Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio) 2015

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio) 2015 a deuant i rym ar 23 Tchwedd 2015.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i achosion gerbron tribiwnlysoedd eiddo preswyl ar gyfer penderfynu ceisiadau(1) mewn cysylltiad â mangreoedd yng Nghymru.

Diwygio Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012

2.  Mae Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012(2) wedi eu diwygio yn unol â’r Atodlen.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

21 Hydref 2015