Dehongli
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
Ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd;
ystyr “allforio” (“export”) yw anfon i Aelod-wladwriaeth arall neu i drydedd wlad;
ystyr “anifail” (“animal”) yw unrhyw anifail o’r rhywogaethau defeidiog neu afraidd;
ystyr “annarllenadwy” (“illegible”), mewn perthynas â dyfais adnabod electronig, yw annarllenadwy naill ai’n electronig neu’n weledol;
ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd yn arolygydd at ddibenion y Gorchymyn hwn gan Weinidogion Cymru neu gan awdurdod lleol;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas ag ardal yw’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;
ystyr “canolfan gasglu” (“collection centre”) yw mangre a ddefnyddir fel derbynfa dros dro ar gyfer anifeiliaid y bwriedir eu symud i rywle arall (ond nid yw’n cynnwys marchnad neu le arall a ddefnyddir ar gyfer gwerthu neu farchnata anifeiliaid onid oes bwriad i gigydda’r holl anifeiliaid sydd yno ar unwaith);
ystyr “canolfan grynhoi” (“assembly centre”) yw unrhyw ddaliad lle mae defaid neu eifr sy’n tarddu o wahanol ddaliadau yn cael eu dwyn ynghyd i ffurfio llwythi o anifeiliaid y bwriedir eu hallforio, neu unrhyw ddaliad a ddefnyddir yng nghwrs allforio;
mae i “ceidwad” yr ystyr a roddir i “keeper” yn Erthygl 2 o Reoliad y Cyngor;
ystyr “cod adnabod” (“identification code”) yw’r cod a nodir ar fodd adnabod yn unol â’r gofynion o dan y Gorchymyn hwn neu o dan y Gorchmynion blaenorol;
ystyr “cofrestr” (“register”) yw’r gofrestr sy’n ofynnol gan Erthygl 5 o Reoliad y Cyngor;
ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC” (“Council Directive 92/102/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC ynglŷn ag adnabod a chofrestru anifeiliaid();
mae i “daliad” yr ystyr a roddir i “holding” yn Erthygl 2 o Reoliad y Cyngor;
ystyr “dogfen symud” (“movement document”) yw’r ddogfen symud sy’n ofynnol gan Erthygl 6 o Reoliad y Cyngor;
ystyr “dull adnabod” (“method of identification”) yw tag clust, tag egwyd neu datŵ a osodir mewn Aelod-wladwriaeth arall neu drydedd wlad;
ystyr “dyfais adnabod” (“identification device”) yw tag clust, tag clust electronig, tag egwyd, tag egwyd electronig neu folws;
ystyr “y Gorchmynion blaenorol” (“the previous Orders”) yw—
(a)
Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2009();
(b)
Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2008();
(c)
Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006();
(d)
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002();
(e)
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002();
(f)
Rheoliadau Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002();
(g)
Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofrestru, Adnabod a Symud) (Lloegr) 2009();
(h)
Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofrestru, Adnabod a Symud) (Lloegr) 2007();
(i)
Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofrestru, Adnabod a Symud) (Lloegr) 2005();
(j)
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Lloegr) (Rhif 2) 2002();
(k)
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Lloegr) 2002();
(l)
Gorchymyn Adnabod Defaid a Geifr (Lloegr) 2000();
(m)
Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofrestru, Adnabod a Symud) (Gogledd Iwerddon) 2009();
(n)
Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofrestru, Adnabod a Symud) (Gogledd Iwerddon) 2005();
(o)
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Gogledd Iwerddon) 2004();
(p)
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Gogledd Iwerddon) 1997();
(q)
Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofrestru, Adnabod a Symud) (Yr Alban) 2009();
(r)
Rheoliadau Defaid a Geifr (Adnabod ac Olrheinadwyedd) (Yr Alban) 2006();
(s)
Gorchymyn Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Yr Alban) 2002();
(t)
Rheoliadau Adnabod Defaid a Geifr (Yr Alban) 2000();
ystyr “gweithredwr lladd-dy” (“slaughterhouse operator”) yw person sy’n rhedeg busnes lladd-dy neu gynrychiolydd i berson o’r fath a awdurdodwyd yn briodol;
ystyr “gweithredwr marchnad” (“market operator”) yw person sy’n gyfrifol am reoli derbyn neu werthu anifeiliaid mewn marchnad neu gynrychiolydd i berson o’r fath a awdurdodwyd yn briodol;
ystyr “marc adnabod” (“identification mark”) yw dull adnabod a osodwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall, modd adnabod neu fodd adnabod hŷn;
ystyr “marchnad” (“market”) yw marchnadfa, iard arwerthu neu unrhyw fangre neu le arall y dygir anifeiliaid iddi neu iddo o unrhyw le arall i’w dangos ar gyfer eu gwerthu, ac mae’n cynnwys unrhyw le, gwalfa neu faes parcio cyfagos i farchnad, a ddefnyddir mewn cysylltiad â’r farchnad;
ystyr “modd adnabod” (“means of identification”) yw dyfais adnabod neu datŵ;
ystyr “nod diadell” (“flockmark”) yw’r rhif a ddyrannwyd gan Weinidogion Cymru o ran diadell o ddefaid ar ddaliad;
ystyr “pwynt cofnodi canolog” (“central point of recording”) yw daliad a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru o dan Adran C.2 o’r Atodiad i Reoliad y Cyngor ar gyfer cofnodi manylion adnabod anifeiliaid sy’n cyrraedd y daliad hwnnw;
ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 21/2004 sy’n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru defaid a geifr ac sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1782/2003 a Chyfarwyddebau 92/102/EEC a 64/432/EEC() fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;
ystyr “rhif unigryw” (“unique number”) yw rhif sy’n unigryw i anifail mewn diadell neu eifre ac nad yw’n cynnwys mwy na 6 digid.
(2) Mae i ymadroddion nas diffinnir ym mharagraff (1) a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg sy’n cyfateb iddynt yn Rheoliad y Cyngor yr un ystyron yn y Gorchymyn hwn ag sydd i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Rheoliad hwnnw.