- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mêl (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Awst 2015 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “mêl” (“honey”) yw’r sylwedd melys naturiol a gynhyrchir gan wenyn Apis mellifera o neithdar planhigion neu o secretiadau rhannau byw o blanhigion neu ysgarthiadau pryfed sy’n sugno planhigion ar y rhannau byw o blanhigion, y mae’r gwenyn yn eu casglu, yn eu gweddnewid trwy eu cyfuno â’u sylweddau penodol eu hunain, eu gwaddodi, eu dadhydradu, eu storio a’u gadael mewn diliau mêl i aeddfedu.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “mêl blodau” (“blossom honey”) a “mêl neithdar” (“nectarhoney”) yw mêl a geir o neithdar planhigion;
ystyr “mêl diliau” (“comb honey”) yw mêl sy’n cael ei storio gan wenyn yng nghelloedd diliau heb chwiler sydd newydd eu hadeiladu neu haenau sylfaen diliau tenau sydd wedi eu gwneud o gŵyr gwenyn yn unig ac a werthir mewn diliau cyfan wedi eu selio neu rannau o ddiliau o’r fath;
ystyr “mêl melwlith” (“honeydew honey”) yw mêl a geir yn bennaf o ysgarthiadau pryfed sy’n sugno planhigion (Hemiptera) ar y rhannau byw o blanhigion neu secretiadau rhannau byw o blanhigion;
ystyr “mêl pobydd” (“baker’s honey”) yw mêl sy’n addas at ddibenion diwydiannol neu fel cynhwysyn mewn deunydd bwyd arall sydd wedyn yn cael ei brosesu;
ystyr “mêl talpiau” (“chunkhoney”) a “diliau wedi eu torri mewn mêl” (“cut comb in honey”) yw mêl sy’n cynnwys un neu ragor o ddarnau o fêl diliau;
ystyr “mêl wedi ei ddraenio” (“drained honey”) yw mêl a geir drwy ddraenio diliau heb chwiler a’u capanau wedi eu tynnu;
ystyr “mêl wedi ei echdynnu” (“extracted honey”) yw mêl a geir trwy allgyrchu diliau heb chwiler a’u capanau wedi eu tynnu;
ystyr “mêl wedi ei hidlo” (“filtered honey”) yw mêl a geir trwy dynnu ohono ddeunyddiau anorganig neu organig estron yn y fath fodd fel y bydd rhan helaeth o’r paill yn cael ei dynnu ohono;
ystyr “mêl wedi ei wasgu” (“pressed honey”) yw mêl a geir trwy wasgu diliau heb chwiler gan ddefnyddio neu heb ddefnyddio gwres cymedrol heb fod yn fwy na 45° Celsius.
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod bwyd” (“food authority”) yw—
cyngor sir;
cyngor bwrdeistref sirol;
mae i “cynhwysyn” yr ystyr a roddir i “ingredient” yn Erthygl 2(2)(f) o FIC, fel y’i darllenir gydag Erthygl 2(5) o’r Gyfarwyddeb Mêl;
mae i “cynwysyddion swmpus” yr un ystyr â “bulkcontainers” yn Erthygl 3 o’r Gyfarwyddeb Mêl;
mae i “dogfennau masnach” yr un ystyr â “tradedocuments” yn Erthygl 3 o’r Gyfarwyddeb Mêl;
ystyr “y Ddeddf” (“theAct”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “FIC” (“FIC”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004(1);
ystyr “y Gyfarwyddeb Mêl” (“the Honey Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC ynglŷn â mêl(2);
mae i “label” yr ystyr a roddir i “label” yn Erthygl 2(2)(i) o FIC;
mae i “meini prawf ansawdd penodol” yr un ystyr â “specific quality criteria” yn nhrydydd paragraff indentiedig paragraff (b) o ail is-baragraff pwynt 2 o Erthygl 2 o’r Gyfarwyddeb Mêl;
mae i “mewn masnach” yr un ystyr ag sydd i “in trade” yn y Gyfarwyddeb Mêl ac mae’r ymadrodd “masnachu” i’w ddehongli yn unol â hynny;
mae i “pecynnau” yr un ystyr â “packs” yn Erthygl 3 o’r Gyfarwyddeb Mêl.
(2) Mae i unrhyw ymadrodd arall sy’n cael ei ddefnyddio yn y Rheoliadau hyn ac y mae’r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn cael ei ddefnyddio yn y Gyfarwyddeb Mêl yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn â’r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb honno.
4.—(1) Mae’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys o ran cynnyrch a fwriedir i’w gyflenwi i ddefnyddiwr terfynol neu arlwywr mawr yn unig—
(a)Rhan 2, ac eithrio rheoliadau 14(4) a 15(4) a (5);
(b)rheoliad 16(1) a (2);
(c)Rhan 4.
(2) Dim ond pan fo’r cynhyrchion a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl a bennir yn y paragraffau hynny (y cynhyrchon yr ychwanegir mêl atynt fel cynhwysyn) wedi eu bwriadu i’w cyflenwi i ddefnyddiwr terfynol neu arlwywr mawr y mae rheoliad 16(3) a (4) yn gymwys.
(3) Yn y rheoliad hwn—
mae i “arlwywr mawr” yr ystyr a roddir i “masscaterer” yn Erthygl 2(2)(d) o FIC;
mae i “defnyddiwr terfynol” yr ystyr a roddir i “final consumer” ym mhwynt 18 o Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3).
5. Pan fo dwy neu ragor o’r darpariaethau yn y Rheoliadau hyn yn gymwys wrth benderfynu ar yr enw sydd i’w ddefnyddio o ran mêl penodol, rhaid i berson sy’n masnachu yn y mêl hwnnw ddefnyddio enw neu enw cyfun sy’n cydymffurfio â gofynion pob un o’r darpariaethau hynny.
OJ Rhif L 304, 22.11.2011, t 18, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 78/2014 (OJ Rhif L 27, 30.1.2014, t 7).
OJ Rhif L 10, 12.1.2002, t 47, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2014/63/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif 164, 3.6.2014, t 1).
OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 189, 27.6.2014, t 1).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys