- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
10 Chwefror 2015
Yn dod i rym
1 Ebrill 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 12, 36 a 47(1) a (2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae’r rheoliadau a nodir yn Atodlen 1 wedi eu dirymu.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Cofrestr” (“Register”) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gynhelir o dan adran 9 o Ddeddf 2014; ac ystyr “cofrestru” (“registration”) yw cofrestru yn y Gofrestr;
ystyr “cyflogwr” (“employer”) yw person sy’n cyflogi person cofrestredig i ddarparu gwasanaethau perthnasol neu’n ei gymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau perthnasol;
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;
ystyr “dyddiad hysbysu” (“notification date”) yw’r dyddiad yr hysbysir cyflogwr amdano gan y Cyngor fel y dyddiad y daw’r ffi yn daladwy; ac
ystyr “ffi” (“fee”) yw unrhyw ffi sy’n daladwy yn rhinwedd adran 12 o Ddeddf 2014.
3.—(1) Y ffioedd sy’n daladwy ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2015 ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2016 yw—
(a)£45 i athrawon ysgol; a
(b)£45 i athrawon addysg bellach.
(2) Mae swm a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro i’w dalu tuag at y ffioedd sy’n daladwy yn unol â pharagraff (1).
(3) Rhaid i swm unrhyw gymhorthdal a bennir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (2) gael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
(4) Caiff y Cyngor wneud darpariaeth—
(a)i godi ac adennill ffioedd a bennir gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â—
(i)ceisiadau i gofrestru neu i ailosod cofnodion yn y Gofrestr; a
(ii)cadw cofnodion yn y Gofrestr; a
(b)fel bod eithriadau ac esemptiadau pan na chodir ffioedd.
4. Os gwneir cais gan y Cyngor, rhaid i gyflogwr roi’r manylion a bennir yn Atodlen 2 iddo am unrhyw berson a gyflogir gan y cyflogwr hwnnw ar ddyddiad a bennir gan y Cyngor ac y mae’n ofynnol iddo gael ei gofrestru yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adrannau 14 i 16 o Ddeddf 2014.
5.—(1) Rhaid i gyflogwr person y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y ffi yn cael ei didynnu o’r cyflog a delir i’r person hwnnw yn union ar ôl y dyddiad hysbysu.
(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson y mae’r cyflogwr wedi cael hysbysiad (“hysbysiad talu”) gan y Cyngor mewn cysylltiad ag ef, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo sicrhau bod y ffi yn cael ei didynnu o gyflog y person hwnnw.
(3) Rhaid i hysbysiad talu bennu’r swm sydd i’w ddidynnu o’r cyflog gan ystyried swm y cymhorthdal a bennir yn unol â rheoliad 3(2).
(4) Dim ond os yw’r Cyngor wedi ei fodloni nad yw’r person y dyroddir yr hysbysiad mewn cysylltiad ag ef eisoes wedi talu’r ffi ar y dyddiad hysbysu ac—
(a)bod y person wedi ei gofrestru yn y Gofrestr, neu
(b)ei bod yn ofynnol i’r person gael ei gofrestru felly yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adrannau 14 i 16 o Ddeddf 2014,
y caniateir i hysbysiad talu gael ei ddyroddi i gyflogwr.
6. Rhaid i’r cyflogwr, o fewn 14 diwrnod i’r ffi gael ei didynnu yn unol â rheoliad 5 dalu’r ffi honno i’r Cyngor.
7. Wrth dalu’r ffi, rhaid i’r cyflogwr roi i’r Cyngor y manylion a bennir yn Atodlen 2 am y person y telir y ffi mewn perthynas ag ef.
8. Os nad yw person yn cyflawni dyletswydd o fewn terfyn amser a bennir yn y Rheoliadau hyn, nid yw hynny’n rhyddhau’r person hwnnw o’r ddyletswydd honno.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
10 Chwefror 2015
Rheoliad 1
Y rheoliadau a ddirymir | Cyfeiriadau | Graddau’r dirymu |
---|---|---|
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 | (Cy. 140) | Rheoliad 9 |
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002 | O.S. 2002/326 (Cy. 39) | Yn llawn |
Rheoliad 4
1. Enw llawn y person.
2. Os yw’n hysbys, unrhyw enw a fu gan y person gynt.
3. Pa un yw’r person yn wryw neu’n fenyw.
4. Y rhif cofrestru swyddogol, os oes un, a neilltuwyd i’r person.
5. Enw’r ysgol neu’r sefydliad y mae’r person yn cael ei gyflogi ynddo.
6. Rhif yswiriant gwladol y person.
7. Cyfeiriad cartref neu gyfeiriad cyswllt arall y person.
8. Dyddiad geni’r person.
9. Rhif ffôn a chyfeiriad post electronig y person (os ydynt ar gael).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Ailenwodd adran 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Yr enw newydd yw Cyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”).
Mae adran 12 o Ddeddf 2014 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â chofrestru yn y gofrestr a sefydlir ac a gynhelir gan y Cyngor o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (“y Gofrestr”).
Nodir y ffioedd sy’n daladwy yn rheoliad 3 sy’n darparu mai £45 yw’r ffi sy’n daladwy gan athrawon ysgol ac athrawon addysg bellach ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2015 ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2016. Mae rheoliad 3 hefyd yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru bennu’r swm a roddir tuag at y ffioedd cofrestru hynny ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gyhoeddi’r swm hwnnw ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i gyflogwr, ar gais y Cyngor, gyflenwi i’r Cyngor yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 2, pan fo’n cyflogi person y mae’n ofynnol iddo gael ei gofrestru.
Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwr sydd wedi cael ei hysbysu gan y Cyngor ddidynnu ffi gofrestru o gyflog athro neu athrawes ysgol neu athro neu athrawes addysg bellach; ac mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyflogwr ei thalu i’r Cyngor o fewn 14 diwrnod.
Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyflogwr gyflenwi i’r Cyngor yr wybodaeth yn Atodlen 2 mewn cysylltiad â’r person y telir y ffi iddo wrth dalu’r ffi iddo.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Safonau Ymarferwyr a Datblygu Proffesiynol yn yr Adran Addysg a Sgiliau.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys