RHAN 4Y gofyniad i fod yn gofrestredig: athrawon addysg bellach
Y gofyniad i fod yn gofrestredig: athrawon addysg bellach
19.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ni chaiff person ddarparu addysg mewn nac ar gyfer sefydliad addysg bellach oni bai ei fod wedi ei gofrestru yn y categori athro neu athrawes addysg bellach gyda’r Cyngor.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson pan nad yw’r person hwnnw ond—
(a)yn addysgu addysg uwch mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach;
(b)yn darparu diweddariadau hyfforddi dros dro neu yn achlysurol ar gyfer—
(i)diwydiant,
(ii)masnach, neu
(iii)ymarfer proffesiynol;
(c)yn llogi safle gan sefydliad addysg bellach neu fel arall yn defnyddio safle sefydliad addysg bellach gyda chaniatâd y sefydliad; neu
(d)yn darparu hyfforddiant ar gais corff neu sefydliad allanol ac er mwyn diwallu ei anghenion penodol.