xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
4.—(1) Rhaid i gais am drwydded—
(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig gan—
(i)y person sy’n gyfrifol am drefnu’r digwyddiad chwaraeon neu, yn ôl y digwydd, y person sy’n bwriadu cymryd y plentyn ymlaen fel model; neu
(ii)y person sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r perfformiad y mae’r plentyn i gymryd rhan ynddo;
(b)cynnwys yr wybodaeth a bennir yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 2;
(c)cael ei lofnodi gan y ceisydd a rhiant i’r plentyn; a
(d)cynnwys gydag ef y ddogfennaeth a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 2.
(2) Caiff yr awdurdod trwyddedu wrthod rhoi trwydded os na ddaw’r cais i law o leiaf un ar hugain o ddiwrnodau cyn y diwrnod y mae’r perfformiad neu’r gweithgaredd cyntaf, y gofynnir am y drwydded ar ei gyfer, i ddigwydd.
5. Rhaid i’r awdurdod trwyddedu osod unrhyw amodau y mae’n barnu eu bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau—
(a)bod y plentyn yn ffit i gymryd rhan yn y perfformiad neu’r gweithgaredd;
(b)bod darpariaeth briodol yn cael ei gwneud i sicrhau iechyd a llesiant y plentyn; ac
(c)bod darpariaeth briodol yn cael ei gwneud i sicrhau na fydd addysg y plentyn yn dioddef.
6. Pan fo’r ceisydd yn gofyn am drwydded i blentyn gymryd rhan mewn gweithgaredd, perfformiad neu ymarfer penodol, ond nad yw’n gallu pennu’r dyddiadau pan fydd y plentyn yn cymryd rhan yn y gweithgaredd, y perfformiad neu’r ymarfer hwnnw adeg gwneud y cais, rhaid i’r awdurdod trwyddedu, os yw’n penderfynu rhoi’r drwydded, osod amod mai dim ond am nifer penodedig o ddiwrnodau o fewn cyfnod o chwe mis y caiff y plentyn gymryd rhan yn y gweithgaredd, y perfformiad neu’r ymarfer penodol hwnnw.
7.—(1) Pan fo’r awdurdod trwyddedu’n barnu bod yr wybodaeth a ddarparwyd gan y ceisydd yn annigonol i’w alluogi i benderfynu p’un a fydd yn dyroddi trwydded neu’n dyroddi trwydded yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i’r awdurdod trwyddedu ofyn am wybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol i’w alluogi i wneud penderfyniad o’r fath.
(2) Yn benodol, caiff yr awdurdod trwyddedu—
(a)gofyn bod y plentyn yn cael ei archwilio’n feddygol;
(b)cyf-weld unrhyw athro preifat arfaethedig neu athrawes breifat arfaethedig;
(c)cyf-weld y ceisydd, y plentyn, rhieni’r plentyn, neu’r hebryngwr arfaethedig, fel y bo’n briodol.
8.—(1) Rhaid i drwydded gynnwys—
(a)enw’r plentyn;
(b)enw rhieni’r plentyn;
(c)enw’r ceisydd;
(d)enwau, amserau, natur a lleoliad y gweithgaredd neu’r perfformiad (a lleoliad unrhyw ymarfer os yw’n wahanol) y mae’r drwydded wedi ei rhoi ar ei gyfer;
(e)dyddiadau’r gweithgaredd, y perfformiad neu’r ymarfer, neu yn lle’r dyddiadau, nifer y diwrnodau pan fydd y plentyn yn cymryd rhan yn y gweithgaredd, y perfformiad neu’r ymarfer, a’r cyfnod, nad yw’n hwy na chwe mis, pan gaiff y gweithgareddau, y perfformiadau neu’r ymarferion ddigwydd yn unol â rheoliad 6;
(f)unrhyw amodau, y mae’r awdurdod trwyddedu yn barnu eu bod yn angenrheidiol ar gyfer rhoi’r drwydded; ac
(g)datganiad bod y drwydded yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau a’r amodau a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i ffotograff o’r plentyn fod wedi ei atodi i’r drwydded.
9. Rhaid i’r awdurdod trwyddedu anfon copi o’r drwydded at y rhiant a lofnododd y ffurflen gais.
10. Pan fo perfformiad neu weithgaredd i ddigwydd yn ardal awdurdod lletyol ac eithrio’r awdurdod trwyddedu, yn unol ag adran 39(3) o Ddeddf 1963, rhaid i’r awdurdod trwyddedu anfon at yr awdurdod lletyol hwnnw gopi o’r ffurflen gais, y drwydded, unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol a gafodd o dan reoliad 7 a phan fo’r awdurdod trwyddedu’n cymeradwyo unrhyw drefniadau ar gyfer addysg y plentyn, manylion y diwrnodau yn ystod cyfnod y drwydded pan fyddai’n ofynnol fel arfer i’r plentyn sy’n ddarostyngedig i’r drwydded fynychu’r ysgol pe bai’r plentyn hwnnw’n mynychu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod trwyddedu.
11. Am chwe mis o ddyddiad y perfformiad neu’r gweithgaredd diwethaf y mae’r drwydded yn ymwneud ag ef, rhaid i’r deiliad trwydded gadw’r cofnodion a bennir yn—
(a)Rhan 1 o Atodlen 3, pan fo’r drwydded wedi ei rhoi mewn cysylltiad â pherfformiad; neu
(b)Rhan 2 o Atodlen 3, pan fo’r drwydded wedi ei rhoi mewn cysylltiad â gweithgaredd.
12. Rhaid i’r deiliad trwydded, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos y drwydded ar bob adeg resymol yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gyda’r perfformiad neu’r gweithgaredd cyntaf ac yn dod i ben gyda’r un olaf y mae’r drwydded yn ymwneud ag ef, yn y man lle y cynhelir y perfformiad (neu unrhyw fan lle y cynhelir yr ymarfer), neu’r man lle y mae’r gweithgaredd y mae’r drwydded yn ymwneud ag ef yn digwydd, i swyddog awdurdodedig yr awdurdod lletyol neu i gwnstabl.
13. Rhaid i’r deiliad trwydded sicrhau y glynir wrth y polisi neu’r polisïau a amgaeir gyda’r cais.
14.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaniateir i awdurdod trwyddedu roi trwydded mewn cysylltiad â phlentyn sy’n mynychu ysgol oni bai bod yr awdurdod —
(a)wedi cael llythyr oddi wrth bennaeth yr ysgol honno sy’n ymdrin ag unrhyw fater sy’n berthnasol i’r broses o ystyried adran 37(4) o Ddeddf 1963 gan yr awdurdod; a
(b)wedi ystyried y llythyr hwnnw.
(2) Nid yw’r gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys pan fo’r awdurdod wedi ei fodloni nad yw wedi bod yn ymarferol cyflwyno llythyr.