- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid ad-dalu i’r ceisydd unrhyw ffi a delir gan y ceisydd mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio neu am gymeradwyaeth ar gyfer materion a gadwyd yn ôl, os digwydd i’r awdurdod cynllunio lleol fethu â phenderfynu’r cais o fewn y cyfnodau a bennir ym mharagraff (2).
(2) Y cyfnodau penodedig yw—
(a)pan fo cais am ganiatâd cynllunio yn ymwneud â chategori o ddatblygiad sy’n dod o fewn categori 6 neu 7 yn y tabl a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1, 8 wythnos;
(b)mewn unrhyw achos arall, 16 wythnos.
(3) Mae’r cyfnodau a bennir ym mharagraff (2) yn dechrau pan ddaw’r cyfnod i ben, ar gyfer rhoi hysbysiad o benderfyniad ar y cais, a bennir yn erthygl 22(2) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu.
(4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys—
(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru)(1) mewn perthynas â’r cais cyn bo’r cyfnodau a bennir ym mharagraff (2) wedi dod i ben;
(b)pan fo’r ceisydd wedi apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 78(2) o Ddeddf 1990 cyn bo’r cyfnodau a bennir ym mharagraff (2) wedi dod i ben; neu
(c)pan fo unrhyw berson a dramgwyddir gan unrhyw benderfyniad gan yr awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â’r cais wedi gwneud cais i’r Uchel Lys cyn bo’r cyfnodau a bennir ym mharagraff (2) wedi dod i ben.
Diwygiwyd adran 77 gan adran 32 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34), a pharagraffau 1 a 18 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno ac O.S. 2014/2773 (Cy. 280). Nid yw diwygiadau eraill yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys