xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7LL+CDarpariaethau amrywiol

HysbysiadauLL+C

42.—(1Caniateir rhoi unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol, neu yr awdurdodir, ei gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn i unrhyw berson drwy—

(a)ei ddanfon i’r person;

(b)ei adael yng nghyfeiriad priodol y person; neu

(c)ei anfon drwy’r post at y person yn y cyfeiriad hwnnw.

(2Caniateir cyflwyno unrhyw hysbysiad o’r fath—

(a)yn achos corff corfforaethol, i swyddog y corff hwnnw; neu

(b)yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, i bartner neu i berson sydd â rheolaeth ar, neu sy’n rheoli, busnes y bartneriaeth.

(3At ddibenion y rheoliad hwn ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978(1) (cyflwyno dogfennau drwy’r post) yn y modd y’i cymhwysir i’r rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo yw—

(a)yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;

(b)yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r bartneriaeth;

(c)yn achos person y cyflwynir hysbysiad iddo gan ddibynnu ar baragraff (2), cyfeiriad priodol y corff corfforaethol neu’r bartneriaeth dan sylw; a

(d)mewn unrhyw achos arall, y cyfeiriad olaf sy’n hysbys ar gyfer y person dan sylw.

(4Os yw person y mae hysbysiad i’w gyflwyno iddo o dan y Rheoliadau hyn wedi pennu cyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiad o’r fath, rhaid trin y cyfeiriad hwnnw hefyd, at ddibenion y rheoliad hwn ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978 yn y modd y’i cymhwysir i’r rheoliad hwn, fel cyfeiriad priodol y person hwnnw.

(5Os na ellir canfod enw neu gyfeiriad unrhyw feddiannydd mangre y mae hysbysiad i’w gyflwyno iddo o dan y Rheoliadau hyn ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyflwyno’r hysbysiad drwy ei adael mewn man amlwg ynghlwm wrth adeilad neu wrthrych yn y fangre.

(6Yn y rheoliad hwn—

(a)nid yw “corff corfforaethol” (“body corporate”) yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig; a

(b)mae cyfeiriadau at gyflwyno’n cynnwys cyfeiriadau at ymadroddion tebyg (megis rhoi neu anfon).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 42 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Diwygiadau canlyniadol ac atodolLL+C

43.  Mae Atodlen 6 (diwygiadau canlyniadol ac atodol) yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 43 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Darpariaeth drosiannol: tystysgrifauLL+C

44.  Mae Atodlen 7 (darpariaethau trosiannol – tystysgrifau) yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 44 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Darpariaeth drosiannol: lladd-dai (llunwedd, adeiladwaith a chyfarpar)LL+C

45.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â lladd-dy sy’n gweithredu yn union cyn 1 Ionawr 2013, ond nid yw’n gymwys mewn perthynas ag—

(a)unrhyw lunwedd neu adeiladwaith newydd mewn lladd-dy o’r fath (neu walfeydd cysylltiedig) a roddir ar waith ar ôl y dyddiad hwnnw; neu

(b)unrhyw gyfarpar newydd a ddefnyddir mewn lladd-dy o’r fath ac a roddir ar waith ar ôl y dyddiad hwnnw.

(2Mewn perthynas â lladd-dy y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo, tan 8 Rhagfyr 2019—

(a)nid yw Erthygl 14(1) ac Atodiad II yn gymwys; a

(b)mae Atodlen 8 yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 45 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

DirymiadauLL+C

46.  Mae’r offerynnau a’r deddfiadau canlynol wedi eu dirymu mewn perthynas â Chymru—

(a)Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995(2);

(b)Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) (Diwygio) 1999(3);

(c)rheoliad 10(3) o Reoliadau Deddf Safonau Bwyd 1999 (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol ac Arbedion) (Cymru a Lloegr) 2000(4) a Rhan 3 o Atodlen 8 i’r Rheoliadau hynny; a

(d)Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) (Diwygio) (Cymru) 2007(5).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 46 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

(2)

O.S. 1995/731; yr offerynnau diwygio sy’n berthnasol o ran Cymru yw O.S. 1999/400, 2000/656 a 2007/2461 (Cy.208).