Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Penderfyniad lleoli

12.—(1Ni chaiff awdurdod cyfrifol benderfynu lleoli C y tu allan i’w ardal ac eithrio pan fodlonir yr awdurdod cyfrifol nad oes lleoliad ar gael o fewn ei ardal, a allai ddiwallu anghenion C (“lleoliad y tu allan i’r ardal”).

(2Pan fo paragraff (1) yn gymwys, rhaid i’r awdurdod cyfrifol chwilio am leoliad y tu allan i’r ardal ar gyfer C, yn unol â’r drefn blaenoriaeth ganlynol—

(a)mewn awdurdod lleol sydd â’i ardal yn ffinio ar ardal yr awdurdod cyfrifol;

(b)mewn awdurdod lleol yn Lloegr sydd â’i ardal yn ffinio ar ardal yr awdurdod cyfrifol;

(c)mewn unrhyw awdurdod lleol arall;

(d)mewn awdurdod lleol yn Lloegr, neu

(e)yn ddarostyngedig i ofynion adran 124 o Ddeddf 2014, y tu allan i Gymru a Lloegr(1).

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (5), os bodlonir awdurdod cyfrifol fod lleoli y tu allan i’r ardal yn angenrheidiol yn achos C, rhaid peidio â rhoi effaith i’r penderfyniad i leoli C y tu allan i’r ardal hyd nes bo—

(a)y penderfyniad wedi ei atgyfeirio at banel ac wedi ei gymeradwyo ganddo,

(b)cymeradwyaeth y panel o’r penderfyniad hwnnw wedi ei gofnodi mewn ysgrifen ynghyd â’r rhesymau dros gymeradwyo, ac

(c)y cofnod hwnnw o’r gymeradwyaeth wedi ei ardystio mewn ysgrifen gan y swyddog enwebedig, i gadarnhau ei gymeradwyaeth yntau.

(4Cyn cymeradwyo penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r panel a’r swyddog enwebedig ill dau fod wedi eu bodloni—

(a)y cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 10(1)(b)(i),

(b)mai’r lleoliad yw’r lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael ar gyfer C, a bod y lleoliad yn gyson â chynllun gofal a chymorth C,

(c)yr ymgynghorwyd â pherthnasau(2) C, os yw’n briodol,

(d)yr ymgynghorwyd â’r SAA,

(e)pan fo gan C anghenion addysgol arbennig y darperir ar eu cyfer mewn cynllun addysgol arbennig, fod yr awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr y bwriedir lleoli C yn ei ardal, wedi ei hysbysu ynghylch y lleoliad, ac y daethpwyd i gytundeb gyda’r awdurdod hwnnw mewn cysylltiad â diwallu anghenion addysgol arbennig C yn ystod lleoliad C yn ei ardal, ac

(f)os oes gan C anghenion iechyd sydd angen sylw, fod y darparwr gofal iechyd ar gyfer ardal yr awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr wedi ei hysbysu, ac mewn achosion priodol, y daethpwyd i gytundeb gyda’r darparwr gofal iechyd mewn cysylltiad â diwallu anghenion iechyd C.

(5Yn achos lleoliad a wneir mewn argyfwng—

(a)nid yw paragraff (3) yn gymwys;

(b)mae paragraff (4) yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn is-baragraff (c);

(c)rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau—

(i)y gwneir cofnod ysgrifenedig o’r penderfyniad, sy’n rhoi rhesymau dros wneud y penderfyniad,

(ii)yr ardystir y cofnod gan y swyddog enwebedig, i gadarnhau ei fod yn cytuno â’r penderfyniad,

(iii)y cydymffurfir â pharagraff (4)(a) a (b) cyn gwneud y lleoliad,

(iv)y cydymffurfir â pharagraff (4)(c) a (d) o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y lleoliad, a

(v)y cydymffurfir â pharagraff (4)(e) ac (f) cyn gynted ag y bo modd ar ôl gwneud y lleoliad.

(6Pan wneir lleoliad yn unol â pharagraff (5)—

(a)rhaid i’r awdurdod cyfrifol atgyfeirio’r lleoliad at banel cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud y lleoliad, a beth bynnag ddim hwyrach na 25 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y lleoliad, a

(b)rhaid hysbysu’r awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr, y lleolwyd C yn ei ardal, ynghylch y lleoliad, ddim hwyrach na 5 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y lleoliad.

(7Rhaid i’r cofnod o unrhyw benderfyniad a wneir yn unol â’r rheoliad hwn gael ei roi ar gael i’r aelod arweiniol dros wasanaethau plant ar gyfer yr awdurdod cyfrifol.

(8Yn y rheoliad hwn—

ystyr “hysbysu” (“notified”) ym mharagraff (6)(b) yw fod rhaid i’r awdurdod cyfrifol ddarparu—

(a)

manylion o’i asesiad o anghenion C a’r rhesymau pam yr ystyrir mai’r lleoliad a ddewiswyd yw’r ffordd fwyaf priodol o ddiwallu anghenion C, a

(b)

copi o gynllun gofal a chymorth C os na ddarparwyd copi eisoes;

ystyr “panel” (“panel”) yw panel o gynrychiolwyr o ba asiantaethau bynnag a all gynorthwyo awdurdod cyfrifol wrth gynllunio’r lleoliad ar gyfer C a diwallu anghenion C yn ystod y lleoliad, a rhaid i banel gynnwys cynrychiolydd o’r awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr y bwriedir lleoli C yn ei ardal, ac mewn achosion priodol, cynrychiolydd unrhyw ddarparwr gofal iechyd neu addysg perthnasol.

(1)

Mae adran 124 o Ddeddf 2014 yn ei gwneud yn ofynnol cael caniatâd y llys mewn achosion o’r fath.

(2)

Diffinnir “perthynas” yn adran 197(1) o Ddeddf 2014.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill