xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru
Pensiynau, Cymru
Gwnaed
30 Mawrth 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
31 Mawrth 2015
Yn dod i rym
1 Ebrill 2015
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2015.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2015.
2.—(1) Mae Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992(3) (lle y mae Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) wedi ei nodi), fel y mae’n cael effaith yng Nghymru, wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle’r Tabl ym mharagraff 3 o Ran A1 o Atodlen 8, rhodder y Tabl a ganlyn—
“Pensionable pay | Contribution rate from 1 April 2015 to 31 March 2016 (percentage of pensionable pay) |
---|---|
Up to and including £15,150 | 11.0% |
More than £15,150 and up to and including £21,210 | 12.2% |
More than £21,210 and up to and including £30,300 | 14.2% |
More than £30,300 and up to and including £40,400 | 14.7% |
More than £40,400 and up to and including £50,500 | 15.2% |
More than £50,500 and up to and including £60,600 | 15.5% |
More than £60,600 and up to and including £101,000 | 16.0% |
More than £101,000 and up to and including £121,200 | 16.5% |
More than £121,200 | 17.0% |
Pensionable pay | Contribution rate from 1 April 2016 to 31 March 2017 (percentage of pensionable pay) |
---|---|
Up to and including £15,301 | 11.0% |
More than £15,301 and up to and including £21,422 | 12.2% |
More than £21,422 and up to and including £30,603 | 14.2% |
More than £30,603 and up to and including £40,804 | 14.7% |
More than £40,804 and up to and including £51,005 | 15.2% |
More than £51,005 and up to and including £61,206 | 15.5% |
More than £61,206 and up to and including £102,010 | 16.0% |
More than £102,010 and up to and including £122,412 | 16.5% |
More than £122,412 | 17.0% |
Pensionable pay | Contribution rate from 1 April 2017 to 31 March 2018 (percentage of pensionable pay) |
---|---|
Up to and including £15,454 | 11.0% |
More than £15,454 and up to and including £21,636 | 12.2% |
More than £21,636 and up to and including £30,909 | 14.2% |
More than £30,909 and up to and including £41,212 | 14.7% |
More than £41,212 and up to and including £51,515 | 15.2% |
More than £51,515 and up to and including £61,818 | 15.5% |
More than £61,818 and up to and including £103,030 | 16.0% |
More than £103,030 and up to and including £123,636 | 16.5% |
More than £123,636 | 17.0% |
Pensionable pay | Contribution rate from 1 April 2018 (percentage of pensionable pay) |
---|---|
Up to and including £15,609 | 11.0% |
More than £15,609 and up to and including £21,852 | 12.2% |
More than £21,852 and up to and including £31,218 | 14.2% |
More than £31,218 and up to and including £41,624 | 14.7% |
More than £41,624 and up to and including £52,030 | 15.2% |
More than £52,030 and up to and including £62,436 | 15.5% |
More than £62,436 and up to and including £104,060 | 16.0% |
More than £104,060 and up to and including £124,872 | 16.5% |
More than £124,872 | 17.0%”. |
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
30 Mawrth 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (sydd wedi ei nodi yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (O.S. 1992/129)) (“y Cynllun”) fel y mae’n cael effaith yng Nghymru.
Mae Rhan A1 o Atodlen 8 i’r Cynllun yn nodi’r cyfraddau cyfrannu sy’n daladwy gan aelodau, ac a benderfynir drwy gyfeirio at y band tâl pensiynadwy cymwys. Mae’r Gorchymyn hwn yn amnewid y tabl yn Rhan A1 i ddarparu codiad blynyddol o un y cant yn y bandiau tâl hyd at 2018.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth y Gangen Tân a’r Lluoedd Arfog, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu drwy alw 0300 062 8221.
1947 p. 41. Diddymwyd adran 26 gan adran 52 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) ac Atodlen 2 i’r Ddeddf honno. Mae is-adrannau (1) i (5) o adran 26 yn parhau i gael effaith o ran Cymru at ddibenion y cynllun a sefydlwyd o dan yr adran honno, sef Cynllun Pensiwn y Dynion Tân, ac a nodir yng Ngorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (O.S. 1992/129), yn rhinwedd erthygl 3 o Orchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2918 (Cy. 257)). Newidiwyd enw’r Cynllun i Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) gan erthygl 4 o’r offeryn hwnnw.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 26 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Trosglwyddwyd y swyddogaethau yn ddiweddarach i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
O.S. 1992/129; diwygiwyd gan O.S. 1997/2309 a 2851, 1998/1010, 2001/3649 a 3691, 2004/1912 a 2918 (Cy. 257), 2006/1672 (Cy. 160), 2007/1074 (Cy. 112), 2009/1226 (Cy. 109), 2010/234 a 2012/974 (Cy. 128), 2013/736 (Cy. 88), 2014/522 (Cy. 63) a 3242 (Cy. 329).