xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Cymhwyso adran 119 i gategorïau penodol o blant

Lleoli plentyn sydd o dan 13 oed mewn llety diogel

13.—(1Ni chaiff awdurdod lleol leoli plentyn sydd o dan 13 mlwydd oed mewn llety diogel heb gael cymeradwyaeth ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru ar gyfer lleoli’r plentyn hwnnw.

(2Caiff Gweinidogion wneud y gymeradwyaeth yn ddarostyngedig i ba bynnag delerau ac amodau ag y tybiant yn briodol.

Plant nad yw adran 119 yn gymwys iddynt

14.  Nid yw adran 119 yn gymwys i blentyn—

(a)sydd dan gadwad o dan unrhyw ddarpariaeth o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(1) neu y gwnaed gorchymyn mewn perthynas ag ef o dan adran 90 neu 91 o Ddeddf Pwerau’r Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000(2) (cadw yn ôl ewyllys Ei Mawrhydi neu am gyfnod penodedig);

(b)sy’n destun gorchymyn asesu plentyn a wnaed o dan adran 43 o Ddeddf Plant 1989(3)ac a gedwir i ffwrdd o gartref yn unol â’r gorchymyn hwnnw;

(c)sydd yn 16 neu 17 oed ac a letyir o dan adran 76 o’r Ddeddf;

(d)sydd ar remánd i lety cadw ieuenctid ac a drinnir fel pe bai’n derbyn gofal yn rhinwedd adran 104(1) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012(4).

Plant dan gadwad y mae adran 119 yn gymwys iddynt gydag addasiadau: plant dan gadwad o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984

15.—(1Mae adran 119 o’r Ddeddf yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r addasiad a bennir ym mharagraff (2) mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, sydd rhwng 12 ac 16 mlwydd oed ac sydd dan gadwad o dan adran 38(6) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(5) (plant dan gadwad).

(2Yr addasiad, ym mharagraff (1), yw y rhoddir, yn lle’r geiriau o “onid yw’n ymddangos” hyd at ddiwedd is-adran (1), y canlynol—

onid yw’n ymddangos bod unrhyw lety arall ac eithrio llety a ddarperir at y diben o gyfyngu ar ryddid yn amhriodol oherwydd—

(a)bod y plentyn yn debygol o ddianc o’r cyfryw lety arall, neu

(b)bod y plentyn yn debygol o anafu ei hun neu bersonau eraill os cedwir y plentyn mewn unrhyw gyfryw lety arall.

Plant y mae adran 119 yn cael effaith mewn perthynas â hwy yn ddarostyngedig i addasiadau

16.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 7 a pharagraffau (2) a (3) o’r rheoliad hwn mae adran 119 o’r Ddeddf, yn ogystal ag i blant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol (gan gynnwys awdurdodau lleol yn Lloegr), yn gymwys hefyd i’r canlynol —

(a)plant, ac eithrio rhai sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (gan gynnwys awdurdod lleol yn Lloegr), a letyir gan—

(i)Byrddau Iechyd Lleol;

(ii)Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (“Ymddiriedolaethau GIG”);

(iii)awdurdodau lleol sy’n arfer swyddogaethau addysg;

(b)plant, ac eithrio rhai sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, a letyir mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol.

(2Mewn perthynas â’r plant a bennir ym mharagraff (1)(a), mae adran 119 yn cael effaith yn ddarostyngedig i addasiadau fel a ganlyn—

(a)yn is-adran (1) yn lle’r geiriau “sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr” rhodder “y darperir llety iddo gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu awdurdod lleol sy’n arfer swyddogaethau addysg”;

(b)yn is-adran (2)(c) yn lle’r geiriau “gan awdurdod lleol” rhodder “gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu awdurdod lleol sy’n arfer swyddogaethau addysg”.

(3Mewn perthynas â’r plant a bennir ym mharagraff (1)(b), mae adran 119 yn cael effaith yn ddarostyngedig i addasiadau fel a ganlyn—

(a)yn is-adran (1) yn lle’r geiriau “sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr” rhodder “y darperir llety iddo mewn cartref gofal neu mewn ysbyty annibynnol”; a

(b)yn is-adran (2)(c) yn lle’r geiriau “gan awdurdod lleol” rhodder “gan berson sy’n cynnal cartref gofal neu ysbyty annibynnol”.

Datgymhwyso Rheoliadau Plant (Llety Diogel) 1991 o ran Cymru

17.  Yn Rheoliadau Plant (Llety Diogel) 1991(6) mewnosoder y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 1—

Disapplication to Wales

1A.(1) These Regulations do not apply—

(a)in relation to the placement of a looked after child by a Welsh local authority;

(b)in relation to the provider of a children’s home in Wales;

(c)in relation to an application to a court for authority to place a child in secure accommodation in Wales.

(2) In relation to cases to which paragraph (1) applies refer to adran 119 of the Social Services and Wellbeing (Wales) Act 2014 and the Children (Secure Accommodation) (Wales) Regulations 2015.

Dirymiadau

18.  Mae’r Rheoliadau canlynol wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Diwygio) (Cymru) 2006(7);

(b)Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Diwygio) (Cymru) 2013(8).

Datgymhwyso Rheoliadau o ran Cymru

19.  Mae’r Rheoliadau canlynol wedi eu datgymhwyso o ran Cymru—

(a)Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Rhif 2) 1991(9);

(b)Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Diwygio) 1992(10);

(c)Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Diwygio) 1995(11).