Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 10) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Mesur o 6 Gorffennaf 2015 i’r graddau y maent yn rhychwantu’r Alban a Gogledd Iwerddon—

(a)adran 144(3)(a) (Diddymu swyddogaethau cyffredinol y Bwrdd a disodli cynlluniau gan safonau) o Ran 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym; a

(b)adran 145(2) (Disodli cynlluniau iaith Gymraeg gan safonau) o Ran 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Mesur o 7 Gorffennaf 2015—

(a)Rhan 2 (Comisiynydd y Gymraeg) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(b)Rhan 4 (Safonau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(c)Rhan 5 (Gorfodi safonau);

(d)Rhan 8 (Cyffredinol) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(e)adran 144(1), (2) a (3)(a) o Ran 9 (Diddymu swyddogaethau cyffredinol y Bwrdd a disodli cynlluniau gan safonau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(f)Atodlen 2 (Ymholiadau gan y Comisiynydd) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(g)Atodlen 3 (Diwygiadau ynglŷn â gweithio ar y cyd a gweithio’n gyfochrog); a

(h)Atodlen 10 (Ymchwiliad y Comisiynydd i fethiant i gydymffurfio â safonau etc).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.