Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

Newidiadau dros amser i: RHAN 3

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/07/2022. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) part yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Rhagolygol

RHAN 3LL+CLleoliadau – darpariaethau cyffredinol

Cynllun lleoliLL+C

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), cyn gwneud trefniadau i leoli C yn unol ag adran 81 o Ddeddf 2014, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

(a)ymgorffori, o fewn cynllun gofal a chymorth C, fanylion o’r cynllun ar gyfer lleoli C (“y cynllun lleoli”) sydd—

(i)yn nodi sut y bydd y lleoliad yn cyfrannu at ddiwallu anghenion C, a

(ii)yn cynnwys yr holl faterion a bennir yn Atodlen 3 ac sy’n gymwys o ystyried y math o leoliad, a

(b)sicrhau bod—

(i)safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C wedi eu canfod ac wedi cael ystyriaeth briodol, a

(ii)yr SAA wedi ei hysbysu.

(2Os nad yw’n rhesymol ymarferol i baratoi’r cynllun lleoli cyn gwneud y lleoliad, rhaid paratoi’r cynllun lleoli o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl dechrau’r lleoliad.

(3Rhaid i’r cynllun lleoli gael ei gytuno gyda’r person priodol a’i lofnodi ganddo.

(4Os gwnaed y trefniadau ar gyfer lleoli C cyn 6 Ebrill 2016, rhaid i’r awdurdod cyfrifol baratoi’r cynllun lleoli cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 10 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Osgoi amharu ar addysgLL+C

11.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), os yw C yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol yng nghyfnod allweddol pedwar(1), rhaid peidio â rhoi effaith i unrhyw benderfyniad i wneud unrhyw newid yn lleoliad C a fyddai’n cael yr effaith o amharu ar y trefniadau a wnaed ar gyfer addysg C, hyd nes bo’r penderfyniad wedi ei gymeradwyo gan y swyddog enwebedig.

(2Cyn cymeradwyo penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r swyddog enwebedig fod wedi ei fodloni—

(a)y cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 10(1)(b)(i),

(b)y bydd y ddarpariaeth addysgol a wnaed ar gyfer C yn y lleoliad yn hyrwyddo cyflawniad addysgol C ac yn gyson â chynllun addysg personol C,

(c)yr ymgynghorwyd â’r person dynodedig(2) yn yr ysgol,

(d)yr ymgynghorwyd â’r Cydgysylltydd Addysg PDG,

(e)yr ymgynghorwyd â’r SAA, ac

(f)os lleolir C mewn cartref plant, yr ymgynghorwyd â gweithiwr dolen gyswllt C.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo—

(a)yr awdurdod cyfrifol yn terfynu lleoliad C yn unol â rheoliad 15(3), neu

(b)pan fo angen newid lleoliad C am unrhyw reswm arall mewn argyfwng,

ac mewn achos o’r fath rhaid i’r awdurdod cyfrifol wneud trefniadau priodol i hyrwyddo cyflawniad addysgol C cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(4Mewn unrhyw achos nad yw’n dod o fewn paragraff (1), ond pan fo’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu gwneud unrhyw newid yn lleoliad C a fyddai’n cael yr effaith o amharu ar y trefniadau a wnaed ar gyfer addysg neu hyfforddiant C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau y gwneir trefniadau eraill ar gyfer addysg neu hyfforddiant C sy’n bodloni anghenion C ac yn gyson â chynllun addysg personol C.

(5Yn y rheoliad hwn—

(a)mae i “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” yn adran 20(7) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008(3), a

(b)mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” yn adran 4 o Ddeddf Addysg 1996(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 11 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Lleoliadau y tu allan i’r ardalLL+C

Penderfyniad lleoliLL+C

12.—(1Ni chaiff awdurdod cyfrifol benderfynu lleoli C y tu allan i’w ardal ac eithrio pan fodlonir yr awdurdod cyfrifol nad oes lleoliad ar gael o fewn ei ardal, a allai ddiwallu anghenion C (“lleoliad y tu allan i’r ardal”).

(2Pan fo paragraff (1) yn gymwys, rhaid i’r awdurdod cyfrifol chwilio am leoliad y tu allan i’r ardal ar gyfer C, yn unol â’r drefn blaenoriaeth ganlynol—

(a)mewn awdurdod lleol sydd â’i ardal yn ffinio ar ardal yr awdurdod cyfrifol;

(b)mewn awdurdod lleol yn Lloegr sydd â’i ardal yn ffinio ar ardal yr awdurdod cyfrifol;

(c)mewn unrhyw awdurdod lleol arall;

(d)mewn awdurdod lleol yn Lloegr, neu

(e)yn ddarostyngedig i ofynion adran 124 o Ddeddf 2014, y tu allan i Gymru a Lloegr(5).

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (5), os bodlonir awdurdod cyfrifol fod lleoli y tu allan i’r ardal yn angenrheidiol yn achos C, rhaid peidio â rhoi effaith i’r penderfyniad i leoli C y tu allan i’r ardal hyd nes bo—

(a)y penderfyniad wedi ei atgyfeirio at banel ac wedi ei gymeradwyo ganddo,

(b)cymeradwyaeth y panel o’r penderfyniad hwnnw wedi ei gofnodi mewn ysgrifen ynghyd â’r rhesymau dros gymeradwyo, ac

(c)y cofnod hwnnw o’r gymeradwyaeth wedi ei ardystio mewn ysgrifen gan y swyddog enwebedig, i gadarnhau ei gymeradwyaeth yntau.

(4Cyn cymeradwyo penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r panel a’r swyddog enwebedig ill dau fod wedi eu bodloni—

(a)y cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 10(1)(b)(i),

(b)mai’r lleoliad yw’r lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael ar gyfer C, a bod y lleoliad yn gyson â chynllun gofal a chymorth C,

(c)yr ymgynghorwyd â pherthnasau(6) C, os yw’n briodol,

(d)yr ymgynghorwyd â’r SAA,

(e)pan fo gan C anghenion addysgol arbennig y darperir ar eu cyfer mewn cynllun addysgol arbennig, fod yr awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr y bwriedir lleoli C yn ei ardal, wedi ei hysbysu ynghylch y lleoliad, ac y daethpwyd i gytundeb gyda’r awdurdod hwnnw mewn cysylltiad â diwallu anghenion addysgol arbennig C yn ystod lleoliad C yn ei ardal, ac

(f)os oes gan C anghenion iechyd sydd angen sylw, fod y darparwr gofal iechyd ar gyfer ardal yr awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr wedi ei hysbysu, ac mewn achosion priodol, y daethpwyd i gytundeb gyda’r darparwr gofal iechyd mewn cysylltiad â diwallu anghenion iechyd C.

(5Yn achos lleoliad a wneir mewn argyfwng—

(a)nid yw paragraff (3) yn gymwys;

(b)mae paragraff (4) yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn is-baragraff (c);

(c)rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau—

(i)y gwneir cofnod ysgrifenedig o’r penderfyniad, sy’n rhoi rhesymau dros wneud y penderfyniad,

(ii)yr ardystir y cofnod gan y swyddog enwebedig, i gadarnhau ei fod yn cytuno â’r penderfyniad,

(iii)y cydymffurfir â pharagraff (4)(a) a (b) cyn gwneud y lleoliad,

(iv)y cydymffurfir â pharagraff (4)(c) a (d) o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y lleoliad, a

(v)y cydymffurfir â pharagraff (4)(e) ac (f) cyn gynted ag y bo modd ar ôl gwneud y lleoliad.

(6Pan wneir lleoliad yn unol â pharagraff (5)—

(a)rhaid i’r awdurdod cyfrifol atgyfeirio’r lleoliad at banel cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud y lleoliad, a beth bynnag ddim hwyrach na 25 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y lleoliad, a

(b)rhaid hysbysu’r awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr, y lleolwyd C yn ei ardal, ynghylch y lleoliad, ddim hwyrach na 5 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y lleoliad.

(7Rhaid i’r cofnod o unrhyw benderfyniad a wneir yn unol â’r rheoliad hwn gael ei roi ar gael i’r aelod arweiniol dros wasanaethau plant ar gyfer yr awdurdod cyfrifol.

(8Yn y rheoliad hwn—

ystyr “hysbysu” (“notified”) ym mharagraff (6)(b) yw fod rhaid i’r awdurdod cyfrifol ddarparu—

(a)

manylion o’i asesiad o anghenion C a’r rhesymau pam yr ystyrir mai’r lleoliad a ddewiswyd yw’r ffordd fwyaf priodol o ddiwallu anghenion C, a

(b)

copi o gynllun gofal a chymorth C os na ddarparwyd copi eisoes;

ystyr “panel” (“panel”) yw panel o gynrychiolwyr o ba asiantaethau bynnag a all gynorthwyo awdurdod cyfrifol wrth gynllunio’r lleoliad ar gyfer C a diwallu anghenion C yn ystod y lleoliad, a rhaid i banel gynnwys cynrychiolydd o’r awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr y bwriedir lleoli C yn ei ardal, ac mewn achosion priodol, cynrychiolydd unrhyw ddarparwr gofal iechyd neu addysg perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 12 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Lleoli y tu allan i Gymru a LloegrLL+C

13.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—

(a)C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, a

(b)yr awdurdod cyfrifol yn gwneud trefniadau i leoli C y tu allan i Gymru a Lloegr yn unol â darpariaethau adran 124 o Ddeddf 2014 (trefniadau i helpu plant i fyw y tu allan i Loegr a Chymru).

(2Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gymryd camau i sicrhau, i’r graddau sy’n rhesymol ymarferol, y cydymffurfir â gofynion sy’n cyfateb i’r gofynion a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y Rheoliadau hyn pe bai C wedi ei leoli yng Nghymru.

(3Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gynnwys yn y cynllun gofal a chymorth fanylion y trefniadau a wnaed gan yr awdurdod cyfrifol i oruchwylio lleoliad C.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 13 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Hysbysu ynghylch lleoliadLL+C

14.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r personau a restrir ym mharagraff (2) ynghylch y trefniadau ar gyfer lleoli C cyn gwneud y lleoliad, neu, os oes angen lleoli mewn argyfwng, o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl dechrau’r lleoliad, ac eithrio pan na ellir gwneud hynny yn rhesymol ymarferol.

(2Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)C, oni fyddai’n amhriodol gwneud hynny o ystyried oedran a dealltwriaeth C,

(b)P,

(c)os yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, unrhyw berson y caniateir iddo gael cyswllt ag C o dan adran 34(1) o Ddeddf 1989 ac unrhyw berson sydd â chyswllt ag C yn rhinwedd gorchymyn o dan adran 34 o’r Ddeddf honno (cyswllt rhiant etc. â phlant mewn gofal),

(d)os yw C yn derbyn gofal ond nid yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, unrhyw berson sydd â chyswllt ag C yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 8 o Ddeddf 1989 (gorchmynion trefniadau plant a gorchmynion eraill mewn cysylltiad â phlant),

(e)unrhyw berson a oedd yn gofalu am C yn union cyn gwneud y trefniadau,

(f)y bwrdd iechyd lleol (neu, yn achos plentyn sy’n byw neu sydd i’w leoli mewn ardal awdurdod lleol yn Lloegr, Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol)(7) a’r grŵp comisiynu clinigol(8)) ar gyfer yr ardal y mae C yn byw ynddi ac, os yw’n wahanol, ar gyfer yr ardal y bwriedir lleoli C ynddi,

(g)ymarferydd meddygol cofrestredig C, a phan fo’n gymwys, yr ymarferydd meddygol cofrestredig y bwriedir cofrestru C gydag ef yn ystod y lleoliad,

(h)unrhyw sefydliad addysgol a fynychir gan C, neu berson sy’n darparu addysg neu hyfforddiant i C,

(i)y Cydgysylltydd Addysg PDG ar gyfer yr ardal y mae C yn byw ynddi ac, os yw’n wahanol, ar gyfer yr ardal y bwriedir lleoli C ynddi,

(j)yr SAA, a

(k)pan fo C wedi ei leoli mewn cartref plant, gweithiwr dolen gyswllt C.

(3Caiff yr awdurdod cyfrifol benderfynu peidio â rhoi hysbysiad i unrhyw un neu bob un o’r personau a restrir ym mharagraffau (2)(b) i (e), os byddai gwneud hynny’n achosi perygl o niwed i C.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 14 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Terfynu lleoliad gan yr awdurdod cyfrifolLL+C

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (5), ni chaiff yr awdurdod cyfrifol derfynu lleoliad C ac eithrio ar ôl cynnal adolygiad o achos C yn unol â Rhan 6.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), cyn terfynu lleoliad C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

(a)gwneud trefniadau eraill ar gyfer lletya C yn unol ag adran 81 o Ddeddf 2014,

(b)hysbysu’r SAA,

(c)i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’i fwriad i derfynu’r lleoliad i’r canlynol—

(i)pob un o’r personau y rhoddwyd hysbysiad o’r lleoliad iddynt o dan reoliad 14,

(ii)y person y lleolwyd C gydag ef,

(iii)os lleolwyd C yn ardal awdurdod lleol arall neu awdurdod lleol yn Lloegr, yr awdurdod hwnnw.

(3Pan fo perygl y gallai niwed ddigwydd ar unwaith i C, neu er mwyn diogelu eraill rhag anaf difrifol, rhaid i’r awdurdod cyfrifol derfynu lleoliad C, ac yn yr amgylchiadau hynny—

(a)nid yw paragraff (1) yn gymwys, a

(b)rhaid i’r awdurdod cyfrifol gydymffurfio â pharagraff (2)(a) a (b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(4Os nad yw’n rhesymol ymarferol hysbysu unrhyw berson yn unol â pharagraff (2)(c), yna rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person hwnnw o fewn 5 diwrnod gwaith i’r dyddiad y terfynwyd y lleoliad, o’r ffaith bod y lleoliad wedi ei derfynu.

(5Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo lleoliad C wedi ei derfynu—

(a)o dan reoliad 20(c)(ii) (amgylchiadau pan ganiateir lleoli plentyn gyda P cyn cwblhau asesiad),

(b)o dan reoliad 24(2) (terfynu lleoliad argyfwng),

(c)o dan reoliad 27(6), neu

(d)pan fo adran 82 o Ddeddf 2014 (adolygu achos plentyn cyn gwneud trefniadau amgen o ran llety) yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 15 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

(1)

Diffinnir “yng nghyfnod allweddol pedwar” yn adran 91(2) o Ddeddf 2014.

(2)

Y “person dynodedig” yn achos ysgol a gynhelir yw’r aelod o’r staff a ddynodir gan y corff llywodraethu yn unol ag adran 20(1) o Ddeddf 2008, ac yn yr achos hwnnw ystyr “ysgol” yw’r ystyr a roddir i “school” yn adran 434(5) o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).

(4)

Hynny yw, sefydliad addysgol, y tu allan i’r sectorau addysg bellach ac uwch, ar gyfer darparu addysg gynradd a/neu addysg uwchradd.

(5)

Mae adran 124 o Ddeddf 2014 yn ei gwneud yn ofynnol cael caniatâd y llys mewn achosion o’r fath.

(6)

Diffinnir “perthynas” yn adran 197(1) o Ddeddf 2014.

(7)

Sefydlwyd Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (p. 41) (“Deddf 2006”), fel y’i mewnosodwyd gan adran 9(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7) (“Deddf 2012”).

(8)

Grŵp comisiynu clinigol yw corff a sefydlwyd o dan adran 14D o Ddeddf 2006. Mewnosodwyd adran 14D gan adran 25(1) o Ddeddf 2012. Gweler hefyd adran 1I o Ddeddf 2006, a fewnosodir gan adran 10 o Ddeddf 2012.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill