Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2015

Penderfynu ar apelau deiliad tŷ, apelau caniatâd hysbyseb ac apelau masnachol bach o dan Ran 1

10.—(1Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’u bwriad i wneud hynny i’r apelydd ac i’r awdurdod cynllunio lleol, fynd ymlaen i wneud penderfyniad ar apêl gan gymryd i ystyriaeth y sylwadau hynny yn unig a anfonwyd o fewn y terfynau amser perthnasol, pan fo’n ymddangos bod deunydd digonol i’w galluogi i gyrraedd penderfyniad.

(2Ym mharagraff (1) ystyr “terfynau amser perthnasol” (“relevant time limits”) yw’r terfynau amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn, neu pan fo Gweinidogion Cymru wedi arfer y pŵer o dan reoliad 19, unrhyw derfyn amser diweddarach.