Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014, Adran 16. Help about Changes to Legislation

Amodau ar gyfer trwyddedLL+C

16.  Rhaid i’r ceisydd—

(a)peidio â bod yn iau na 18 mlwydd oed;

(b)darparu manylion ysgrifenedig—

(i)os collfarnwyd y ceisydd am unrhyw drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid;

(ii)os gwrthodwyd trwydded i’r ceisydd o dan Ddeddf 1967, Deddf 1974, unrhyw reoliadau a wnaed o dan y naill neu’r llall o’r Deddfau hynny neu Reoliadau 1995 mewn perthynas â lladd anifail neu weithrediad cysylltiedig; neu

(iii)os dirymwyd neu os ataliwyd dros dro unrhyw drwydded o’r fath a fu ganddo;

(c)darparu tystiolaeth ysgrifenedig fod milfeddyg awdurdodedig wedi asesu’r ceisydd ac o’r farn bod y ceisydd—

(i)yn gymwys i gyflawni’r gweithrediad mewn perthynas â’r categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar y ceisir trwydded ar eu cyfer heb achosi poen, trallod na dioddefaint diangen i anifail, a

(ii)bod ganddo wybodaeth ddigonol o ddarpariaethau’r holl ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol sy’n ymwneud â’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y ceisir trwydded ar eu cyfer; a

(d)talu ffi yn unol â rheoliad 24.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 16 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth