Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Darpariaethau Canlyniadol) 2015

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1924 (Cy. 287)

Llesiant, Cymru

Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Darpariaethau Canlyniadol) 2015

Gwnaed

17 Tachwedd 2015

Yn dod i rym

23 Tachwedd 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 53(1) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015(1).

Yn unol ag adran 54(4)(c) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Darpariaethau Canlyniadol) 2015.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Tachwedd 2015.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Darpariaeth ganlyniadol mewn perthynas â’r cyfnod cyntaf y mae rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gynnal ymchwiliadau o’i fewn o dan adran 15 o’r Ddeddf

3.  Er gwaethaf adran 15(6)(a) o’r Ddeddf, mae’r cyfnod cyntaf y cyfeirir ato yn is-adrannau (2) a (3) o adran 15 yn dechrau ar y dyddiad sy’n digwydd fis cyn y dyddiad y mae etholiad cyffredinol arferol i’w gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2).

Darpariaeth ganlyniadol mewn perthynas â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru: Amcangyfrif incwm a gwariant 2016-2017

4.  At ddibenion y flwyddyn ariannol sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2017, mae paragraff 19(2) o Atodlen 2 i’r Ddeddf i’w ddarllen fel pe bai “heb fod yn hwyrach na thri mis ar ôl penodiad y Comisiynydd o dan adran 17(2)” wedi ei roi yn lle “o leiaf bum mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi”.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

17 Tachwedd 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau canlyniadol mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”).

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag adran 15 o’r Ddeddf (yr egwyddor datblygu cynaliadwy: ymchwiliadau’r Archwilydd Cyffredinol) sy’n diffinio’r cyfnod adrodd ar gyfer ymchwiliadau Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae’r adran hon i fod i ddod i rym lai na blwyddyn cyn etholiad cyffredinol arferol nesaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, efallai bod amheuaeth ynghylch pryd y mae’r cyfnod adrodd cyntaf a ddisgrifir yn is-adran (6) o adran 15 i ddechrau. Mae’r rheoliad hwn felly yn addasu adran 15(6)(a) i’w gwneud yn glir bod y cyfnod adrodd cyntaf o dan yr adran hon yn dechrau fis cyn yr etholiad nesaf (yn ymarferol 5 Ebrill 2016 fydd hyn).

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (“y Comisiynydd”) mewn cysylltiad â’r amcangyfrifon o incwm a gwariant ar gyfer blwyddyn ariannol 2016-2017. Mae paragraff 19 o Atodlen 2 i’r Ddeddf yn darparu bod rhaid i’r Comisiynydd, ar gyfer pob blwyddyn ariannol ac eithrio’r un gyntaf, lunio amcangyfrif o incwm a gwariant y Comisiynydd a’i staff. Yn unol â pharagraff 19(2) o Atodlen 2 i’r Ddeddf, mae’n ofynnol i’r Comisiynydd gyflwyno’r amcangyfrif i Weinidogion Cymru o leiaf bum mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi.

O gofio’r cyfnod amser ar gyfer penodi’r Comisiynydd, mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ganlyniadol sy’n addasu paragraff 19(2) o Atodlen 2 i’r Ddeddf fel bod rhaid i’r Comisiynydd, ar gyfer blwyddyn ariannol 2016-2017 yn unig, gyflwyno’r amcangyfrif dri mis ar ôl ei benodiad gan Weinidogion Cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.