xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
47.—(1) Rhaid i’r Cyngor ddarparu i berson cofrestredig gopi o’r wybodaeth a gofnodwyd ar y Gofrestr yn erbyn enw’r person hwnnw, pan fo’n derbyn cais.
(2) Rhaid i’r Cyngor ddarparu, i berson y mae’n cynnal cofnodion amdano yn unol â’r Rheoliadau hyn, gopi o’r cofnodion hyn pan fo’n derbyn cais.
(3) At ddibenion y Rhan hon, mae cyfeiriad at berson cofrestredig yn Atodlen 2 i’w ystyried fel cyfeiriad at berson anghofrestredig y mae’r Cyngor yn cynnal cofnodion amdano yn unol â’r Rheoliadau hyn.
48.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gyflogwr sy’n—
(a)awdurdod lleol;
(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol;
(c)corff llywodraethu ysgol arbennig nas cynhelir;
(d)perchennog ysgol arbennig;
(e)sefydliad o fewn y sector addysg uwch;
(f)sefydliad o fewn y sector addysg bellach;
(g)asiantaeth athrawon cyflenwi; neu
(h)Addysg Plant y Lluoedd Arfog.
(2) Rhaid trin y canlynol fel cyflogwr neu ddarpar gyflogwr—
(a)awdurdod lleol pan mai’r cyflogwr neu’r darpar gyflogwr yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw (pa un ai yw’r corff llywodraethu wedi gwneud cais o dan baragraff (3) ai peidio);
(b)yr awdurdod esgobaethol priodol mewn perthynas ag ysgol yr Eglwys yng Nghymru neu ysgol yr Eglwys Gatholig (o fewn ystyr adran 142 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1)) pan mai’r cyflogwr neu’r darpar gyflogwr yw corff llywodraethu’r ysgol neu’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol (pa un ai yw’r corff llywodraethu wedi gwneud cais o dan baragraff (3) ai peidio); ac
(c)y Weinyddiaeth Amddiffyn mewn perthynas â pherson a benodir, neu yr ystyrir ei benodi, yn athro neu’n athrawes mewn ysgol a gynhelir neu a gynorthwyir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.
(3) Rhaid i’r Cyngor, pan fo cyflogwr neu ddarpar gyflogwr yn gwneud cais, ddarparu’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (4) ynglŷn â’r person cofrestredig neu anghofrestredig dan sylw i gyflogwr neu ddarpar gyflogwr—
(a)person cofrestredig; neu
(b)person anghofrestredig y mae’n cynnal cofnodion amdano yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(4) Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (3) yw—
(a)pan ganfyddir bod person yn anghymwys i gofrestru yn unol ag adran 10(3)(b) o Ddeddf 2014, y ffaith honno a phan fo’r wybodaeth honno yn cael ei darparu i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban, An Chomhairle Mhúinteoireachta neu’r Cyngor Addysgu, neu Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon (ond nid fel arall), manylion am sail y penderfyniad a wnaed i wrthod cais y person i gofrestru;
(b)paragraffau 1, 2, 15, 16 a 18 i 25 o Atodlen 2 ym mhob achos; ac
(c)paragraffau 26 i 36 o Atodlen 2 (pan fo’r person cofrestredig yn athro neu’n athrawes ysgol).
(5) Ni chaniateir i berson y rhoddwyd gwybodaeth iddo yn unol â pharagraff (3) ddatgelu gwybodaeth a roddwyd o dan y rheoliad hwn i unrhyw berson ar wahân i un o’r personau a nodir ym mharagraff (3)(a) neu (b) y mae’r wybodaeth yn ymwneud â hwy.
(6) Nid yw paragraff (5) yn atal awdurdod lleol rhag datgelu gwybodaeth a roddwyd iddo o dan y rheoliad hwn i gorff llywodraethu’r ysgol neu’r sefydliad sy’n cyflogi neu’n bwriadu cyflogi’r person dan sylw.
(7) Wrth roi gwybodaeth o dan baragraff (3) rhaid cadw at yr amod na chaniateir defnyddio’r wybodaeth ond at ddibenion canfod a yw’r person cofrestredig neu anghofrestredig yn addas i gael ei gyflogi neu i barhau i gael ei gyflogi (yn ôl y digwydd).
49.—(1) Rhaid i’r Cyngor, pan fo’n derbyn cais, roi i’r Ysgrifennydd Gwladol yr wybodaeth a nodir ym mharagraff (2) mewn perthynas ag—
(a)person cofrestredig; neu
(b)person anghofrestredig y cynhelir cofnodion ynglŷn ag ef yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(2) Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw—
(a)pan ganfyddir bod person yn anghymwys i gofrestru yn unol ag adran 10(3)(b) o Ddeddf 2014, y ffaith honno a phan fo’r wybodaeth honno yn cael ei darparu i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban, An Chomhairle Mhúinteoireachta neu’r Cyngor Addysgu, neu Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon (ond nid fel arall), manylion am sail y penderfyniad a wnaed i wrthod cais y person i gofrestru;
(b)paragraffau 1, 2, 15, 16 a 18 i 25 o Atodlen 2 ym mhob achos; ac
(c)paragraffau 26 i 36 o Atodlen 2 (pan fo’r person cofrestredig yn athro neu’n athrawes ysgol).
(3) Pan fo gwybodaeth yn cael ei rhoi o dan baragraff (1), rhaid gosod amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol beidio â datgelu’r wybodaeth honno i unrhyw bersonau ar wahân i’r personau a nodir ym mharagraff (2)(a) neu (b) y mae’r wybodaeth yn ymwneud â hwy.
50.—(1) Rhaid i’r cyngor, pan fo’n derbyn cais, roi i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban yr wybodaeth a nodir ym mharagraff (2) mewn perthynas ag—
(a)person cofrestredig; neu
(b)person anghofrestredig y cynhelir cofnodion ynglŷn ag ef yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(2) Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw—
(a)pan ganfyddir bod person yn anghymwys i gofrestru yn unol ag adran 10(3)(b) o Ddeddf 2014, y ffaith honno a phan fo’r wybodaeth honno yn cael ei darparu i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban, An Chomhairle Mhúinteoireachta neu’r Cyngor Addysgu, neu Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon (ond nid fel arall), manylion am sail y penderfyniad a wnaed i wrthod cais y person i gofrestru;
(b)paragraffau 1, 2, 15, 16 a 18 i 25 o Atodlen 2 ym mhob achos; ac
(c)paragraffau 26 i 36 o Atodlen 2 (pan fo’r person cofrestredig yn athro neu’n athrawes ysgol).
(3) Pan fo gwybodaeth yn cael ei rhoi o dan baragraff (1), rhaid gosod amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban beidio â datgelu’r wybodaeth honno i unrhyw berson ar wahân i’r personau a nodir ym mharagraff (1)(a) neu (b) y mae’r wybodaeth yn ymwneud â hwy.
51.—(1) Rhaid i’r cyngor, pan fo’n derbyn cais, roi i Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon yr wybodaeth a nodir ym mharagraff (2) mewn perthynas ag—
(a)person cofrestredig; neu
(b)person anghofrestredig y cynhelir cofnodion ynglŷn ag ef yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(2) Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw—
(a)pan ganfyddir bod person yn anghymwys i gofrestru yn unol ag adran 10(3)(b) o Ddeddf 2014, y ffaith honno a phan fo’r wybodaeth honno yn cael ei darparu i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban, An Chomhairle Mhúinteoireachta neu’r Cyngor Addysgu, neu Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon (ond nid fel arall), manylion am sail y penderfyniad a wnaed i wrthod cais y person i gofrestru;
(b)paragraffau 1, 2, 15, 16 a 18 i 25 o Atodlen 2 ym mhob achos; a
(c)paragraffau 26 i 36 o Atodlen 2 (pan fo’r person cofrestredig yn athro neu’n athrawes ysgol).
(3) Pan fo gwybodaeth yn cael ei rhoi o dan baragraff (1), rhaid gosod amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon beidio â datgelu’r wybodaeth honno i unrhyw berson ar wahân i’r personau a nodir ym mharagraff (1)(a) neu (b) y mae’r wybodaeth yn ymwneud â hwy.
52.—(1) Rhaid i’r cyngor, pan fo’n derbyn cais, roi i An Chomhairle Mhúinteoireachta neu’r Cyngor Addysgu yr wybodaeth a nodir ym mharagraff (2) mewn perthynas ag—
(a)person cofrestredig; neu
(b)person anghofrestredig y cynhelir cofnodion ynglŷn ag ef yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(2) Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw—
(a)pan ganfyddir bod person yn anghymwys i gofrestru yn unol ag adran 10(3)(b) o Ddeddf 2014, y ffaith honno a phan fo’r wybodaeth honno yn cael ei darparu i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban, An Chomhairle Mhúinteoireachta neu’r Cyngor Addysgu, neu Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon (ond nid fel arall), manylion am sail y penderfyniad a wnaed i wrthod cais y person i gofrestru;
(b)paragraffau 1, 2, 15, 16 a 18 i 25 o Atodlen 2 ym mhob achos; ac
(c)paragraffau 26 i 36 o Atodlen 2 (pan fo’r person cofrestredig yn athro neu’n athrawes ysgol).
(3) Pan fo gwybodaeth yn cael ei rhoi o dan baragraff (1), rhaid gosod amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i An Chomhairle Mhúinteoireachta neu’r Cyngor Addysgu beidio â datgelu’r wybodaeth honno i unrhyw berson ar wahân i’r personau a nodir ym mharagraff (1)(a) neu (b) y mae’r wybodaeth yn ymwneud â hwy.
53.—(1) Rhaid i’r Cyngor, pan fo’n derbyn cais, roi i gorff priodol yr wybodaeth a nodir ym mharagraff 34 o Ran 2 o Atodlen 2 mewn perthynas ag—
(a)person cofrestredig; neu
(b)person anghofrestredig y mae’n cynnal cofnodion ynglŷn ag ef yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(2) Ni chaniateir rhoi gwybodaeth yn unol â pharagraff (1) ond ar yr amod nad yw’r corff priodol yn datgelu gwybodaeth a roddir o dan y rheoliad hwn i unrhyw berson ar wahân i un o’r personau a nodir ym mharagraff (1)(a) neu (b) y mae’r wybodaeth yn ymwneud â hwy.