Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

Rhagolygol

RHAN 8LL+CSwyddogion adolygu annibynnol ac ymwelwyr annibynnol

Swyddogaethau ychwanegol swyddogion adolygu annibynnolLL+C

53.—(1Rhaid i’r SAA, gan roi sylw i oedran a dealltwriaeth C, sicrhau bod yr awdurdod cyfrifol wedi rhoi gwybod i C am y camau y caiff C eu cymryd o dan Ddeddf 1989 a Deddf 2014, ac yn benodol, os yw’n briodol—

(a)hawl C, gyda chaniatâd, i wneud cais am orchymyn o dan adran 8 o Ddeddf 1989 (gorchmynion trefniadau plentyn a gorchmynion eraill mewn cysylltiad â phlant), ac os yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, i wneud cais am ryddhad o’r gorchymyn gofal, a

(b)argaeledd y weithdrefn a sefydlwyd ganddo o dan adran 174 o Ddeddf 2014 ar gyfer ystyried unrhyw sylwadau (gan gynnwys cwynion) y gallai C ddymuno eu gwneud ynghylch y modd y mae’r awdurdod cyfrifol yn cyflawni ei swyddogaethau, gan gynnwys argaeledd cymorth i wneud sylwadau o’r fath o dan adran 178 o Ddeddf 2014.

(2Os yw C yn dymuno dwyn achos cyfreithiol o dan Ddeddf 1989, rhaid i’r SAA—

(a)canfod a oes oedolyn priodol sy’n alluog a bodlon i gynorthwyo C i gael cyngor cyfreithiol neu ddwyn achos ar ran C, a

(b)os nad oes person o’r fath, cynorthwyo C i gael cyngor o’r fath.

(3Yn yr amgylchiadau canlynol rhaid i’r SAA ystyried a fyddai’n briodol atgyfeirio achos C at swyddog achosion teuluol Cymru(1)

(a)pan fo’r awdurdod cyfrifol, mewn unrhyw fodd sylweddol, ym marn yr SAA, wedi—

(i)methu â pharatoi cynllun gofal a chymorth C yn unol â’r Rheoliadau hyn,

(ii)methu ag adolygu achos C yn unol â’r Rheoliadau hyn, neu wedi methu â gweithredu’n effeithiol unrhyw benderfyniad a wnaed o ganlyniad i adolygiad, neu

(iii)rywfodd arall wedi methu â chyflawni ei ddyletswyddau i C mewn unrhyw fodd perthnasol, a

(b)ar ôl tynnu sylw personau ar lefel uwch briodol o fewn yr awdurdod cyfrifol at y methiant, ni roddwyd sylw i’r mater er boddhad i’r SAA o fewn cyfnod rhesymol o amser.

(4Rhaid i’r SAA, pan fo’r awdurdod cyfrifol yn ymgynghori ag ef ynghylch unrhyw fater sy’n ymwneud ag C, neu pan hysbysir ef o unrhyw fater sy’n ymwneud ag C yn unol â’r Rheoliadau hyn—

(a)sicrhau bod yr awdurdod cyfrifol wedi canfod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C ynglŷn â’r mater dan sylw, ac, yn ddarostyngedig i oedran a dealltwriaeth C, wedi rhoi ystyriaeth briodol i safbwyntiau, dymuniadau a’r teimladau C, a

(b)ystyried a ddylid gofyn am adolygiad o achos C.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 53 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Cymwysterau a phrofiad swyddogion adolygu annibynnolLL+C

54.—(1Rhaid i’r SAA fod wedi ei gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol mewn cofrestr a gynhelir gan Gyngor Gofal Cymru neu yn Rhan 16 o’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001(2) neu mewn cofrestr gyfatebol a gynhelir o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

(2Rhaid i’r SAA feddu profiad digonol o waith cymdeithasol perthnasol gyda phlant a theuluoedd i gyflawni’r swyddogaethau swyddog adolygu annibynnol a nodir yn adran 100 o Ddeddf 2014 ac o dan y Rheoliadau hyn, mewn modd annibynnol a chan roi sylw i fudd pennaf C.

(3Rhaid i’r awdurdod cyfrifol beidio â phenodi unrhyw un o’r canlynol fel yr SAA—

(a)person a fu’n ymwneud â pharatoi cynllun gofal a chymorth C neu reoli achos C,

(b)R,

(c)cynghorydd personol C,

(d)person sydd â chyfrifoldebau rheoli mewn perthynas â pherson a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (c), neu

(e)person sydd â rheolaeth dros yr adnoddau a ddyrennir i’r achos.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 54 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Ymwelwyr annibynnolLL+C

55.  Mae person a benodwyd gan yr awdurdod cyfrifol fel ymwelydd annibynnol o dan adran 98 o Ddeddf 2014 i’w ystyried yn annibynnol ar yr awdurdod hwnnw os nad yw’r person a benodwyd yn gysylltiedig â’r awdurdod cyfrifol yn rhinwedd bod—

(a)yn aelod o’r awdurdod cyfrifol neu unrhyw un o’i bwyllgorau neu is-bwyllgorau, boed etholedig neu gyfetholedig,

(b)yn swyddog yr awdurdod cyfrifol a gyflogir i arfer unrhyw un o’r swyddogaethau canlynol—

(i)y swyddogaethau a roddwyd i’r awdurdod cyfrifol neu sy’n arferadwy ganddo yn ei rôl fel awdurdod addysg lleol,

(ii)y swyddogaethau a roddwyd i’r awdurdod cyfrifol neu sy’n arferadwy ganddo sydd yn swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol (o fewn yr ystyr yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014 i’r graddau y mae’r swyddogaethau hynny’n ymwneud â phlant),

(iii)y swyddogaethau a roddwyd i’r awdurdod cyfrifol o dan adrannau 61 i 63 a 103 i 118 o Ddeddf 2014 (i’r graddau nad ydynt yn dod o fewn is-baragraff (ii)),

(iv)y swyddogaethau a roddwyd i’r awdurdod cyfrifol gan adrannau 25, 26, 28 a 29 o Ddeddf Plant 2004(3),

(v)y swyddogaethau a roddwyd i’r awdurdod cyfrifol yn unol ag adran 33 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(4) neu adran 75 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(5), neu

(c)yn briod, partner sifil neu berson arall (pa un ai o wahanol ryw neu o’r un rhyw) sy’n byw ar yr un aelwyd fel partner person sy’n dod o fewn paragraffau (a) neu (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 55 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

(1)

Diffinnir “swyddog achosion teuluol Cymru” yn adran 197(1) o Ddeddf 2014 fel ymadrodd sydd â’r ystyr a roddir i “Welsh family proceedings officer” gan adran 35 o Ddeddf Plant 2004 (p. 31).

(3)

2004 p. 31. Diwygiwyd adran 25 gan adran 39 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 (p. 21) (“Deddf 2007”) a pharagraffau 4(1) a 5 o Ran 1 o Atodlen 3 iddi. Diwygiwyd adran 28 gan adran 39 o Ddeddf 2007 a pharagraffau 4(1) a 6 o Ran 1 o Atodlen 3 iddi. Diwygiwyd adran 29 gan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p. 43) a pharagraffau 264 a 267 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno.