- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
Rheoliad 25
1. Yn yr Atodlen hon, ystyr “anifail” (“animal”) yw anifeiliaid carngaled, cilgnowyr, moch, cwningod, dofednod neu ratidau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
2. Mae’r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â lladd anifeiliaid mewn lladd-dy.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
3. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—
(a)bod gan y busnes gyfarpar a chyfleusterau addas ar gael at y diben o ddadlwytho anifeiliaid o foddion cludo;
(b)nad oes unrhyw ymylon neu allwthiadau miniog y gallai anifail ddod i gyffyrddiad â hwy;
(c)bod y man lladd wedi’i leoli mewn ffordd sy’n lleihau i’r eithaf yr angen i drin yr anifail ar unrhyw adeg cyn ei ladd;
(d)bod unrhyw offeryn, cyfarpar ffrwyno, cyfarpar arall neu osodiad a ddefnyddir ar gyfer stynio neu ladd, wedi eu dylunio, adeiladu a’u cynnal fel eu bod yn hwyluso stynio neu ladd yn gyflym ac effeithiol; ac
(e)bod unrhyw ddiffyg a ganfyddir mewn cyfarpar wrth gefn ar gyfer stynio neu ladd yn cael ei unioni ar unwaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
4. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—
(a)bod uchder a dyluniad y cyfarpar ar gyfer dadlwytho anifeiliaid, a ddanfonir rywfodd heblaw mewn cynwysyddion, yn addas at y diben hwnnw, gyda llawr gwrthlithro ac, os oes angen, ochrau diogelwch o boptu; a
(b)bod y rampiau ymadael a mynediad yn goleddfu cyn lleied ag y bo modd.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
5. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—
(a)bod nifer digonol o lociau yn y lladd-dy i ddarparu gwalfeydd addas i’r anifeiliaid a’u diogelu rhag effeithiau amodau tywydd garw; a
(b)bod y gwalfeydd—
(i)wedi eu hawyru yn ddigonol er mwyn sicrhau y cedwir y tymheredd, lleithder cymharol yr aer a’r lefelau amonia o fewn terfynau nad ydynt yn niweidiol i anifail, o ystyried yr eithafion tymheredd a lleithder y gellir eu disgwyl; a
(ii)bod ynddynt reseli, mansieri neu gyfarpar arall, digonol o ran nifer a maint i fwydo’r anifeiliaid a gaethiwir yn y gwalfeydd, wedi eu gosod yn barhaol os yw’n ymarferol, a’u hadeiladu a’u lleoli fel eu bod o fewn cyrraedd yn hwylus i’r anifeiliaid, yn hawdd i’w llenwi ac yn anodd i’w difwyno.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
6. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau bod gwalfa mewn cae—
(a)yn cael ei chynnal mewn cyflwr a fydd yn sicrhau na fydd anifail mewn perygl o niwed corfforol neu gemegol neu niwed arall i’w iechyd; a
(b)bod ynddi reseli, mansieri neu gyfarpar arall, digonol o ran nifer a maint i fwydo’r anifeiliaid a gaethiwir ynddi, wedi eu gosod yn barhaol os yw’n ymarferol, a’u hadeiladu a’u lleoli fel eu bod o fewn cyrraedd yn hwylus i’r anifeiliaid, yn hawdd i’w llenwi ac yn anodd i’w difwyno.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
7. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau bod mynediad hwylus at unrhyw linell gefynnu neu gyfarpar prosesu a ddefnyddir ar gyfer dofednod byw, ac at reolyddion unrhyw gyfarpar o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
8. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau bod lloc stynio, a ddefnyddir i ffrwyno anifeiliaid buchol llawn-dwf at y diben o’u stynio wedi ei adeiladu fel ei fod—
(a)yn caniatáu caethiwo un anifail ar y tro ynddo heb beri anghysur iddo;
(b)yn rhwystro anifail a gaethiwir ynddo rhag symud unrhyw bellter sylweddol ymlaen, yn ôl nac i’r ochr;
(c)yn cyfyngu ar symudiad pen anifail a gaethiwir ynddo, i ganiatáu stynio manwl gywir, a chaniatáu rhyddhau pen yr anifail ar unwaith ar ôl stynio’r anifail; a
(d)yn caniatáu mynediad dirwystr at dalcen anifail a gaethiwir ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
9. Os yw’r lladd-dy yn un y lleddir ceffylau ynddo, rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—
(a)y darperir ystafell neu gilfach ar wahân ar gyfer lladd ceffylau; a
(b)bod rhaid i walfa y caethiwir ceffyl ynddi gynnwys o leiaf un stâl rydd, a adeiladwyd mewn modd sy’n lleihau i’r eithaf y perygl y gall ceffyl anafu ei hunan neu unrhyw anifail arall a gaethiwir yn y walfa honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
10. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid neu ddarparu gwalfeydd iddynt sicrhau—
(a)y diogelir pob anifail rhag effeithiau amodau tywydd garw ac y darperir awyru digonol ar ei gyfer;
(b)os yw anifail wedi dioddef tymheredd uchel mewn tywydd llaith, y defnyddir dull priodol i’w oeri;
(c)tra’n aros i ladd anifail sy’n sâl neu’n anabl, y cedwir yr anifail hwnnw ar wahân i unrhyw anifail nad yw’n sâl neu’n anabl; a
(d)nad oes neb yn llusgo anifail sydd wedi ei stynio neu’i ladd dros unrhyw anifail arall nad yw wedi ei stynio neu’i ladd.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
11. Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau yr arolygir cyflwr pob anifail a stad ei iechyd, o leiaf bob bore a min nos, gan weithredwr y busnes neu gan berson cymwys sy’n gweithredu ar ran gweithredwr y busnes.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
12. Heb leihau effaith paragraff 1.5 ac 1.11 o Atodiad III, rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid neu ddarparu gwalfeydd iddynt sicrhau bod anifeiliaid fel a ganlyn yn cael eu lladd ar unwaith—
(a)anifeiliaid sydd wedi profi poen neu ddioddefaint wrth eu cludo neu ar ôl cyrraedd; a
(b)anifeiliaid sy’n rhy ifanc i gymryd bwyd anifeiliaid solet.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
13. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud neu ddarparu gwalfeydd i anifeiliaid a ddanfonir ac eithrio mewn cynhwysydd sicrhau—
(a)y cymerir gofal i beidio â dychryn, cynhyrfu na cham-drin anifail;
(b)na chaiff unrhyw anifail ei droi ben i waered; ac
(c)nad eir ag unrhyw anifail i’r man lladd oni ellir ei ladd heb oedi.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
14. Ni chaiff neb arwain na gyrru anifail dros dir neu lawr y mae ei natur neu’i gyflwr yn debygol o beri i’r anifail lithro neu syrthio.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
15. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid sicrhau bod pob anifail yn cael ei symud â gofal, a phan fo angen, bod anifeiliaid yn cael eu harwain fesul un.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
16. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid sicrhau bod unrhyw offeryn a fwriedir ar gyfer arwain anifail yn cael ei ddefnyddio at y diben hwnnw’n unig, a hynny am gyfnodau byr yn unig, ac ar anifeiliaid unigol.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
17. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â darparu gwalfeydd i anifeiliaid sicrhau y darperir bwyd iddynt mewn ffordd a fydd yn caniatáu i’r anifeiliaid fwydo heb darfu arnynt yn ddiangen.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
18. Ni chaiff neb stynio na lladd anifail heb ffrwyno’r anifail mewn modd priodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
19. Heb leihau cyffredinolrwydd paragraff 18, ni chaiff neb stynio na lladd anifail buchol llawn-dwf oni fydd yr anifail, ar yr adeg y’i stynir neu y’i lleddir, wedi ei gaethiwo mewn lloc stynio neu loc ffrwyno sydd (yn y ddau achos) mewn cyflwr gweithredol da.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
20. Nid yw’r gwaharddiad yn Erthygl 15(3)(a) (hongian neu godi anifeiliaid sy’n ymwybodol) yn gymwys yn achos dofednod, y caniateir eu hongian ar gyfer eu stynio neu’u lladd, ar yr amod y cymerir camau priodol i sicrhau bod y dofednod wedi ymlacio’n ddigonol i’w stynio neu’u lladd yn effeithiol a heb oedi’n ormodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
21.—(1) Ni chaiff neb weithredu llinell gefynnu oni bai—
(a)bod modd lleddfu unrhyw boen, trallod neu ddioddefaint diangen y mae’n ymddangos y dioddefir gan ddofednod sy’n hongian o’r gefynnau, neu dynnu dofednod o’r gefynnau; a
(b)bod cyflymder gweithredu’r llinell gefynnu yn galluogi cyflawni unrhyw weithred neu weithrediad arfaethedig, ar neu mewn perthynas â’r dofednod sy’n hongian o’r llinell gefynnu, heb frysio’n ormodol a chan roi sylw priodol i les y dofednod.
