xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1794 (Cy. 254)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pŵer i Drechu Hawddfreintiau a Cheisiadau gan Ymgymerwyr Statudol) (Cymru) 2015

Gwnaed

13 Hydref 2015

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 203 o Ddeddf Cynllunio 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Yn unol ag adran 203(9) o’r Ddeddf honno gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pŵer i Drechu Hawddfreintiau a Cheisiadau gan Ymgymerwyr Statudol) (Cymru) 2015.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod wedi’r diwrnod y gwneir y Gorchymyn.

(3Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(2).

Pŵer i drechu hawddfreintiau a hawliau eraill

2.  Ym mharagraff 6(1A) o Atodlen 28 i Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980(3) ar ôl “in England”, mewnosoder “or Wales”.

3.  Yn adran 19(1A) o Ddeddf Trefi Newydd 1981(4) hepgorer “in England”.

4.  Ym mharagraff 5(1A) o Atodlen 10 i Ddeddf Tai 1988(5)ar ôl “in England”, mewnosoder “in Wales”.

5.  Yn adran 237(1A) o Ddeddf 1990(6) hepgorer “in England”.

Ceisiadau am ganiatâd cynllunio gan ymgymerwyr statudol

6.  Yn adran 266 o Ddeddf 1990(7) ar ôl is-adran (1A) mewnosoder—

(1B) Subsection (1) has effect in relation to an application or appeal relating to land in Wales only if the Welsh Ministers or the appropriate Minister have given a direction for it to have effect in relation to the application or appeal (and the direction has not been revoked).

Darpariaeth drosiannol

7.  Nid yw’r diwygiad a wneir gan erthygl 6 yn gymwys ond mewn perthynas â cheisiadau ac apelau a wneir ar neu ar ôl y diwrnod y daw’r Gorchymyn hwn i rym.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

13 Hydref 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol a chyrff eraill drechu hawddfreintiau a hawliau eraill a fyddai fel arall yn cyfyngu ar eu defnydd o dir a gaffaelwyd neu a berchenogwyd at ddibenion cynllunio. Ni allant wneud hyn onid yw’r defnydd yn unol â chaniatâd cynllunio. Mae’n gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru sy’n cyfateb i adran 194(1) o Ddeddf Cynllunio 2008 (“Deddf 2008”) ac Atodlen 9 iddi.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn datgymhwyso’r gofyniad i Weinidogion Cymru a’r Gweinidog priodol benderfynu ar y cyd ynghylch ceisiadau ac apelau cynllunio penodol pan fo’r cais wedi ei wneud gan ymgymerwr statudol. Fodd bynnag, caiff Gweinidogion Cymru neu’r Gweinidog priodol gyfarwyddo bod y gofyniad am benderfyniadau ar y cyd yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â’r cais perthnasol neu’r apêl berthnasol. Mae’r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru sy’n cyfateb i adran 195 o Ddeddf 2008.

Mae erthygl 7 yn gwneud darpariaeth drosiannol. Mae’n darparu bod adran 266(1B) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn gymwys pan wneir cais neu apêl ar ôl i’r Gorchymyn ddod i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(3)

1980 p. 65; mewnosodwyd is-baragraff 6(1A) o Atodlen 28 gan adran 194(1) o Ddeddf Cynllunio 2008 a pharagraff 1 o Atodlen 9 iddi.

(4)

1981 p. 64; mewnosodwyd adran 19(1A) gan adran 194(1) o Ddeddf Cynllunio 2008 a pharagraff 2 o Atodlen 9 iddi.

(5)

1988 p. 50; mewnosodwyd is-baragraff 5(1A) o Atodlen 10 gan adran 194(1) o Ddeddf Cynllunio 2008 a pharagraff 3 o Atodlen 9 iddi.

(6)

1990 p. 8; mewnosodwyd adran 237(1A) gan adran 194(1) o Ddeddf Cynllunio 2008 a pharagraff 4 o Atodlen 9 iddi.

(7)

1990 p. 8; mewnosodwyd adran 266(1A) gan adran 195 o Ddeddf Cynllunio 2008.