xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1026 (Cy. 75)

Tai, Cymru

Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015

Gwnaed

25 Mawrth 2015

Yn dod i rym

1 Ebrill 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 3(1)(a) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014(1) (“y Ddeddf”).

Yn unol ag adran 3(4) o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd a’r cyfryw bersonau eraill yr oeddent yn eu hystyried yn briodol cyn gwneud y Gorchymyn hwn.

Yn unol ag adran 142(3)(a) o’r Ddeddf, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015 a daw i rym ar 1 Ebrill 2015.

Dynodi Awdurdod Trwyddedu

2.  Yn unol ag adran 3(1)(a) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, ac at ddibenion Rhan 1 o’r Ddeddf honno, dynodir Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd yn awdurdod trwyddedu ar gyfer Cymru gyfan.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru.

25 Mawrth 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adran 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) ac mae’n dynodi Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd yn awdurdod trwyddedu ar gyfer Cymru gyfan at ddibenion Rhan 1 o’r Ddeddf.

Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn ymwneud â Rheoleiddio Tai Rhent Preifat. Mae’n cynnwys gofyniad i’r rhan fwyaf o landlordiaid anheddau sy’n cael eu gosod, neu sydd i’w gosod, ar denantiaethau domestig, gofrestru â’r awdurdod trwyddedu dynodedig perthnasol. Yn yr un modd, mae’n ofynnol i bersonau sy’n ymwneud â gosod neu reoli anheddau o’r fath, gael trwydded gan yr awdurdod trwyddedu dynodedig perthnasol.

Yn unol ag adran 3(4) o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd a’r cyfryw bersonau eraill yr oeddent yn eu hystyried yn briodol cyn gwneud y Gorchymyn hwn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Mae’r Asesiad Effaith a luniwyd ar gyfer y Ddeddf yn berthnasol a gellir cael copi gan yr Adran Dai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhydycar, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.