Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

Rhagolygol

Hysbysu ynghylch lleoliadLL+C

14.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r personau a restrir ym mharagraff (2) ynghylch y trefniadau ar gyfer lleoli C cyn gwneud y lleoliad, neu, os oes angen lleoli mewn argyfwng, o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl dechrau’r lleoliad, ac eithrio pan na ellir gwneud hynny yn rhesymol ymarferol.

(2Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)C, oni fyddai’n amhriodol gwneud hynny o ystyried oedran a dealltwriaeth C,

(b)P,

(c)os yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, unrhyw berson y caniateir iddo gael cyswllt ag C o dan adran 34(1) o Ddeddf 1989 ac unrhyw berson sydd â chyswllt ag C yn rhinwedd gorchymyn o dan adran 34 o’r Ddeddf honno (cyswllt rhiant etc. â phlant mewn gofal),

(d)os yw C yn derbyn gofal ond nid yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, unrhyw berson sydd â chyswllt ag C yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 8 o Ddeddf 1989 (gorchmynion trefniadau plant a gorchmynion eraill mewn cysylltiad â phlant),

(e)unrhyw berson a oedd yn gofalu am C yn union cyn gwneud y trefniadau,

(f)y bwrdd iechyd lleol (neu, yn achos plentyn sy’n byw neu sydd i’w leoli mewn ardal awdurdod lleol yn Lloegr, Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol)(1) a’r grŵp comisiynu clinigol(2)) ar gyfer yr ardal y mae C yn byw ynddi ac, os yw’n wahanol, ar gyfer yr ardal y bwriedir lleoli C ynddi,

(g)ymarferydd meddygol cofrestredig C, a phan fo’n gymwys, yr ymarferydd meddygol cofrestredig y bwriedir cofrestru C gydag ef yn ystod y lleoliad,

(h)unrhyw sefydliad addysgol a fynychir gan C, neu berson sy’n darparu addysg neu hyfforddiant i C,

(i)y Cydgysylltydd Addysg PDG ar gyfer yr ardal y mae C yn byw ynddi ac, os yw’n wahanol, ar gyfer yr ardal y bwriedir lleoli C ynddi,

(j)yr SAA, a

(k)pan fo C wedi ei leoli mewn cartref plant, gweithiwr dolen gyswllt C.

(3Caiff yr awdurdod cyfrifol benderfynu peidio â rhoi hysbysiad i unrhyw un neu bob un o’r personau a restrir ym mharagraffau (2)(b) i (e), os byddai gwneud hynny’n achosi perygl o niwed i C.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 14 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

(1)

Sefydlwyd Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (p. 41) (“Deddf 2006”), fel y’i mewnosodwyd gan adran 9(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7) (“Deddf 2012”).

(2)

Grŵp comisiynu clinigol yw corff a sefydlwyd o dan adran 14D o Ddeddf 2006. Mewnosodwyd adran 14D gan adran 25(1) o Ddeddf 2012. Gweler hefyd adran 1I o Ddeddf 2006, a fewnosodir gan adran 10 o Ddeddf 2012.