xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
21 Ebrill 2015
Yn dod i rym
27 Ebrill 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 86(1) a (2), a 142(2)(c) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014(1).
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 142(3)(b)(ii) o’r Ddeddf honno.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Digartrefedd (Gweithdrefn Adolygu) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 27 Ebrill 2015.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “yr adolygwr” (“the reviewer”) yw—
pan nad yw’r penderfyniad gwreiddiol yn cael ei wneud o dan adran 80(5), yr awdurdod;
pan fo’r penderfyniad gwreiddiol yn cael ei wneud o dan adran 80(5) (penderfyniad ynghylch a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio achos wedi eu bodloni)—
yr awdurdod sy’n hysbysu a’r awdurdod a hysbysir, pan fo’r adolygiad yn cael ei wneud gan yr awdurdodau hynny; neu
y person a benodwyd i gynnal yr adolygiad yn unol â rheoliad 4, pan fo’r achos yn dod o fewn y rheoliad hwnnw;
ystyr “yr awdurdod” (“the authority”) yw—
yr awdurdod tai lleol a wnaeth y penderfyniad y gofynnwyd am adolygiad ohono o dan adran 85, neu
yr awdurdod sy’n hysbysu os gwnaed y penderfyniad hwnnw o dan adran 80(5) (penderfyniad ynghylch a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio achos at awdurdod tai lleol arall wedi eu bodloni);
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ŵyl y banc(2);
ystyr “y Gorchymyn Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau” (“the Decisions on Referrals Order”) yw Gorchymyn Digartrefedd (Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau) 1998(3).
(4) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
2.—(1) Rhaid gofyn i’r awdurdod am adolygiad o dan adran 85.
(2) Ac eithrio pan fo achos yn dod o fewn rheoliad 4, rhaid i’r awdurdod y gofynnwyd iddo am adolygiad o dan adran 85 o fewn pum niwrnod gwaith o gael cais—
(a)gwahodd y ceisydd, a phan fo’n berthnasol, gynrychiolydd y ceisydd, i wneud sylwadau ar lafar neu’n ysgrifenedig neu ar lafar ac yn ysgrifenedig; a
(b)os nad ydyw eisoes wedi gwneud hynny, hysbysu’r ceisydd am y weithdrefn i’w dilyn mewn cysylltiad â’r adolygiad.
(3) Pan fo achos yn dod o fewn rheoliad 4, rhaid i’r person a benodwyd yn unol â’r rheoliad hwnnw o fewn pum niwrnod gwaith o gael ei benodi—
(a)gwahodd y ceisydd, a phan fo’n berthnasol, gynrychiolydd y ceisydd, i wneud sylwadau ar lafar neu’n ysgrifenedig neu ar lafar ac yn ysgrifenedig; a
(b)hysbysu’r ceisydd am y weithdrefn i’w dilyn mewn cysylltiad â’r adolygiad.
3. Pan fo penderfyniad yr awdurdod ynghylch adolygiad o benderfyniad gwreiddiol a wnaed gan swyddog o’r awdurdod hefyd i’w wneud gan swyddog, rhaid i’r swyddog hwnnw fod yn rhywun nad oedd wedi ymwneud â’r penderfyniad gwreiddiol.
4.—(1) Pan gafodd y penderfyniad gwreiddiol o dan adran 80(5) (pa un a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio achos wedi eu bodloni) ei wneud o dan y Gorchymyn Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau, mae adolygiad o’r penderfyniad hwnnw (yn ddarostyngedig i baragraff (2)) i’w gynnal gan berson a benodwyd gan yr awdurdod sy’n hysbysu a’r awdurdod a hysbysir.
(2) Os nad yw person yn cael ei benodi yn unol â pharagraff (1) o fewn pum niwrnod gwaith o’r diwrnod y gwneir cais am adolygiad, yna mae’r adolygiad i’w gynnal gan—
(a)person o’r panel a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 3 o’r Atodlen i’r Gorchymyn Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau (“y panel”); a
(b)person a benodwyd yn unol â pharagraff (3).
(3) Rhaid i’r awdurdod sy’n hysbysu, o fewn pum niwrnod gwaith o ddiwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (2), ofyn i gadeirydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru neu enwebai’r cadeirydd (“y swyddog priodol”) benodi person o’r panel a rhaid i’r swyddog priodol wneud hynny o fewn saith niwrnod i’r cais.
(4) Rhaid i’r awdurdod sy’n hysbysu a’r awdurdod a hysbysir, o fewn pum niwrnod gwaith o benodi’r person a benodwyd (“y person penodedig”), ddarparu rhesymau i’r person penodedig am y penderfyniad gwreiddiol a’r wybodaeth a’r dystiolaeth sy’n sail i’r penderfyniad hwnnw.
(5) Rhaid i’r person penodedig—
(a)anfon unrhyw sylwadau a wnaed o dan reoliad 2 i’r awdurdod sy’n hysbysu a’r awdurdod a hysbysir; a
(b)gwahodd yr awdurdodau hynny i ymateb i’r sylwadau hynny.
(6) Ni chaiff y person penodedig fod yr un person â’r person a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol.
5.—(1) Rhaid i’r adolygwr, yn ddarostyngedig i gydymffurfio â darpariaethau rheoliad 6, ystyried—
(a)unrhyw sylwadau a wneir o dan reoliad 2, ac mewn achos sy’n dod o fewn rheoliad 4, unrhyw ymatebion iddynt; a
(b)unrhyw sylwadau a wneir o dan baragraff (2).
(2) Os yw’r adolygwr yn ystyried bod diffyg neu anghysondeb yn y penderfyniad gwreiddiol, neu yn y ffordd y cafodd ei wneud, ond er hynny’n bwriadu gwneud penderfyniad sy’n groes i fuddiannau’r ceisydd ar un neu ragor o faterion, rhaid i’r adolygwr hysbysu’r ceisydd—
(a)bod yr adolygwr yn bwriadu gwneud hynny a’r rhesymau pam; a
(b)y caiff y ceisydd, neu rywun sy’n gweithredu ar ran y ceisydd, wneud sylwadau i’r adolygwr ar lafar neu’n ysgrifenedig neu ar lafar ac yn ysgrifenedig.
6.—(1) Y cyfnod y mae’n rhaid rhoi hysbysiad o benderfyniad yn dilyn adolygiad o dan adran 85 i’r ceisydd o dan adran 85(3) yw—
(a)wyth wythnos o’r diwrnod y gwneir cais am adolygiad, ac eithrio pan fo’r penderfyniad gwreiddiol yn dod o fewn is-baragraffau (b) ac (c);
(b)deng wythnos o’r diwrnod y gwneir cais am adolygiad, pan fo’r penderfyniad gwreiddiol yn dod o fewn adran 80(5) a’r adolygiad yn cael ei wneud gan berson a benodir gan yr awdurdod sy’n hysbysu a’r awdurdod a hysbysir;
(c)deuddeng wythnos o’r diwrnod y gwneir y cais am adolygiad mewn achos sy’n dod o fewn rheoliad 4.
(2) Caiff y cyfnod a bennir ym mharagraff (1) fod y cyfryw gyfnod hwy ag y caiff y ceisydd a’r adolygwr gytuno arno yn ysgrifenedig.
(3) Mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (1)(c), rhaid i’r person penodedig hysbysu’r awdurdod sy’n hysbysu a’r awdurdod a hysbysir am y penderfyniad yn dilyn yr adolygiad, a’r rhesymau amdano, yn ysgrifenedig o fewn cyfnod o un wythnos ar ddeg o’r diwrnod y gwneir y cais am yr adolygiad, neu o fewn cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod hwnnw sydd wythnos yn llai na’r hyn y cytunwyd arno yn unol â pharagraff (2).
7. Mae’r Gorchymyn Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau yn cael effaith at ddibenion y Rheoliadau hyn fel petai wedi ei wneud o dan y pwerau a roddir gan adran 80(5)(b) a (6)(b), ac mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwnnw at Ddeddf Tai 1996 i’w dehongli fel petaent yn cyfeirio at ddarpariaethau cyfatebol Deddf Tai (Cymru) 2014.
8.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r Rheoliadau a ganlyn drwy hyn wedi eu dirymu o ran Cymru—
(a)Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Gweithdrefnau Adolygu a Diwygio) 1996(4);
(b)Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Diwygio) 1997(5);
(c)Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Diwygio) (Rhif 2) 1997(6);
(d)Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Gweithdrefnau Adolygu) 1999(7).
(2) Mae’r Rheoliadau a ddirymir gan baragraff (1) yn parhau mewn grym mewn unrhyw achos pan fo cais am adolygiad o dan adran 202 o Ddeddf Tai 1996 yn cael ei wneud cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
21 Ebrill 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn i’w dilyn o dan adran 85 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) mewn cysylltiad ag adolygiad gan awdurdod tai lleol o benderfyniadau penodol sy’n ymwneud â digartrefedd.
Mae rheoliad 2 yn darparu bod rhaid gwneud ceisiadau am adolygiad i’r awdurdod tai lleol a wnaeth y penderfyniad y gofynnwyd am adolygiad ohono o dan adran 85. Rhaid i awdurdodau roi gwybod i geiswyr a chynrychiolwyr y cânt wneud sylwadau ar lafar neu’n ysgrifenedig (neu ill dau) mewn cysylltiad â’r adolygiad. Rhaid i geiswyr hefyd gael gwybod am y weithdrefn i’w dilyn ar gyfer adolygiad. Mae’r gofynion hyn hefyd yn gymwys mewn perthynas ag adolygiadau sy’n dod o fewn rheoliad 4 (y weithdrefn gychwynnol pan wnaed y penderfyniad gwreiddiol o dan y Gorchymyn Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau).
Pan wnaed y penderfyniad yn wreiddiol gan swyddog o’r awdurdod a bod y penderfyniad hwnnw i’w adolygu gan swyddog o’r awdurdod, yna mae rheoliad 3 yn darparu na chaiff y swyddog adolygu fod wedi ymwneud â’r penderfyniad gwreiddiol.
Mae rheoliad 4 yn nodi’r weithdrefn gychwynnol i’w dilyn pan wnaed y penderfyniad gwreiddiol o dan Orchymyn Digartrefedd (Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau) 1998 (O.S. 1998/1578) (“y Gorchymyn Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau”) (fel y’i cymhwysir gan reoliad 7).
Mae rheoliad 5 yn darparu’r gofynion gweithdrefnol sy’n gymwys i bob adolygiad o dan y Rheoliadau. Rhaid i’r adolygwr ystyried unrhyw sylwadau a wneir yn unol â rheoliadau 2 a 4. Os bwriada’r adolygwr wneud penderfyniad yn groes i fuddiannau’r ceisydd er gwaethaf rhyw ddiffyg neu anghysondeb yn y penderfyniad gwreiddiol neu’r ffordd y cafodd ei wneud, rhaid i’r adolygwr hysbysu’r ceisydd am ei resymau a gwahodd sylwadau. Gall y ceisydd neu gynrychiolwr wneud y sylwadau hyn, naill ai’n ysgrifenedig neu ar lafar, neu ill dau.
Mae rheoliad 6 yn nodi’r gofynion ar gyfer hysbysu ceiswyr am benderfyniadau yn dilyn adolygiad.
Mae rheoliad 7 yn nodi sut mae cymhwyso’r Gorchymyn Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau at ddiben y Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 8 yn gwneud amryfal ddirymiadau canlyniadol o ran Cymru. Yn benodol, mae rheoliad 8 yn dirymu Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Gweithdrefnau Adolygu) 1999 (O.S. 1999/71), a oedd yn ymdrin ag adolygiadau o benderfyniadau awdurdodau tai lleol ar ddigartrefedd o dan Ddeddf Tai 1996. Mae gweddill y dirymiadau yn ymwneud â deddfwriaeth ddiwygio nad yw bellach yn cael effaith. Ceir darpariaeth drosiannol sy’n arbed y ffordd y cymhwysir y Rheoliadau sydd i gael eu dirymu, mewn perthynas ag achosion sy’n parhau o dan Ddeddf Tai 1996.
Fel y’i diffinnir yn adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 (p. 80) ac Atodlen 1 iddi.