- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
defnyddir “A” (“A”) i gyfeirio at berson y darperir neu y trefnir, neu y caniateir darparu neu drefnu gofal a chymorth ar ei gyfer gan awdurdod lleol o dan Ran 4 o’r Ddeddf, ac sy’n atebol i dalu ffi fel y darperir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau hyn(1);
mae i “ad-daliad” (“reimbursement”) mewn perthynas â pherson y diwellir ei anghenion gan yr awdurdod lleol drwy wneud taliadau uniongyrchol, yr ystyr a roddir iddo yn y diffiniad o “taliadau gros” yn adran 53(2) o’r Ddeddf;
ystyr “anghenion asesedig” (“assessed needs”) yw anghenion person, a ganfuwyd mewn asesiad o dan adran 19 (dyletswydd i asesu anghenion oedolyn am ofal a chymorth), neu 24 (dyletswydd i asesu anghenion gofalwr am gymorth) o’r Ddeddf;
defnyddir “B” (“B”) i gyfeirio at berson y gwneir taliadau uniongyrchol mewn perthynas â’i anghenion gan awdurdod lleol, neu y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol o’r fath mewn perthynas â’i anghenion, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 50 neu 52 o’r Ddeddf, ac sy’n atebol i wneud cyfraniad neu ad-daliad;
ystyr “budd-dal perthnasol” (“relevant benefit”) yw—
cymhorthdal incwm, neu
lwfans cyflogaeth a chymorth, neu
credyd gwarant;
mae “cartref gofal” (“care home”) wedi ei ddiffinio yn adran 197(1) o’r Ddeddf(2);
mae “credyd gwarant” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “guarantee credit” yn adrannau 1 a 2 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(3);
mae i “cyfraniad” (“contribution”), mewn perthynas â pherson y diwellir ei anghenion drwy daliadau uniongyrchol a wneir gan yr awdurdod lleol, yr ystyr a roddir i’r gair yn y diffiniad o “taliadau net” yn adran 53(2) o’r Ddeddf;
mae i “cymhorthdal incwm” yr ystyr a roddir i “income support” a delir yn unol ag adran 124 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(4);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
mae i “ffi safonol” (“standard charge”) yr ystyr a roddir yn adran 63(3) o’r Ddeddf;
ystyr “ffi unffurf” (“flat-rate charge”) yw ffi sefydlog a osodir gan awdurdod lleol heb ystyried modd y person sy’n atebol i dalu ffi am—
gofal a chymorth a drefnir neu a ddarperir gan awdurdod lleol o dan Ran 4 o’r Ddeddf (diwallu anghenion); neu
gwasanaethau a ddarperir o dan adran 15 (gwasanaethau ataliol) neu am gynhorthwy a ddarperir o dan adran 17 o’r Ddeddf (darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy);
ystyr “gofal a chymorth ailalluogi” (“reablement”) yw gofal a chymorth—
a ddarperir neu a drefnir gan awdurdod lleol ar gyfer A o dan Ran 2 neu 4 o’r Ddeddf; neu
a sicrheir neu a drefnir gan A, pan fo A neu pan fydd A yn cael taliadau uniongyrchol a wneir yn unol ag adran 50 neu 52 o’r Ddeddf; ac
sydd—
yn cynnwys rhaglen o ofal a chymorth,
am gyfnod penodedig(5) o amser (“y cyfnod penodedig”), a
â’r diben o ddarparu cynhorthwy i A er mwyn galluogi A i barhau i allu byw’n annibynnol yn unig gartref neu brif gartref A neu i allu gwneud hynny eto;
ystyr “gofal a chymorth amhreswyl” (“non-residential care and support”) yw unrhyw ofal a chymorth a ddarperir i ddiwallu angen person am ofal a chymorth, ac eithrio darpariaeth o lety mewn cartref gofal;
ystyr “gwasanaeth dydd” (“day service”) yw gwasanaeth a ddarperir gan awdurdod lleol sy’n diwallu rhan o anghenion asesedig oedolyn, sy’n digwydd i ffwrdd o gartref yr oedolyn gyda’r bwriad o’i gynorthwyo i gyfarfod eraill, mabwysiadu diddordebau newydd neu arfer ei ddiddordebau presennol, gan gynnwys cyfleoedd gwaith;
ystyr “hawlogaeth sylfaenol” (“basic entitlement”) yw, mewn perthynas ag—
cymhorthdal incwm—
y lwfans personol(6) ac unrhyw bremiymau(7) y mae hawl gan A i’w cael, ond nid oes raid iddo gynnwys y premiwm anabledd difrifol (“severe disablement premium”) (“SDP”)(8) pan delir y premiwm hwnnw, a phan fo A yn ofalwr, mae’n cynnwys unrhyw bremiwm gofalwr y mae A yn ei gael,
lwfans cyflogaeth a chymorth—
y lwfans personol ac unrhyw bremiymau a chydrannau y mae hawl gan A i’w cael ond nid oes raid iddo gynnwys yr SDP pan delir y premiwm hwnnw, a phan fo A yn ofalwr, mae’n cynnwys unrhyw bremiwm gofalwr y mae A yn ei gael,
credyd gwarant—
y lwfans personol ac unrhyw swm ychwanegol y mae hawl gan A i’w gael, ond nid oes raid iddo gynnwys y swm ychwanegol ar gyfer anabledd difrifol pan delir hwnnw, a phan fo A yn ofalwr, mae’n cynnwys unrhyw swm ychwanegol a gaiff A sy’n gymwys i ofalwyr;
ystyr “incwm asesedig” (“assessed income”) yw’r rhan honno o incwm A, a gyfrifwyd yn unol â’r Rheoliadau Asesiad Ariannol, ac y caiff awdurdod lleol ei chymryd i ystyriaeth wrth wneud dyfarniad o dan y Rheoliadau hyn;
ystyr “incwm wythnosol net” (“net weekly income”) yw’r incwm wythnosol sydd neu a fyddai gan A yn weddill, ar ôl didynnu’r ffi safonol (neu unrhyw ffi arall) a osodir o dan Ran 5 o’r Ddeddf a’r Rheoliadau hyn, allan o incwm asesedig A;
ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth” (“employment and support allowance”) yw naill ai lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail cyfraniadau neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, yn unol â Rhan 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007(9);
ystyr “preswylydd byrdymor” (“short-term resident”) yw person y darperir, neu y bwriedir darparu, llety mewn cartref gofal iddo o dan y Ddeddf am gyfnod nad yw’n hwy nag 8 wythnos;
ystyr “Rheoliadau Asesiad Ariannol” (“Financial Assessment Regulations”) yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015(10);
ystyr “Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol” (“Direct Payments Regulations”) yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2015(11);
mae i “taliad uniongyrchol” (“direct payment”) yr ystyr a roddir i’r term yn adrannau 50(7) a 52(7) o’r Ddeddf;
ystyr “terfyn ariannol” (“financial limit”) yw’r terfyn o ran cyfalaf A a osodir gan y terfyn cyfalaf;
ystyr “terfyn cyfalaf” (“capital limit”) yw’r uchafswm cyfalaf, a asesir yn unol â’r Rheoliadau Asesiad Ariannol, y caniateir i berson y codir ffi arno feddu arno, ac uwchlaw’r uchafswm hwnnw y bydd yn ofynnol i’r person hwnnw, yn unol â rheoliad 11, dalu’r ffi safonol yn llawn.
(5) Yn y Rheoliadau hyn, yn achos gofalwr, rhaid darllen cyfeiriadau at ddarparu neu drefnu gofal a chymorth fel pe baent yn gyfeiriadau at ddarparu neu drefnu cymorth.
Mae adran 66(2) o’r Ddeddf yn cyfeirio at berson yr aseswyd ei adnoddau ariannol o dan adran 63 fel “y person a aseswyd”.
Mae adran 197(1) yn rhoi i “cartref gofal” yr un ystyr â “care home” yn Neddf Safonau Gofal 2000 (p. 14). Mae’r term wedi ei ddiffinio yn adran 3 o’r Ddeddf honno.
Bydd awdurdod lleol yn “pennu” hyd y cyfnod gofal a chymorth ailalluogi y mae ei angen ar A yn seiliedig ar anghenion asesedig A.
Y lwfans personol yw’r “personal allowance” fel y’i nodir ym mharagraffau 1, 1A a 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Cymhorthdal Incwm 1987 (O.S. 1987/1967).
Y premiymau yw’r “premiums” a nodir yn Rhannau II a III o Atodlen 2 i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.
Gwneir darpariaeth ar gyfer y premiwm anabledd difrifol gan baragraff 13 o Atodlen 2 i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys