xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Caffael Tir, Cymru
Gwnaed
9 Tachwedd 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
13 Tachwedd 2015
Yn dod i rym
10 Rhagfyr 2015
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 10 Rhagfyr 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Digollediad Tir 1973.
2. Pan fo’r dyddiad dadleoli ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu ar ei ôl—
(a)£53,000 yw uchafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf;
(b)£5,300 yw isafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf; ac
(c)£5,300 yw swm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(2) o’r Ddeddf.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2008(3) wedi eu dirymu.
(2) Bydd y Rheoliadau a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â dadleoli sy’n digwydd cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
9 Tachwedd 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn cynyddu uchafsymiau ac isafsymiau’r taliadau colli cartref sy’n daladwy o dan Ddeddf Digollediad Tir 1973 (“y Ddeddf”) i’r rhai sydd â buddiant perchennog mewn annedd. Mae’r Rheoliadau hyn yn cynyddu hefyd swm y taliad colli cartref sy’n daladwy mewn unrhyw achos arall.
Mae hawl gan berson a ddadleolir o annedd drwy brynu gorfodol neu o dan amgylchiadau eraill a bennir yn adran 29 o’r Ddeddf i gael taliad colli cartref. Cafodd y sail bresennol ar gyfer asesu swm y taliad colli cartref ei sefydlu drwy ddiwygiadau a wnaed i’r Ddeddf a geir yn Neddf Cynllunio a Digolledu 1991.
Mewn achosion pan fo gan berson sy’n meddiannu annedd ar ddyddiad y dadleoli fuddiant perchennog, mae adran 30(1) o’r Ddeddf yn darparu bod swm y taliad colli cartref yn cael ei gyfrifo fel canran o werth y buddiant hwnnw ar y farchnad, a hynny’n ddarostyngedig i uchafswm ac isafswm.
Mae adran 30(2) o’r Ddeddf yn rhagnodi swm y taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall.
Mae rheoliad 2(a) o’r Rheoliadau hyn yn cynyddu’r uchafswm sy’n daladwy o dan adran 30(1) o’r Ddeddf o £47,000 i £53,000 ac mae rheoliad 2(b) yn cynyddu’r isafswm o £4,700 i £5,300. Mae rheoliad 2(c) yn cynyddu’r taliad colli cartref sy’n daladwy, o dan adran 30(2) o’r Ddeddf, mewn unrhyw achos arall o £4,700 i £5,300.
Dim ond uchafsymiau ac isafsymiau’r taliadau colli cartref sydd wedi eu newid ac nid oes unrhyw newid yn y ganran sy’n daladwy o werth ar y farchnad buddiant y person sydd wedi ei ddadleoli yn yr annedd.
Mae’r symiau diwygiedig yn gymwys pan fo’r dadleoli’n digwydd ar 10 Rhagfyr 2015 neu ar ôl hynny.
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu y bydd Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2008 yn parhau i gael effaith o ran dadleoli sy’n digwydd cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym ond ar wahân i hynny maent yn cael eu dirymu.
1973 p. 26; amnewidwyd adran 30 gan adran 68(3) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) gydag effaith o 25 Medi 1991 (gweler erthygl 3 o O.S. 1991/2067).
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 30, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 30 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).