Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2015

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2015.

(2Mae’r Rheoliadau’n gymwys o ran Cymru ond nid ydynt yn gymwys o ran adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar y dyddiadau canlynol—

(a)y rheoliad hwn, rheoliadau 2, 3, 4(a) a’r Atodlen ar 31 Gorffennaf 2015; a

(b)rheoliad 4(b) ar 31 Rhagfyr 2015.

(4Yn y rheoliad hwn, mae i “adeilad ynni a eithrir” yr ystyr a roddir i “excepted energy building” gan yr Atodlen i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009(1).

Diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010

2.  Mae Rheoliadau Adeiladu 2010(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

3.  Yn lle’r Tabl yn Atodlen 3 (cynlluniau hunanardystio ac esemptiadau o’r gofyniad i roi hysbysiad adeiladu neu i adneuo cynlluniau llawn) rhodder y Tabl fel y’i nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

4.  Yn rheoliad 43(4) (profi pwysedd)—

(a)ar ôl “the British Institute of Non-Destructive Testing” mewnosoder “, the Independent Airtightness Testing Scheme Limited(3)”; a

(b)hepgorer “the British Institute of Non-Destructive Testing,”.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

7 Gorffennaf 2015