, rhwyd, trap, peirianwaith neu gyfarpar arall yn y fangre i’r graddau y mae’n angenrheidiol at y dibenion a ddisgrifir yn rheoliad 11(1);

(e)cyflawni unrhyw chwiliadau, ymchwiliadau, archwiliadau neu brofion;

(f)ymafael mewn samplau o bysgod a’u lladd mewn modd trugarog at ddibenion tystiolaethol;

(g)cael mynediad i unrhyw ddogfen neu gofnod (ym mha bynnag ffurf y’u cedwir), y mae’n eu hystyried yn berthnasol i’r dibenion a ddisgrifir yn rheoliad 11(1), eu harchwilio, eu copïo neu ymafael ynddynt; ac

(h)cael gafael ar, archwilio a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy’n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi ei ddefnyddio mewn cysylltiad â chofnod o fath y cyfeirir ato yn is-baragraff (g).

(2At ddiben paragraff (1)(h), caiff y swyddog ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal am y cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd, neu’n ymwneud fel arall â’u gweithrediad—

(a)roi cynhorthwy o’r fath a all fod yn rhesymol ofynnol; a

(b)pan fo cofnod yn cael ei gadw ar gyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol i’r cofnod fod ar gael mewn ffurf y gellir ei gymryd ymaith.

(3Os nad yw’r cofnod yn cael ei gynhyrchu yn y ffurf sy’n ofynnol gan baragraff (2)(b), caiff y swyddog ymafael yn y cyfrifiadur neu’r ddyfais storio electronig.

(4Pan fo gan swyddog reswm i amau bod person wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn, caiff y swyddog ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu enw a chyfeiriad y person.

(5Pan fo swyddog wedi mynd i mewn i unrhyw fangre, ac nad yw’n rhesymol ymarferol i benderfynu ar y pryd pa un a yw unrhyw ddogfen neu ffeil electronig, pysgod, rhwyd, trap, peirianwaith neu gyfarpar arall yn y fangre honno yn berthnasol i’r dibenion a ddisgrifir yn rheoliad 11(1), caiff yr arolygydd ymafael ynddynt er mwyn penderfynu pa un a yw’n berthnasol ai peidio.

(6Caniateir i unrhyw bysgod yr ymafaelir ynddynt gael eu gwaredu mewn modd sy’n briodol ym marn y swyddog awdurdodedig.