- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Adroddiad Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr” (“Greenhouse Gas Emissions Report”) yw adroddiad y mae’n ofynnol i weithredwr ei gyflwyno gan Erthygl 67(1) o’r Rheoliad Monitro ac Adrodd(1);
mae “allyriadau blynyddol y Safon Perfformiad Allyriadau” (“EPS annual emissions”) i’w ddehongli yn unol â rheoliadau 7 ac 8 o Reoliadau Safon Perfformiad Allyriadau 2015(2);
mae i “blwyddyn” yr un ystyr ag a roddir i “year” yn adran 61(1) o’r Ddeddf;
ystyr “CANC” (“NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;
ystyr “capasiti cynhyrchu gosodedig” (“installed generating capacity”), mewn perthynas â gorsaf gynhyrchu neu uned gynhyrchu, yw’r capasiti uchaf o ran cynhyrchu trydan (mewn MW) y gellid gweithredu’r orsaf gynhyrchu honno neu’r uned gynhyrchu honno yn unol ag ef am gyfnod parhaus heb achosi difrod iddi (gan gymryd bod ffynhonnell yr ynni a ddefnyddir i gynhyrchu trydan ar gael yn ddi-dor);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Ynni 2013;
mae i “ffrwd ffynhonnell” yr un ystyr ag a roddir i “source stream” yn Erthygl 3(4) o’r Rheoliad Monitro ac Adrodd;
ystyr “gorsaf gynhyrchu” (“generating station”) yw gorsaf sy’n cynhyrchu trydan;
ystyr “gwaith nwyeiddio cysylltiedig” (“associated gasification plant”) yw unrhyw waith—
sy’n cynhyrchu tanwydd o danwydd ffosil; a
y mae’r tanwydd a gynhyrchir gan y gwaith hwnnw’n cael ei ddefnyddio gan waith tanwydd ffosil perthnasol i gynhyrchu trydan;
ystyr “gwaith tanwydd ffosil perthnasol” (“relevant fossil fuel plant”) yw gwaith tanwydd ffosil y mae’r ddyletswydd terfyn allyriadau yn gymwys iddo o dan y Ddeddf neu uned gynhyrchu y mae’r ddyletswydd terfyn allyriadau yn gymwys iddi yn rhinwedd rheoliad 3 o Reoliadau Safon Perfformiad Allyriadau 2015;
ystyr “gweithredwr” (“operator”), mewn perthynas â gwaith tanwydd ffosil perthnasol yw’r person y mae’n ofynnol bod ganddo Drwydded Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr ar gyfer y gwaith tanwydd ffosil perthnasol;
ystyr “hysbysiad allyriadau blynyddol y Safon Perfformiad Allyriadau” (“EPS annual emissions notification”) yw hysbysiad o dan reoliad 5;
ystyr “hysbysiad cosb sifil” (“civil penalty notice”) yw hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 9;
ystyr “hysbysiad dal a storio carbon” (“CCS notification”) yw hysbysiad o dan reoliad 4;
ystyr “hysbysiad gorfodi” (“enforcement notice”) yw hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 8;
ystyr “hysbysiad gwybodaeth” (“information notice”) yw hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 7;
ystyr “hysbysiad terfyn allyriadau” (“emissions limit notification”) yw hysbysiad o dan reoliad 3;
ystyr “MW” (“MW”) yw megawat;
ystyr “MWth” (“MWth”) yw megawat o allbwn thermol;
ystyr “y Rheoliad Monitro ac Adrodd” (“the Monitoring and Reporting Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 601/2012 ar fonitro ac adrodd ar allyriadau nwyon tŷ gwydr yn unol â Chyfarwyddeb 2003/87/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor(3);
ystyr “y Rheoliadau CMANTG” (“the GGETS Regulations”) yw Rheoliadau’r Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2012(4);
ystyr “Trwydded Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr” (“Greenhouse Gas Emissions Permit”) yw trwydded a roddir o dan reoliad 10 o’r Rheoliadau CMANTG; ac
ystyr “uned gynhyrchu” (“generating unit”) yw unrhyw gyfuniad o eneraduron, boeleri, tyrbinau, neu brif symudwyr eraill sydd wedi eu cysylltu’n ffisegol fel un uned ac sy’n cael eu gweithredu gyda’i gilydd i gynhyrchu trydan yn annibynnol ar unrhyw uned arall.
Gweler y gofyniad mewn Trwydded Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr a fewnosodir yn unol ag Atodlen 4, paragraff 2(3)(b) o Reoliadau CMANTG.
OJ Rhif L 181, 12.7.2012, t. 30.
O.S. 2012/3038 sydd wedi ei ddiwygio gan O.S. 2013/1037, O.S. 2013/3135 ac O.S. 2014/3125.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys