Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015

RHAN 4LL+CDŵr yfed wedi’i botelu

Potelu dŵr yfedLL+C

19.  Ni chaiff neb botelu dŵr yfed oni bai bod y dŵr hwnnw yn bodloni gofynion Atodlen 7.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 19 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Labelu dŵr yfed wedi’i boteluLL+C

20.  Ni chaiff neb botelu dŵr yfed a’i labelu gyda—

(a)dynodiad, enw perchnogol, marc masnachol, enw brand, llun neu arwydd arall, pa un a yw’n arwyddlun ai peidio, y gallai’r defnydd ohonynt beri dryswch rhwng y dŵr yfed a dŵr mwynol naturiol, neu

(b)y disgrifiad “mineral water”, “dŵr mwynol”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 20 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Hysbysebu dŵr yfed wedi’i boteluLL+C

21.  Ni chaiff neb hysbysebu dŵr yfed wedi’i botelu o dan—

(a)unrhyw ddynodiad, enw perchnogol, marc masnachol, enw brand, llun neu arwydd arall, pa un a yw’n arwyddlun ai peidio, y gallai’r defnydd ohonynt beri dryswch rhwng y dŵr a dŵr mwynol naturiol, neu

(b)y disgrifiad “mineral water”, “dŵr mwynol”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 21 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Gwerthu dŵr yfed wedi’i boteluLL+C

22.  Ni chaiff neb werthu dŵr yfed wedi’i botelu—

(a)sydd wedi’i botelu yn groes i reoliad 19;

(b)sydd wedi’i labelu yn groes i reoliad 20; neu

(c)sy’n cael ei hysbysebu yn groes i reoliad 21.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 22 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)