(2) Ni chaiff neb, mewn cysylltiad â stynio neu ladd dofednod, ddefnyddio llinell gefynnu, peiriant neu gyfarpar arall, oni ddefnyddir y cyfryw mewn cysylltiad â stynio neu ladd dofednod o’r math, y maint a’r pwysau y dyluniwyd y llinell gefynnu, y peiriant neu’r cyfarpar arall ar eu cyfer, ac eithrio mewn argyfwng pan ddefnyddir y cyfryw i leddfu dioddefaint.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
22. Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio neu ladd anifail sicrhau bod anifail y bwriedir ei stynio neu’i ladd drwy weithredu dull mecanyddol neu drydanol ar y pen, yn cael ei gyflwyno mewn safle sy’n galluogi lleoli a gweithredu’r cyfarpar yn rhwydd, yn fanwl gywir ac am yr amser priodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
23.—(1) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio neu ladd anifail sicrhau bod unrhyw offeryn, cyfarpar ffrwyno, gosodiad neu gyfarpar arall a ddefnyddir ar gyfer stynio neu ladd yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd sy’n hwyluso stynio neu ladd yn gyflym ac effeithiol.
(2) Yn achos stynio syml, ni chaiff neb stynio anifail onid oes modd lladd yr anifail heb oedi.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
24.—(1) Ni chaiff neb ddefnyddio dyfais bollt gaeth dreiddiol i stynio anifail oni bai—
(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), y lleolir ac y defnyddir y ddyfais er mwyn sicrhau bod y bollt yn treiddio i mewn i gortecs yr ymennydd; a
(b)y defnyddir cetrisen neu bropelydd arall o’r cryfder priodol, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, er mwyn cynhyrchu styniad effeithiol.
(2) Ni chaiff neb saethu anifail buchol y tu ôl i’r pen.
(3) Ni chaiff neb saethu dafad neu afr y tu ôl i’r pen, oni fydd presenoldeb cyrn yn rhwystro defnyddio’r rhan uchaf neu ran flaen y pen, ac os felly caniateir ei saethu y tu ôl i’r pen, ar yr amod—
(a)y lleolir yr ergyd yn union y tu ôl i waelod y cyrn, gan anelu tuag at y geg; a
(b)y cychwynnir gwaedu o fewn 15 eiliad ar ôl saethu, neu y lleddir y ddafad neu’r afr drwy weithdrefn arall o fewn 15 eiliad ar ôl saethu.
(4) Rhaid i berson sy’n defnyddio dyfais bollt gaeth wirio bod y follt wedi dychwelyd i’w lle yr holl ffordd ar ôl pob ergyd ac os nad yw’r follt wedi dychwelyd felly, rhaid iddo sicrhau na ddefnyddir y ddyfais honno drachefn hyd nes bo’r ddyfais wedi ei hatgyweirio.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
25. Ni chaiff neb stynio anifail gan ddefnyddio bollt gaeth anhreiddiol ac eithrio gydag offeryn a leolir yn y man priodol ac a ddefnyddir gyda chetrisen neu bropelydd arall o’r cryfder priodol, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, er mwyn cynhyrchu styniad effeithiol.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
26.—(1) Ni chaiff neb stynio anifail gan ddefnyddio ergyd tarawol anfecanyddol i’r pen.
(2) Ond nid yw’r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys i gwningod, ar yr amod y cyflawnir y gweithrediad mewn ffordd sy’n peri bod y gwningen yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes bo’n farw.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
27. Ni chaiff neb ddefnyddio electrodau i stynio anifail oni bai—
(a)y cymerir camau priodol i sicrhau cyswllt trydanol da; a
(b)bod cryfder a pharhad y cerrynt a ddefnyddir yn peri bod yr anifail yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes bo’n farw.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
28. Ni chaiff neb ddefnyddio styniwr bath dŵr i stynio dofednod oni bai—
(a)bod lefel y dŵr yn y bath dŵr wedi ei addasu i sicrhau cyswllt da â phen pob un o’r adar;
(b)bod cryfder a pharhad y cerrynt a ddefnyddir yn peri bod y dofednod yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes byddant farw;
(c)os stynir grwpiau o ddofednod mewn bath dŵr, y cynhelir foltedd sy’n ddigonol i gynhyrchu cerrynt digon cryf i sicrhau y stynir pob un o’r adar;
(d)y cymerir camau priodol i sicrhau bod y cerrynt yn llifo’n effeithlon, sef yn benodol, bod cysylltiadau trydanol da;
(e)bod y styniwr bath dŵr yn ddigonol, o ran ei faint a’i ddyfnder, ar gyfer y math o ddofednod a stynir; ac
(f)bod person ar gael a fydd yn canfod a yw’r styniwr bath dŵr wedi stynio’r dofednod yn effeithiol ai peidio, ac os na fu’n effeithiol, a fydd naill ai’n stynio neu’n lladd y dofednod yn ddi-oed.
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
29.—(1) Ni chaiff neb stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad â nwy oni roddir pob mochyn mewn cysylltiad â’r nwy am gyfnod digon hir i sicrhau y lleddir y mochyn.
(2) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad â nwy sicrhau—
(a)bod y styniwr nwy, gan gynnwys unrhyw gyfarpar a ddefnyddir i gludo mochyn drwy’r cymysgedd nwyon, wedi ei ddylunio, ei adeiladau a’i gynnal er mwyn—
(i)osgoi cywasgu brest y mochyn;
(ii)galluogi mochyn i barhau i sefyll hyd nes â’n anymwybodol; a
(iii)galluogi mochyn i weld moch eraill wrth iddo gael ei gludo yn y styniwr nwy;
(b)bod y styniwr nwy a’r mecanwaith cludo wedi eu goleuo’n ddigonol, er mwyn caniatáu i foch weld moch eraill neu eu hamgylchoedd;
(c)bod y styniwr nwy yn cynnwys cyfarpar i gynnal y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I);
(d)bod modd monitro’r moch sydd yn y styniwr nwy yn weledol;
(e)bod modd fflysio’r styniwr nwy gydag aer atmosfferig, gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;
(f)bod modd cyrraedd at unrhyw fochyn gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd; ac
(g)na chaniateir i unrhyw fochyn fynd drwy’r styniwr nwy nac aros i mewn ynddo, ar unrhyw adeg pan fo’r signalau rhybuddio gweledol a chlywedol wedi’u hysgogi, neu pan fo unrhyw ddiffyg yng ngweithrediad y styniwr nwy.
(3) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad uniongyrchol â chymysgedd nwyon 1 (“carbon deuocsid mewn crynodiad uchel”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I sicrhau—
(a)nad oes yr un mochyn yn mynd i mewn i’r styniwr nwy os yw’r crynodiad a ddangosir o garbon deuocsid yn ôl cyfaint yn y cymysgedd nwyon yn gostwng islaw 80%; a
(b)unwaith yr â mochyn i mewn i’r styniwr nwy, y caiff ei gludo i’r pwynt yn y styniwr nwy sydd â’r crynodiad uchaf o’r cymysgedd nwyon o fewn 30 eiliad fan hwyaf.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
30.—(1) Ni chaiff neb stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad â nwy oni roddir pob aderyn mewn cysylltiad â’r nwy am gyfnod digon hir i sicrhau y lleddir yr aderyn.
(2) Ni chaiff neb stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad ag—
(a)cymysgedd nwyon 3 (“carbon deuocsid ynghyd â nwyon anadweithiol”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I, oni fydd y crynodiad o garbon deuocsid yn 30% yn ôl cyfaint neu’n is a’r crynodiad o ocsigen yn 2% yn ôl cyfaint neu’n is; neu
(b)cymysgedd nwyon 4 (“nwyon anadweithiol”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I oni fydd y crynodiad o ocsigen yn 2% yn ôl cyfaint neu’n is.
(3) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad â nwy sicrhau—
(a)bod y styniwr nwy yn cynnwys cyfarpar i gynnal y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I a’r Atodlen hon);
(b)bod modd monitro’r dofednod sydd yn y styniwr nwy yn weledol;
(c)bod modd fflysio’r styniwr nwy gydag aer atmosfferig, gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;
(d)bod modd cyrraedd at unrhyw ddofednod gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;
(e)na chaniateir i unrhyw ddofednod fynd drwy’r styniwr nwy nac aros i mewn ynddo, ar unrhyw adeg pan fo’r signalau rhybuddio gweledol a chlywedol wedi’u hysgogi, neu pan fo unrhyw ddiffyg yng ngweithrediad y styniwr nwy; ac
(f)na roddir unrhyw ddofednod mewn gefynnau cyn eu bod yn farw.
(4) Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad â chymysgedd nwyon 3 (“carbon deuocsid ynghyd â nwyon anadweithiol”) neu gymysgedd nwyon 4 (“nwyon adweithiol”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I, sicrhau, fel y bo’n briodol, na chaiff unrhyw aderyn fynd i mewn i’r styniwr nwy—
(a)os yw’r crynodiad o ocsigen a ddangosir yn uwch na 2% yn ôl cyfaint, ac eithrio y caiff y crynodiad o ocsigen godi yn achlysurol i grynodiad o ddim mwy na 5% yn ôl cyfaint am ddim mwy na 30 eiliad; neu
(b)os yw’r crynodiad o garbon deuocsid a ddangosir yn uwch na 30% yn ôl cyfaint.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
31.—(1) Rhaid i berson sy’n ymwneud â gwaedu neu bithio anifail a styniwyd yn syml sicrhau y caiff yr anifail ei waedu neu’i bithio yn ddi-oed ar ôl ei stynio yn syml.
(2) Rhaid i berson sy’n ymwneud â gwaedu anifail a styniwyd yn syml sicrhau bod y gwaedu—
(a)yn gyflym, yn helaeth ac yn gyflawn; a
(b)wedi ei gwblhau cyn i’r anifail ddod yn ymwybodol drachefn.
(3) Heb leihau cyffredinolrwydd paragraff 3.2 o Atodiad III, pan fo anifail yn cael ei waedu ar ôl ei stynio yn syml, ni chaiff neb beri na chaniatáu cyflawni unrhyw weithdrefn ddresio ychwanegol ar yr anifail na rhoi unrhyw ysgogiad trydanol iddo cyn bo’r gwaedu wedi dod i ben, a beth bynnag nid cyn diwedd cyfnodau fel a ganlyn—
(a)yn achos twrci neu ŵydd, cyfnod o ddim llai na 2 funud;
(b)yn achos unrhyw aderyn arall, cyfnod o ddim llai na 90 eiliad;
(c)yn achos anifeiliaid buchol, cyfnod o ddim llai na 30 eiliad; neu
(d)yn achos defaid, geifr, moch a cheirw, cyfnod o ddim llai nag 20 eiliad.
(4) Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys i anifail sydd wedi ei bithio.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 1 para. 31 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
32. Ni chaiff neb ladd ceffyl—
(a)ac eithrio mewn ystafell neu gilfach a ddarparwyd ar gyfer lladd ceffylau yn unol â pharagraff 9(a);
(b)mewn ystafell neu gilfach sy’n cynnwys gweddillion ceffyl neu anifail arall; neu
(c)yng ngolwg unrhyw geffyl arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys