Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

Rhagolygol

RHAN 6LL+CAdolygiadau o achos y plentyn

Dyletswydd gyffredinol yr awdurdod cyfrifol i adolygu achos y plentynLL+C

38.—(1Rhaid i’r awdurdod cyfrifol adolygu achos C yn unol â’r Rhan hon.

(2Rhaid i’r awdurdod cyfrifol beidio â gwneud unrhyw newid sylweddol yng nghynllun gofal a chymorth C oni fydd y newid arfaethedig wedi ei ystyried yn gyntaf mewn adolygiad o achos C, ac eithrio pan nad yw hynny’n rhesymol ymarferol.

(3Nid oes dim yn y Rhan hon sy’n rhwystro cynnal unrhyw adolygiad o achos C yr un pryd ag unrhyw adolygiad, asesiad neu ystyriaeth arall o achos C o dan unrhyw ddarpariaeth arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 38 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Amseru adolygiadauLL+C

39.—(1Rhaid i’r awdurdod cyfrifol adolygu achos C am y tro cyntaf o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y dechreuodd C dderbyn gofal.

(2Rhaid cynnal yr ail adolygiad ar ôl ysbaid o ddim mwy na thri mis ar ôl y cyntaf, a rhaid cynnal adolygiadau dilynol fesul ysbaid o ddim mwy na 6 mis.

(3Nid oes dim yn rheoliad hwn sy’n rhwystro’r awdurdod cyfrifol rhag cynnal adolygiad cyn yr amser a bennir ym mharagraff (1) neu (2), a rhaid iddo wneud hynny—

(a)os yw’r awdurdod cyfrifol yn tybio bod C yn absennol, neu wedi bod yn absennol yn fynych, o’r lleoliad,

(b)os hysbysir yr awdurdod cyfrifol gan y person priodol, P neu’r awdurdod ardal ynghylch pryder bod C mewn perygl o niwed,

(c)yn ddarostyngedig i baragraff (4), os yw C yn gofyn iddo,

(d)os yw’r SAA yn gofyn iddo,

(e)os yw rheoliad 33 yn gymwys,

(f)os darparwyd llety i C o dan adran 77(2)(b) neu (c) o Ddeddf 2014 ac na fyddai adolygiad yn digwydd fel arall cyn bo C yn peidio â chael ei ddarparu â llety felly,

(g)os yw C yng ngofal yr awdurdod ac o dan gadwad, ac na fyddai adolygiad yn digwydd fel arall cyn bo C yn peidio â bod dan gadwad felly, neu

(h)os yw C yn derbyn gofal ond nid yng ngofal yr awdurdod cyfrifol ac—

(i)yr awdurdod cyfrifol yn bwriadu peidio â darparu llety i C, a

(ii)na fydd llety’n cael ei ddarparu ar gyfer C wedyn gan rieni C (neu un ohonynt) nac ychwaith gan unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C,

(i)os yw C yn rhan o deulu yr atgyfeiriwyd ei achos at dîm integredig cymorth i deuluoedd, a’r teulu wedi ei hysbysu y bydd tîm o’r fath yn cynorthwyo ei achos.

(4Ni wneir yn ofynnol bod yr awdurdod cyfrifol yn cynnal adolygiad yn unol â pharagraff (3)(c) os yw’r SAA o’r farn na ellir cyfiawnhau cynnal adolygiad cyn yr amser a bennir ym mharagraff (1) neu (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 39 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Cynnal yr adolygiadauLL+C

Polisi’r awdurdod cyfrifol ar adolygiadauLL+C

40.—(1Rhaid i’r awdurdod cyfrifol baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig ar y modd y bydd yn adolygu achosion yn unol â’r Rhan hon.

(2Rhaid i’r awdurdod cyfrifol ddarparu copi o’i bolisi i—

(a)C, oni fydd yn amhriodol gwneud hynny o ystyried oedran a dealltwriaeth C,

(b)rhieni C, neu unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, ac

(c)unrhyw berson arall yr ystyrir ei safbwyntiau’n berthnasol gan yr awdurdod cyfrifol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 40 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddyntLL+C

41.—(1Yr ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu pob achos yw’r rhai a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 8.

(2Mae’r ystyriaethau ychwanegol y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos C pan fo C yn rhan o deulu a gynorthwyir gan dîm integredig cymorth i deuluoedd wedi eu nodi ym mharagraff 2 o Atodlen 8.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 41 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Rôl yr SAALL+C

42.—(1Rhaid i’r SAA—

(a)i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod a gynhelir fel rhan o’r adolygiad (“y cyfarfod adolygu”), ac os yw’n bresennol yn y cyfarfod adolygu, ei gadeirio,

(b)siarad ag C yn breifat am y materion sydd i’w hystyried yn yr adolygiad oni fydd C yn gwrthod, ac yn meddu dealltwriaeth ddigonol i wneud hynny, neu’r SAA yn ystyried hynny’n amhriodol oherwydd oedran a dealltwriaeth C,

(c)sicrhau, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, y canfyddir ac y cymerir i ystyriaeth safbwyntiau, dymuniadau a theimladau rhieni C neu unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, a

(d)sicrhau y cynhelir yr adolygiad yn unol â’r Rhan hon ac yn benodol—

(i)yr enwir y personau sy’n gyfrifol am weithredu unrhyw benderfyniad a wneir o ganlyniad i’r adolygiad, a

(ii)y tynnir sylw swyddog sydd ar lefel uwch briodol o fewn yr awdurdod cyfrifol at unrhyw fethiant i adolygu’r achos yn unol â’r Rhan hon, neu fethiant i gymryd camau priodol i weithredu penderfyniadau a wneir o ganlyniad i’r adolygiad.

(2Caiff yr SAA, os na fodlonir ef fod gwybodaeth ddigonol wedi ei darparu gan yr awdurdod cyfrifol i alluogi ystyriaeth briodol o unrhyw fater yn Atodlen 8, ohirio’r cyfarfod adolygu unwaith am ddim mwy nag 20 diwrnod gwaith, ac ni chaniateir gweithredu unrhyw gynnig a ystyriwyd yn ystod yr adolygiad hyd nes cwblheir yr adolygiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 42 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Trefniadau ar gyfer gweithredu penderfyniadau sy’n tarddu o adolygiadauLL+C

43.  Rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

(a)gwneud trefniadau i weithredu penderfyniadau a wneir yn ystod yr adolygiad neu o ganlyniad iddo, a

(b)hysbysu’r SAA ynghylch unrhyw fethiant arwyddocaol i wneud trefniadau o’r fath neu unrhyw newid arwyddocaol yn yr amgylchiadau a fydd yn digwydd ar ôl yr adolygiad ac yn effeithio ar y trefniadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 43 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Cofnodion o’r adolygiadauLL+C

44.  Rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau y paratoir cofnod ysgrifenedig o’r adolygiad, a bod yr wybodaeth a gesglir yn ystod yr adolygiad, manylion o’r trafodion yn y cyfarfod adolygu ac unrhyw benderfyniadau a wnaed yn ystod yr adolygiad neu o ganlyniad iddo wedi eu cynnwys yng nghofnod achos C.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 44 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)