Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Cymru) 2015

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1498 (Cy. 170)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Cymru) 2015

Gwnaed

7 Gorffennaf 2015

Yn dod i rym

31 Gorffennaf 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2(4), 6(1), 7(3), 8(1) a 9(1) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 55(3) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Cymru) 2015.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Gorffennaf 2015 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cwrs cymhwysol” (“qualifying course”) yw cwrs a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru ac sydd wedi ei ragnodi at ddibenion adran 5(2)(b) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015;

ystyr “person cymhwysol” (“qualifying person”) yw person sy’n dod o fewn adran 5(5) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.

Ceisiadau am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad

3.  Rhaid i gais gan sefydliad am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r canlynol—

(a)hyfywedd ariannol y sefydliad;

(b)y trefniadau ar gyfer trefnu a rheoli materion ariannol y sefydliad;

(c)ansawdd yr addysg a ddarperir gan, neu ar ran, y sefydliad.

Darpariaethau sydd i’w cynnwys mewn cynlluniau ffioedd a mynediad

4.  Mae rheoliadau 5 a 6 yn rhagnodi at ddibenion adran 6(1) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 y darpariaethau sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch y mae rhaid i gynllun ffioedd a mynediad eu cynnwys.

5.  Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad—

(a)nodi amcanion y sefydliad, a benderfynwyd gan y corff llywodraethu, sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch;

(b)pennu cyfran y ffioedd sy’n daladwy gan bersonau cymhwysol sy’n ymgymryd â chyrsiau cymhwysol y bydd y corff llywodraethu yn ei gwario ar yr amcanion ym mharagraff (a).

6.  Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad gynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad—

(a)cymryd camau i ddenu ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, neu sicrhau bod y camau hynny’n cael eu cymryd;

(b)cymryd camau i gadw myfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, neu sicrhau bod y camau hynny’n cael eu cymryd;

(c)darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr, neu sicrhau bod y cymorth hwnnw’n cael ei ddarparu;

(d)rhoi gwybodaeth ar gael i fyfyrwyr neu ddarpar fyfyrwyr ynghylch y cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr o unrhyw ffynhonnell, neu sicrhau bod yr wybodaeth honno’n cael ei rhoi ar gael;

(e)hysbysu unrhyw ddarpar fyfyriwr, cyn i’r myfyriwr ymrwymo i ymgymryd â chwrs, am swm agregedig y ffioedd y bydd y sefydliad yn ei godi ar gyfer cwblhau’r cwrs, neu sicrhau bod unrhyw ddarpar fyfyriwr yn cael ei hysbysu o’r swm hwnnw;

(f)monitro—

(i)cydymffurfedd â darpariaethau’r cynllun; a

(ii)y cynnydd sydd wedi ei wneud i gyflawni’r amcanion a nodir yn y cynllun.

Materion sydd i’w hystyried gan CCAUC

7.  Wrth wneud unrhyw benderfyniad mewn cysylltiad â chymeradwyo neu wrthod cynllun ffioedd a mynediad rhaid i CCAUC ystyried—

(a)yr angen i ddiogelu mynediad teg at addysg uwch;

(b)y darpariaethau sydd wedi eu cynnwys yn y cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch;

(c)y ffioedd sy’n daladwy gan bersonau cymhwysol sy’n ymgymryd â chyrsiau cymhwysol;

(d)cyfran y ffioedd sy’n daladwy gan bersonau cymhwysol sy’n ymgymryd â chyrsiau cymhwysol y bydd y corff llywodraethu yn ei gwario ar hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch;

(e)hyfywedd ariannol y sefydliad;

(f)y trefniadau ar gyfer trefnu a rheoli materion ariannol y sefydliad;

(g)ansawdd yr addysg a ddarperir gan, neu ar ran, y sefydliad.

Cyhoeddi cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd

8.  Pan fo CCAUC wedi cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad, rhaid i’r corff llywodraethu ei gyhoeddi mewn dull sy’n ei wneud yn hawdd i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr gael gafael arno.

Amrywio cynlluniau ffioedd a mynediad

9.—(1Caiff corff llywodraethu wneud cais i CCAUC gymeradwyo amrywiad i’r cynllun a gymeradwywyd tra bo’r cynllun a gymeradwywyd mewn grym.

(2Dim ond os caiff ei gymeradwyo’n ysgrifenedig gan CCAUC y mae amrywiad i gynllun a gymeradwywyd i gymryd effaith.

(3Wrth wneud unrhyw benderfyniad mewn cysylltiad â chymeradwyo neu wrthod amrywiad i’r cynllun a gymeradwywyd rhaid i CCAUC ystyried y materion a nodir yn rheoliad 7(a) i (d).

(4Pan fo CCAUC wedi cymeradwyo amrywiad i gynllun a gymeradwywyd rhaid i’r corff llywodraethu gydymffurfio â rheoliad 8 fel petai, yn y rheoliad hwnnw, y gair “amrywiad” wedi ei roi yn lle “cynllun ffioedd a mynediad”.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

7 Gorffennaf 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch cynlluniau ffioedd a mynediad fel y’u diffinnir yn adran 2(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.

Caniateir i gynlluniau ffioedd a mynediad gael eu cyflwyno i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“CCAUC”) i’w cymeradwyo gan sefydliadau sy’n bodloni’r meini prawf h.y. eu bod yn darparu addysg uwch yng Nghymru a’u bod yn elusen. Mae cymeradwyaeth gan CCAUC i gynllun ffioedd a mynediad yn arwain at ddynodi’n awtomatig gyrsiau sefydliad at ddibenion cymorth statudol i fyfyrwyr. Mae Gweinidogion Cymru yn darparu cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â chyrsiau dynodedig o dan reoliadau a wnaed ganddynt yn rhinwedd adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.

Mae rheoliad 3 yn darparu bod rhaid i gais am gynllun ffioedd a mynediad gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â hyfywedd ariannol sefydliad, trefnu a rheoli materion ariannol y sefydliad ac ansawdd yr addysg a ddarperir gan, neu ar ran, y sefydliad.

Mae rheoliadau 4 i 6 yn rhagnodi’r darpariaethau sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch y mae rhaid i gynllun ffioedd a mynediad eu cynnwys.

Mae rheoliad 7 yn pennu’r materion y mae rhaid i CCAUC eu hystyried wrth benderfynu pa un ai i gymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad ai peidio.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol bod cynllun a gymeradwywyd yn cael ei gyhoeddi.

Mae rheoliad 9 yn darparu ar gyfer amrywio cynllun a gymeradwywyd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill