Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015

RHAN 3Gofynion cyffredinol sy’n gymwys i bob perfformiad neu weithgaredd trwyddedig

Addysg

15.—(1Ni chaniateir i’r awdurdod trwyddedu roi trwydded—

(a)oni chaiff ei fodloni na fyddai addysg y plentyn yn dioddef drwy iddo gymryd rhan yn y perfformiadau neu’r gweithgareddau;

(b)onid yw wedi cymeradwyo’r trefniadau (os oes rhai) ar gyfer addysg y plentyn yn ystod y cyfnod y mae’r drwydded yn gymwys iddo; ac

(c)onid yw wedi cymeradwyo’r man lle y mae’r plentyn i gael addysg, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae’n barnu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod y man hwnnw’n addas ar gyfer addysg y plentyn.

(2Rhaid i’r deiliad trwydded sicrhau bod unrhyw drefniadau a gymeradwyir gan yr awdurdod trwyddedu ar gyfer addysg y plentyn yn cael eu cyflawni.

(3Ni chaniateir i’r awdurdod trwyddedu gymeradwyo unrhyw drefniadau ar gyfer addysg plentyn gan athro preifat neu athrawes breifat oni chaiff ei fodloni—

(a)ar y cwrs astudio arfaethedig ar gyfer y plentyn;

(b)y darperir y cwrs astudio arfaethedig gan athro preifat addas neu athrawes breifat addas;

(c)na fydd yr athro preifat neu’r athrawes breifat yn addysgu mwy na chwe phlentyn (gan gynnwys y plentyn o dan sylw) ar unrhyw adeg, neu ddeuddeg o blant os yw’r holl blant sy’n cael eu haddysgu wedi cyrraedd safon debyg yn y pwnc sy’n cael ei addysgu i’r plentyn o dan sylw; a

(d)y bydd y plentyn, yn ystod y cyfnod y mae’r drwydded yn gymwys iddo, yn cael addysg am gyfnodau sydd, o’u hagregu, yn dod i gyfanswm nad yw’n llai na thair awr ar bob diwrnod y byddai’n ofynnol i’r plentyn fynychu’r ysgol pe bai’n mynychu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod trwyddedu.

(4Bernir bod gofynion paragraff (3)(d) wedi eu bodloni os yw’r awdurdod trwyddedu wedi ei fodloni y bydd y plentyn yn cael addysg—

(a)am ddim llai na chwe awr yr wythnos;

(b)yn ystod pob cyfnod cyflawn o bedair wythnos, neu os oes cyfnod o lai na phedair wythnos, yn ystod y cyfnod hwnnw, am gyfnodau nad ydynt yn llai na’r cyfnodau addysg agregedig sy’n ofynnol gan baragraff (3)(d) mewn cysylltiad â’r cyfnod;

(c)ar ddiwrnodau pan fyddai’n ofynnol i’r plentyn fynychu’r ysgol pe bai’n ddisgybl sy’n mynychu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod trwyddedu; a

(d)am ddim mwy na phum awr ar unrhyw ddiwrnod o’r fath.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, nid yw unrhyw gyfnod addysg yn cynnwys—

(a)unrhyw gyfnod sy’n digwydd ac eithrio yn ystod yr oriau y caniateir i blentyn fod yn bresennol mewn man lle y cynhelir perfformiad neu ymarfer o dan reoliad 23; a

(b)unrhyw gyfnod sy’n llai na deng munud ar hugain.

Enillion

16.  Caiff yr awdurdod trwyddedu gynnwys amod yn y drwydded i unrhyw un neu rai neu’r cyfan o’r symiau a enillir gan y plentyn am gymryd rhan yn y perfformiad neu’r gweithgaredd gael ei drin neu eu trin mewn modd penodol gan y deiliad trwydded.

Hebryngwyr

17.—(1Rhaid i awdurdod trwyddedu gymeradwyo person i fod yn hebryngwr i—

(a)gofalu am y plentyn a’i reoli; a

(b)diogelu, cynnal a hyrwyddo llesiant y plentyn,

tra bo’r plentyn yn cymryd rhan mewn gweithgaredd, perfformiad, neu ymarfer neu tra bo’r plentyn yn byw yn rhywle ac eithrio’r man lle y byddai fel arall yn byw yn ystod y cyfnod y mae’r drwydded yn gymwys iddo.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw’r plentyn yn cael ei ofalu amdano gan riant y plentyn neu athro neu athrawes a fyddai fel arfer yn darparu addysg y plentyn.

(3Y nifer uchaf o blant y caiff hebryngwr ofalu amdanynt ar unrhyw un adeg yw—

(a)deuddeg; neu

(b)os athro preifat neu athrawes breifat y plentyn o dan sylw yw’r person a gymeradwywyd i weithredu fel hebryngwr, tri.

(4Ni chaniateir i’r awdurdod trwyddedu gymeradwyo person fel hebryngwr oni chaiff ei fodloni bod y person—

(a)wedi ymgymryd â hyfforddiant amddiffyn plant;

(b)yn addas a chymwys i arfer gofal priodol dros, a rheolaeth briodol ar, blentyn o oedran a rhyw’r plentyn o dan sylw; ac

(c)yn un na fydd yn cael ei atal rhag cyflawni dyletswyddau tuag at y plentyn gan ddyletswyddau tuag at blant eraill.

(5Pan fo plentyn yn dioddef gan unrhyw anaf neu afiechyd tra bo o dan ofal yr hebryngwr, rhaid i’r deiliad trwydded sicrhau bod rhiant y plentyn a enwir yn y ffurflen gais, yr awdurdod trwyddedu a’r awdurdod lletyol yn cael eu hysbysu ar unwaith am yr anaf neu’r afiechyd hwnnw.

(6Pan fo’r awdurdod trwyddedu yn credu ei bod yn briodol, caniateir iddo roi trwydded yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r deiliad trwydded ddarparu i’r hebryngwr gopi cyfredol o’r sgript ar gyfer y cynhyrchiad o dan sylw.

(7Rhaid i amod a osodir o dan baragraff (6) fod wedi ei nodi yn y drwydded.

Llety

18.—(1Pan fo’n ofynnol i blentyn fyw yn rhywle ac eithrio’r man lle y byddai’n byw fel arfer yn ystod y cyfnod y mae’r drwydded yn gymwys iddo oherwydd ei fod yn cymryd rhan yn y perfformiad neu’r gweithgaredd y cafwyd y drwydded ar ei gyfer, rhaid i’r awdurdod trwyddedu gymeradwyo’r man hwnnw fel un sy’n addas i’r plentyn hwnnw.

(2Caniateir i gymeradwyaeth yr awdurdod trwyddedu fod yn ddarostyngedig i unrhyw un neu rai o’r amodau a ganlyn—

(a)y darperir cludiant i’r plentyn rhwng y man lle y cynhelir y perfformiad, yr ymarfer neu’r gweithgaredd, a’r llety;

(b)bod trefniadau addas yn cael eu gwneud ar gyfer prydau bwyd i’r plentyn; ac

(c)unrhyw amod arall a fyddai’n ffafriol i les y plentyn mewn cysylltiad â’r llety hwnnw.

Y man lle y cynhelir y perfformiad a’r man lle y cynhelir yr ymarfer

19.—(1Rhaid i’r awdurdod trwyddedu gymeradwyo unrhyw fan lle y bydd y plentyn yn perfformio, yn ymarfer neu’n cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd.

(2Ni chaniateir i’r awdurdod trwyddedu gymeradwyo’r man lle y cynhelir y perfformiad, yr ymarfer neu’r gweithgaredd oni chaiff ei fodloni, o roi sylw i oedran y plentyn a natur, amser a hyd y perfformiad, yr ymarfer neu’r gweithgaredd—

(a)bod trefniadau addas wedi eu gwneud—

(i)ar gyfer darparu prydau bwyd i’r plentyn;

(ii)i’r plentyn ymwisgo ar gyfer y perfformiad, yr ymarfer neu’r gweithgaredd; a

(iii)ar gyfer amser gorffwys a hamdden y plentyn, pan nad yw’n cymryd rhan mewn perfformiad, ymarfer neu weithgaredd;

(b)bod gan y man hwnnw doiledau a chyfleusterau ymolchi sy’n addas a digonol; ac

(c)y caiff y plentyn ei amddiffyn yn ddigonol rhag tywydd garw.

(3Caiff yr awdurdod trwyddedu roi ei gymeradwyaeth yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae’n barnu eu bod yn angenrheidiol.

(4Ym mharagraff (2)(a)(ii), nid yw trefniadau i blentyn, sydd wedi cyrraedd pum mlwydd oed, ymwisgo ar gyfer perfformiad, ymarfer neu weithgaredd yn addas onid yw’n cael ymwisgo gyda phlant o’r un rhyw ag ef yn unig.

Trefniadau ac amser ar gyfer teithio

20.—(1Rhaid i’r deiliad trwydded sicrhau bod trefniadau addas (o roi sylw i oedran y plentyn) yn cael eu gwneud i fynd â’r plentyn i’w gartref neu i unrhyw gyrchfan arall ar ôl y perfformiad neu’r ymarfer olaf, neu derfyn unrhyw weithgaredd ar unrhyw ddiwrnod.

(2Rhaid i’r awdurdod trwyddedu—

(a)rhoi sylw, pan fo’n rhoi ei gymeradwyaeth, i hyd yr amser y bydd y plentyn yn ei dreulio wrth deithio yn ôl ac ymlaen i’r man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer; a

(b)cynnwys unrhyw amodau y mae’n barnu eu bod yn angenrheidiol mewn perthynas â’r amserau cynharaf a hwyraf y caiff y plentyn fod yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer.