xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CGOFYNION YCHWANEGOL AR GYFER LLADD ANIFEILIAID AC EITHRIO MEWN LLADD-DAI

RHAN 1LL+CRhagarweiniol

DehongliLL+C

1.  Yn yr Atodlen hon, ystyr “anifail” (“animal”) yw anifeiliaid carngaled, cilgnowyr, moch, cwningod, dofednod neu ratidau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

CwmpasLL+C

2.—(1Mae’r Atodlen hon yn gymwys i’r canlynol—

(a)lladd anifeiliaid mewn iard gelanedd;

(b)lladd dofednod neu gwningod ar y fferm at y diben o gyflenwi meintiau bach o gig gan y cynhyrchwr yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol neu i sefydliadau manwerthu lleol sy’n cyflenwi cig o’r fath yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol fel cig ffres yn unol ag Erthygl 11; ac

(c)lladd anifeiliaid ac eithrio mewn lladd-dy neu yn yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).

(2Ond yn achos anifeiliaid a leddir yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-baragraff (1)(c)—

(a)nid yw Rhannau 2 a 3 yn gymwys; a

(b)nid yw Rhan 4 yn gymwys oni leddir yr anifail drwy waedu.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

EsemptiadauLL+C

3.—(1Nid oes dim yn yr Atodlen hon sy’n gymwys i’r canlynol—

(a)lladd anifail mewn lladd-dy;

(b)lladd anifail at y diben o reoli clefyd, oni chaiff ei stynio gan follt gaeth dreiddiol neu drydanu, ac mewn achos o’r fath, rhaid stynio’r anifail yn unol â pharagraffau 34, 37 neu 38 o Ran 5 (yn ôl fel y digwydd);

(c)lladd mochyn, dafad neu afr gan berchennog yr anifail ar gyfer ei fwyta gartref yn breifat gan y perchennog, oni chaiff yr anifail ei ladd drwy waedu, ac mewn achos o’r fath, rhaid stynio’r anifail a’i waedu yn unol â Rhan 5; neu

(d)lladd cywion dros ben sy’n iau na 72 awr oed neu embryonau mewn gwastraff deorfa, ar yr amod y cydymffurfir â pharagraff 44.

(2Yn y paragraff hwn, ystyr “rheoli clefyd” (“disease control”) yw rheoli, gan yr awdurdod cymwys, unrhyw glefyd sy’n hysbysadwy gan neu o dan ddarpariaethau Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) neu’n unol ag unrhyw rwymedigaeth UE [F1a ddargedwir].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)