Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweinyddu a gorfodi Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1099/2009 a fabwysiadwyd ar 24 Medi 2009 ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd (OJ Rhif L 303, 18.11.2009, t.1) (“y Rheoliad UE”) a rheolau cenedlaethol penodol a gynhelir neu a fabwysiedir o dan Erthygl 26(1) a (2) o’r Rheoliad UE.

Mae’r Rheoliadau’n dirymu Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995 (O.S. 1995/731) a’r offerynnau sy’n eu diwygio, i’r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

Mae Rhan 1 yn rhagarweiniol ac yn cynnwys diffiniadau ac yn dynodi pa awdurdod cymwys sy’n gyfrifol am wahanol swyddogaethau o dan y Rheoliadau.

Mae Pennod 1 o Ran 2 yn ei gwneud yn ofynnol fod personau’n cael tystysgrif cymhwysedd neu dystysgrif cymhwysedd dros dro UE cyn lladd anifeiliaid neu gyflawni gweithrediadau cysylltiedig mewn lladd-dy. Mae Pennod 1 o Ran 2 yn ddarostyngedig i’r trefniadau trosiannol yn Atodlen 7, sy’n gymwys tan 8 Rhagfyr 2015. Ym Mhennod 2 o Ran 2 gwneir yn ofynnol fod personau’n cael trwydded genedlaethol cyn lladd anifeiliaid neu gyflawni gweithrediadau cysylltiedig mewn man ac eithrio lladd-dy, yn ddarostyngedig i rai eithriadau. Mae’r Rheoliadau’n darparu ar gyfer gwrthod, atal dros dro neu ddirymu tystysgrifau cymhwysedd, tystysgrifau cymhwysedd dros dro neu drwyddedau ac ar gyfer yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad i’w gwrthod, eu hatal dros dro neu’u dirymu.

Mae Rhan 3 ac Atodlenni 1 i 4 yn pennu rheolau cenedlaethol sydd wedi eu cynnal neu’u mabwysiadu yn unol ag Erthygl 26(1) a (2) o’r Rheoliad UE, er mwyn sicrhau diogelwch ehangach i anifeiliaid adeg eu lladd, gan gynnwys darpariaeth o fewn Atodlen 3 i’r Comisiwn Rabinaidd drwyddedu personau i ymgymryd â lladd anifeiliaid yn unol â’r dull Iddewig.

Mae Rhan 4 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, mewn amgylchiadau eithriadol, ganiatáu rhanddirymiadau o ddarpariaethau’r Rheoliad UE, os byddai cydymffurfio’n debygol o effeithio ar iechyd dynol neu’n arafu’r gwaith o ddileu clefyd yn sylweddol.

Mae Rhan 5 yn pennu’r troseddau a gyflawnir os torrir y Rheoliadau hyn neu’r Rheoliad UE. Yn rheoliad 33, nodir y cosbau a all ddilyn collfarn ddiannod.

Mae Rhan 6 yn cynnwys darpariaethau mewn perthynas â gorfodi. Rhoddir pwerau i arolygwyr a benodir gan yr awdurdod cymwys ac awdurdodau lleol i sicrhau cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau hyn a’r Rheoliad UE, gan gynnwys pwerau mynediad ac ymafael a phwerau i ddyroddi hysbysiadau gorfodi. Mae torri hysbysiad gorfodi a rhwystro arolygwyr yn drosedd.

Mae Rhan 7 yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol ac atodol, darpariaethau trosiannol a dirymiadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.