xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

Rhagolygol

RHAN 8LL+CSwyddogion adolygu annibynnol ac ymwelwyr annibynnol

Swyddogaethau ychwanegol swyddogion adolygu annibynnolLL+C

53.—(1Rhaid i’r SAA, gan roi sylw i oedran a dealltwriaeth C, sicrhau bod yr awdurdod cyfrifol wedi rhoi gwybod i C am y camau y caiff C eu cymryd o dan Ddeddf 1989 a Deddf 2014, ac yn benodol, os yw’n briodol—

(a)hawl C, gyda chaniatâd, i wneud cais am orchymyn o dan adran 8 o Ddeddf 1989 (gorchmynion trefniadau plentyn a gorchmynion eraill mewn cysylltiad â phlant), ac os yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, i wneud cais am ryddhad o’r gorchymyn gofal, a

(b)argaeledd y weithdrefn a sefydlwyd ganddo o dan adran 174 o Ddeddf 2014 ar gyfer ystyried unrhyw sylwadau (gan gynnwys cwynion) y gallai C ddymuno eu gwneud ynghylch y modd y mae’r awdurdod cyfrifol yn cyflawni ei swyddogaethau, gan gynnwys argaeledd cymorth i wneud sylwadau o’r fath o dan adran 178 o Ddeddf 2014.

(2Os yw C yn dymuno dwyn achos cyfreithiol o dan Ddeddf 1989, rhaid i’r SAA—

(a)canfod a oes oedolyn priodol sy’n alluog a bodlon i gynorthwyo C i gael cyngor cyfreithiol neu ddwyn achos ar ran C, a

(b)os nad oes person o’r fath, cynorthwyo C i gael cyngor o’r fath.

(3Yn yr amgylchiadau canlynol rhaid i’r SAA ystyried a fyddai’n briodol atgyfeirio achos C at swyddog achosion teuluol Cymru(1)

(a)pan fo’r awdurdod cyfrifol, mewn unrhyw fodd sylweddol, ym marn yr SAA, wedi—

(i)methu â pharatoi cynllun gofal a chymorth C yn unol â’r Rheoliadau hyn,

(ii)methu ag adolygu achos C yn unol â’r Rheoliadau hyn, neu wedi methu â gweithredu’n effeithiol unrhyw benderfyniad a wnaed o ganlyniad i adolygiad, neu

(iii)rywfodd arall wedi methu â chyflawni ei ddyletswyddau i C mewn unrhyw fodd perthnasol, a

(b)ar ôl tynnu sylw personau ar lefel uwch briodol o fewn yr awdurdod cyfrifol at y methiant, ni roddwyd sylw i’r mater er boddhad i’r SAA o fewn cyfnod rhesymol o amser.

(4Rhaid i’r SAA, pan fo’r awdurdod cyfrifol yn ymgynghori ag ef ynghylch unrhyw fater sy’n ymwneud ag C, neu pan hysbysir ef o unrhyw fater sy’n ymwneud ag C yn unol â’r Rheoliadau hyn—

(a)sicrhau bod yr awdurdod cyfrifol wedi canfod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C ynglŷn â’r mater dan sylw, ac, yn ddarostyngedig i oedran a dealltwriaeth C, wedi rhoi ystyriaeth briodol i safbwyntiau, dymuniadau a’r teimladau C, a

(b)ystyried a ddylid gofyn am adolygiad o achos C.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 53 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

(1)

Diffinnir “swyddog achosion teuluol Cymru” yn adran 197(1) o Ddeddf 2014 fel ymadrodd sydd â’r ystyr a roddir i “Welsh family proceedings officer” gan adran 35 o Ddeddf Plant 2004 (p. 31).