Rhagolygol
Cynnal yr adolygiadauLL+C
Polisi’r awdurdod cyfrifol ar adolygiadauLL+C
40.—(1) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig ar y modd y bydd yn adolygu achosion yn unol â’r Rhan hon.
(2) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol ddarparu copi o’i bolisi i—
(a)C, oni fydd yn amhriodol gwneud hynny o ystyried oedran a dealltwriaeth C,
(b)rhieni C, neu unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, ac
(c)unrhyw berson arall yr ystyrir ei safbwyntiau’n berthnasol gan yr awdurdod cyfrifol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 40 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
Ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddyntLL+C
41.—(1) Yr ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu pob achos yw’r rhai a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 8.
(2) Mae’r ystyriaethau ychwanegol y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos C pan fo C yn rhan o deulu a gynorthwyir gan dîm integredig cymorth i deuluoedd wedi eu nodi ym mharagraff 2 o Atodlen 8.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 41 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
Rôl yr SAALL+C
42.—(1) Rhaid i’r SAA—
(a)i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod a gynhelir fel rhan o’r adolygiad (“y cyfarfod adolygu”), ac os yw’n bresennol yn y cyfarfod adolygu, ei gadeirio,
(b)siarad ag C yn breifat am y materion sydd i’w hystyried yn yr adolygiad oni fydd C yn gwrthod, ac yn meddu dealltwriaeth ddigonol i wneud hynny, neu’r SAA yn ystyried hynny’n amhriodol oherwydd oedran a dealltwriaeth C,
(c)sicrhau, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, y canfyddir ac y cymerir i ystyriaeth safbwyntiau, dymuniadau a theimladau rhieni C neu unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, a
(d)sicrhau y cynhelir yr adolygiad yn unol â’r Rhan hon ac yn benodol—
(i)yr enwir y personau sy’n gyfrifol am weithredu unrhyw benderfyniad a wneir o ganlyniad i’r adolygiad, a
(ii)y tynnir sylw swyddog sydd ar lefel uwch briodol o fewn yr awdurdod cyfrifol at unrhyw fethiant i adolygu’r achos yn unol â’r Rhan hon, neu fethiant i gymryd camau priodol i weithredu penderfyniadau a wneir o ganlyniad i’r adolygiad.
(2) Caiff yr SAA, os na fodlonir ef fod gwybodaeth ddigonol wedi ei darparu gan yr awdurdod cyfrifol i alluogi ystyriaeth briodol o unrhyw fater yn Atodlen 8, ohirio’r cyfarfod adolygu unwaith am ddim mwy nag 20 diwrnod gwaith, ac ni chaniateir gweithredu unrhyw gynnig a ystyriwyd yn ystod yr adolygiad hyd nes cwblheir yr adolygiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 42 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
Trefniadau ar gyfer gweithredu penderfyniadau sy’n tarddu o adolygiadauLL+C
43. Rhaid i’r awdurdod cyfrifol—
(a)gwneud trefniadau i weithredu penderfyniadau a wneir yn ystod yr adolygiad neu o ganlyniad iddo, a
(b)hysbysu’r SAA ynghylch unrhyw fethiant arwyddocaol i wneud trefniadau o’r fath neu unrhyw newid arwyddocaol yn yr amgylchiadau a fydd yn digwydd ar ôl yr adolygiad ac yn effeithio ar y trefniadau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 43 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)
Cofnodion o’r adolygiadauLL+C
44. Rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau y paratoir cofnod ysgrifenedig o’r adolygiad, a bod yr wybodaeth a gesglir yn ystod yr adolygiad, manylion o’r trafodion yn y cyfarfod adolygu ac unrhyw benderfyniadau a wnaed yn ystod yr adolygiad neu o ganlyniad iddo wedi eu cynnwys yng nghofnod achos C.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 44 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)