Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

Rhagolygol

1.  Mewn cysylltiad â’r person cysylltiedig—LL+C

(a)natur ac ansawdd unrhyw berthynas gyfredol ag C;

(b)ei allu i ofalu am blant ac, yn benodol mewn perthynas ag C i—

(i)darparu ar gyfer anghenion corfforol ac emosiynol C a sicrhau y caiff C ofal meddygol a deintyddol priodol,

(ii)amddiffyn C yn ddigonol rhag niwed neu berygl, gan gynnwys rhag unrhyw berson sy’n peri risg o niwed i C,

(iii)sicrhau bod y llety a’r amgylchedd cartref yn addas o ystyried oedran a lefel datblygiad C,

(iv)hyrwyddo dysgu a datblygiad C, a

(v)darparu amgylchedd teuluol sefydlog a fydd yn hyrwyddo ymlyniadau diogel ar gyfer C, gan gynnwys hyrwyddo cyswllt cadarnhaol gyda P a phersonau cysylltiedig eraill, oni fyddai gwneud hynny’n anghyson â’r ddyletswydd i ddiogelu a hyrwyddo llesiant C;

(c)cyflwr ei iechyd, gan gynnwys cyflwr presennol ei iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol a’i hanes meddygol, gan gynnwys unrhyw faterion presennol neu o’r gorffennol o ran trais domestig, camddefnyddio sylweddau neu broblemau iechyd meddwl;

(d)ei berthnasoedd teuluol a chyfansoddiad ei aelwyd, gan gynnwys manylion o’r canlynol—

(i)enwau pob aelod arall o’r aelwyd, gan gynnwys eu hoedrannau a natur eu perthynas â’r person cysylltiedig ac â’i gilydd, gan gynnwys unrhyw berthynas rywiol,

(ii)unrhyw berthynas gydag unrhyw berson sy’n rhiant C,

(iii)unrhyw berthynas rhwng C ac aelodau eraill o’r aelwyd,

(iv)oedolion eraill, nad ydynt yn aelodau o’r aelwyd, sy’n debygol o fod mewn cyswllt rheolaidd ag C, a

(v)unrhyw drais domestig presennol neu flaenorol rhwng aelodau o’r aelwyd, gan gynnwys y person cysylltiedig;

(e)ei hanes teuluol, gan gynnwys—

(i)manylion am ei blentyndod a’i fagwraeth, gan gynnwys cryfderau ac anawsterau ei rieni a phersonau eraill a fu’n gofalu amdano,

(ii)y perthnasoedd rhyngddo â’i rieni ac unrhyw frodyr neu chwiorydd, a’u perthnasaoedd â’i gilydd,

(iii)ei gyflawniad addysgol ac unrhyw anhawster neu anabledd dysgu penodol,

(iv)rhestr gronolegol o ddigwyddiadau bywyd arwyddocaol, a

(v)manylion am berthnasau eraill a’r perthnasoedd rhyngddynt ag C a’r person cysylltiedig;

(f)manylion am unrhyw droseddau y’i collfarnwyd amdanynt neu y cafodd rybuddiad mewn cysylltiad â hwy;

(g)ei gyflogaeth flaenorol a phresennol a’i ffynonellau eraill o incwm; ac

(h)natur y gymdogaeth y lleolir ei gartref ynddi, a’r adnoddau sydd ar gael yn y gymuned i gynorthwyo C a’r person cysylltiedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)