Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Gweinidogion Cymru sydd â’r pŵer i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â defnyddio ffyrdd arbennig o dan adran 17(2) a (3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (ac eithrio mewn cysylltiad â ffyrdd arbennig yn gyffredinol) i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer uchod, yn gwneud y Rheoliadau hyn sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer terfynau cyflymder amrywiadwy ar y ffyrdd a bennir yn yr Atodlen.

Pan fo arwyddion terfyn cyflymder amrywiadwy yn weithredol, ni chaniateir i gerbyd gael ei yrru’n gyflymach na’r cyflymder uchaf a ddangosir ar bob arwydd terfyn cyflymder y mae’r cerbyd yn ei basio hyd nes y bydd yn pasio arwydd sy’n dangos bod y terfyn cyflymder cenedlaethol yn gymwys neu hyd nes y bydd y cerbyd yn ymadael â’r ffyrdd y mae’r Rheoliadau yn berthnasol iddynt. Pan fo terfyn cyflymder yn newid mewn llai na 10 eiliad cyn i gerbyd basio’r arwydd, a phan fo’r arwydd wedi dangos terfyn cyflymder uwch, mae’r Rheoliadau yn caniatáu i yrrwr fynd mor gyflym â’r terfyn cyflymder uchaf sy’n gymwys cyn y newid. Pan fo’r arwydd terfyn cyflymder yn dangos terfyn cyflymder pan fydd cerbyd yn ei basio ond yn llai na 10 eiliad cyn hynny nid oedd yn dangos unrhyw derfyn cyflymder neu roedd y terfyn cyflymder cenedlaethol yn gymwys, bernir nad yw’r arwydd yn dangos unrhyw derfyn cyflymder i’r cerbyd sy’n ei basio.

Mae’n drosedd i ddefnyddio ffordd arbennig yn groes i reoliadau a wnaed o dan adran 17(2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Traffordd yr M4 (O Fan i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2011 (O.S. 2011 Rhif 94 (Cy. 19)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.